19

Newid gwedd mân-werthu

The changing face of retailing

Rydyn ni’n byw mewn oes lle mae pethau’n newid yn gyflym. Un rhan o’n bywydau sy’n newid gyflymaf yw siopa. Mae hyn yn golygu mai un o’r amgylcheddau dynol sy’n newid gyflymaf yw’r stryd fawr leol. Mae’n debyg bod llawer o’r pethau a ysgrifennwyd mewn llyfrau Daearyddiaeth ddeng mlynedd yn ôl, nawr yn anghywir. Mewn gwirionedd byddai llywodraethau lleol yn dweud mai cynllunio dyfodol canol eu trefi yw un o’r heriau mwyaf maen nhw'n wynebu. Os ydyn nhw’n ei wneud yn gywir, mae’r wobr o swyddi ac arian yn enfawr. Ond os ydyn nhw’n cynllunio’n anghywir, yna byddai’r lefelau diweithdra a phroblemau cymdeithasol yn llawer iawn mwy na’r nifer o swyddi a gollir mewn siopau yn unig.

undefined

Un o siopau’r stryd fawr welodd ei thranc llynedd oedd Comet a hynny dim ond ddyddiau cyn y Nadolig. Roedd Comet yn enw mawr yn y byd mân-werthu) ac roedd yn cyflogi 6,611 o bobl mewn 236 o siopau. Nid yn unig y bydd rhaid i Lywodraeth Prydain gynnal y bobl ddi-waith yma nawr, ond mi fydd hefyd yn colli £26.2 miliwn mewn trethi a bydd rhaid dod o hyd i £23.2 miliwn i dalu’r taliadau colli swydd.

Daw’r arian hwnnw o’n trethi ni; felly mae’n effeithio ar bob un ohonom. Fodd bynnag, meddyliwch am deuluoedd y 6,611 person yna am funud, yn enwedig y plant, oherwydd mi gollon nhw eu cyflog dim ond ddyddiau cyn y Nadolig.  


Newid gwedd mân-werthu - Gweinyddiad

undefined

Pan fydd cwmni neu fusnes mawr mewn trafferth ariannol, mae ganddo’r hawl i wneud cais am weinyddiad. Mae hyn yn golygu eu bod wedi’u hamddiffyn rhag y bobl/sefydliadau y maen nhw mewn dyled iddyn nhw - eu credydwyr.

Mi fydd yn cael ei redeg gan gwmni arbenigol sydd wedi’i benodi gan lys cyfraith arbennig. Enw’r bobl arbenigol yw’r gweinyddwyr

 

 

Gweithredu dan weinyddiad - HMV

Oeddech chi'n gwybod?

Weithiau, gall hyn fod yn newyddion da. Ym mis Mawrth 2012 aeth yr adwerthwr gemau ‘GAME’ dan weinyddiad. Ond ym mis Ebrill llwyddodd y gweinyddwyr ei werthu i grwp o’r enw Baker Acqusitions a lwyddodd i ddiogelu swyddi 5,800 o bobl yn ogystal ag ail-gyflogi pobl oedd wedi colli eu swyddi’n flaenorol.

Mi fu gwaith y gweinyddwyr mor llwyddiannus bryd hynny, pan aeth siopau ‘HMV’ dan weinyddiaeth ym mis Ionawr 2013 roedd y grwp GAME/Baker Acquisitions newydd ddigon cryf i brynu pob un o’r siopau HMV!

Newid gwedd mân-werthu - pam cael Stryd Fawr?

Mae’n debyg y gallai pobl ifanc heddiw ofyn y cwestiwn hwn yn hawdd iawn. Rydyn ni’n gwario arian ar docynnau bws, tocynnau trên, tanwydd a pharcio er ei bod hi’n gynt, yn haws a fel arfer, yn rhatach mynd ar y we. O fewn cliciau gallwch brynu nwyddau a’u cael wedi’u dosbarthu at ddrws eich ty.

undefined

I rai pobl, gall fynd i siopa fod yn ddigwyddiad hwyliog neu hyd yn oed ddigwyddiad cymdeithasol. Yn aml iawn, wrth siopa dillad mae’n bwysig bod y siopwr yn gallu eