19

Newid gwedd mân-werthu

Newid gwedd mân-werthu

Mae ein byd yn newid, yn cynnwys sut yr ydym ni’n siopa. Mae hyn yn golygu mai un o’r amgylcheddau dynol sy’n newid gyflymaf yw’r stryd fawr leol. Mae’n debyg bod llawer o’r pethau a ysgrifennwyd mewn llyfrau Daearyddiaeth ddeng mlynedd yn ôl, nawr yn anghywir.

undefined

Mewn gwirionedd byddai llywodraethau lleol yn dweud mai cynllunio dyfodol canol eu trefi yw un o’u heriau mwyaf. Os ydyn nhw’n ei wneud yn gywir, mae’r wobr o swyddi ac arian yn enfawr. Ond os ydyn nhw’n cynllunio’n anghywir, yna byddai’r lefelau diweithdra a phroblemau cymdeithasol yn achosi helynt mawr.

Cyn y Nadolig yn 2012, caeodd y siop drydanol Comet ei drysau am y tro olaf. Roedd yn enw mawr yn y byd mân-werthu ac yn cyflogi 6,611 o bobl mewn 236 o siopau. Nid yn unig y bydd rhaid i Lywodraeth Prydain gynnal y bobl ddi-waith yma nawr, ond mi fydd hefyd yn colli £26.2 miliwn mewn trethi.

Daw’r arian sydd ei angen ar y llywodraeth o’n biliau treth ni; felly mae’n effeithio ar bob un ohonom. Ond cyn i chi deimlo’ch bod chi’n cael cam, meddyliwch am blant y 6,611 person yna am funud, collon nhw eu cyflog dim ond ddyddiau cyn y Nadolig! 


Newid gwedd mân-werthu - Gweinyddiad

undefinedPan fydd cwmni neu fusnes mawr mewn trafferth ariannol, mae ganddo’r hawl i wneud cais am weinyddiad.

Nid yw ‘gweinyddiad’ yn golygu ysgrifennu llythyrau neu ffeilio gwaith papur - mae’n golygu bod busnes yn cael ei warchod rhag ei gredydwyr sef y bobl mae'r busnes mewn dyled iddyn nhw. Mae’r llysoedd yn penodi cwmni arbenigol i redeg yr cwmni sydd wedi methu. Eu henwau nhw yw’r gweinyddwyr.

 

Gweithredu dan weinyddiad - HMV

Oeddech chi'n gwybod?

Er ei fod yn swnio’n ddrwg, weithiau gall hyn fod yn newyddion da. Ym mis Mawrth 2012 aeth yr mân-werthwr gemau ‘GAME’ dan weinyddiad. Ond ym mis Ebrill llwyddodd y gweinyddwyr ei werthu i grwp o’r enw Baker Acqusitions a lwyddodd i ddiogelu swyddi 5,800 o bobl yn ogystal ag ail-gyflogi pobl oedd wedi colli eu swyddi’n flaenorol.

Mi fu gwaith y gweinyddwyr mor llwyddiannus bryd hynny, pan aeth siopau ‘HMV’ dan weinyddiaeth ym mis Ionawr 2013 roedd y grwp GAME/Baker Acquisitions newydd yn ddigon cryf i brynu pob un o’r siopau HMV!


Newid gwedd mân-werthu - pam cael Stryd Fawr?

undefined

Mae’n debyg y gallai pobl ifanc heddiw ofyn y cwestiwn hwn yn hawdd iawn. Pam gwario arian ar docynnau bws, tocynnau trên, tanwydd a pharcio er ei bod hi’n gynt, yn haws a fel arfer, yn rhatach mynd ar y we? O fewn cliciau gallwch brynu nwyddau a’u cael wedi’u dosbarthu at ddrws eich ty.

 

 

 

Oeddech chi'n gwybod?

Dyma rai rhesymau am ymweld â’r Stryd Fawr:

  • Gall siopa fod yn ddigwyddiad hwyliog neu gymdeithasol
  • Yn aml iawn mae siopwyr yn hoffi trïo dillad cyn eu prynu nhw a chwilio am esgidiau ac ategolion i gyd-fynd
  • Weithiau bydd siopwyr eisiau cydlynu ei gwisgoedd rhwng aelodau o un grwp
  • Maen nhw angen lle i fynd i drïo a chymharu eitemau (siopa cymharol) yn ogystal â chael rhywbeth i’w fwyta neu ei yfed
  • Mae ambell i Stryd Fawr yn atyniadau twristiaid lle mae pobl yn mynd yno i aros am ychydig o ddiwrnodau er mwyn mynd i siopa

 

Ond, heb law am siopa cymharol, mae’r rhan fwyaf o’r rhesymau dros gael Stryd Fawr wedi mynd.

Yn aml iawn, roedd yn fan lle deuai gwahanol ffyrdd a thrafnidiaeth at ei gilydd mewn nod trafnidiaeth. Ond heddiw, oherwydd tagfeydd mae’r Stryd Fawr yn lle anodd ei gyrraedd, ac efallai na fydd lle i barcio ychwaith.

Oherwydd mai’r Stryd Fawr oedd y lle hawsaf i’w gyrraedd mewn tref neu ddinas, dyma oedd lleoliad busnesau eraill mewn blociau mawr o swyddfeydd. Byddai’r gweithwyr a chwsmeriaid y busnesau hyn hefyd yn dod yn gwsmeriaid neu’n farchnad i’r mân-werthwyr ac roedd hyn yn helpu’r Stryd Fawr i dyfu fel canolfan siopa.

Ond, yn ddiweddar mae llawer o’r swyddfeydd hyn wedi symud allan o’r dref er mwyn ei gwneud hi’n haws eu cyrraedd gyda char.

Cadw traed ar y llawr...

undefinedY term am yr holl bobl yng nghanol tref neu ar y stryd fawr yw swn traed. Arferai’r Stryd Fawr feddu ar y swn traed uchaf yng nghanol tref ac felly yn atynnu mân-werthwyr a gwasanaethau arbenigol. Mae’r rhain yn siopau neu’n wasanaethau sydd fel arfer yn ddrud, ac yn rhai nad oes eu hangen ar gwsmeriaid yn aml.

 

 

 


Poblogaeth drothwy

Mae Jessops yn enghraifft dda o adwerthwr sydd angen poblogaeth drothwy uchel. Ym mis Ionawr 2013 aeth Jessops dan weinyddiad gan gau 187 o siopau a cholli 1,534 o swyddi.

undefined

Roedd Jessops yn fân-werthwr y Stryd Fawr glasurol. Dyma’r syniad: nid yw pobl yn prynu pethau fel camerâu ac ati yn aml iawn, felly byddai lle i siop arbenigol fel Jessops ar y Stryd Fawr mewn tref neu ddinas â phoblogaeth gyfagos fawr. Mae’r maint y nifer o bobl sydd ei angen i gynnal busnes fel Jessops yn cael ei alw yn boblogaeth drothwy.

Er bod mwy o bobl yn prynu camerâu nawr, rydyn ni’n dueddol o’u prynu ar y we neu gan gwmnïau mân-werthu mawr fel archfarchnad sy’n llawer mwy hwylus nag ymweld â’r Stryd Fawr.   


Newid gwedd mân-werthu - Symud Gyda’r Oes

undefined

Mae Blockbuster yn gadwyn sydd â 521 o siopau ym Mhrydain a 4,190 o weithwyr. Ym mis Ionawr 2013, mi aeth dan weinyddiad . Yn yr un modd â Jessops a HMV methodd ag addasu i’r newidiadau ym myd busnes.

Prif fusnes Blockbuster oedd rhentu disgiau DVD neu gemau. Ond yn fuan iawn, mi welodd nad oedd pobl eisiau’r drafferth o deithio i siop i gasglu a dychwelyd disg. Roedd hyn yn wir iawn, yn enwedig oherwydd ei bod hi nawr yn bosibl ffrydio ffilmiau neu archebu disg dros y we a’i dychwelyd drwy’r post.

Fodd bynnag, mae gan y gadwyn siopau mewn mannau da a gallai’r busnes fod yn llwyddiant pe bai’n ymgorffori model bwyd ar glud tebyg i un gadwyn pizza fawr. Dychmygwch allu archebu bwyd ar y we yn ogystal â ffilmiau neu gemau i’w rhentu. Yna, maen nhw’n cael eu dosbarthu, gyda’i gilydd, heb angen aros diwrnod neu ddau. Ar ôl gwylio, neu chwarae, postiwch nhw’n ôl! Perffaith!


Gweithgareddau dosbarth

Trip Rhithiol:

  • Gweithiwch mewn grwpiau bach (2/3) yn defnyddio system wybodaeth ddaearyddol i ymweld â’r dref neu’r Stryd Fawr leol gyda Street View

  • Nodwch pa siopau sydd wedi cau a pha rai sydd dal yn agored

  • Mewn grwp bach, rhaid dewis un siop yn benodol a thrafod y rhesymau pam y bu hi gau neu pam ei bod hi dal yn agored, e.e. ydy mân-werthwyr eraill yn gwerthu’r nwyddau yn rhatach? Ydy’r siopwyr wedi mynd i’w prynu i rywle arall?

  • Paratowch gyflwyniad (1-2 funud) am y mân-werthwr dewisedig

Cyflwynwch eich gwaith i’r dosbarth.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

A.F.G. - Amser penderfynu

A.F.G. - Amser penderfynu

Heriau sy’n wynebu’r A.F.G.

Heriau sy’n wynebu’r A.F.G.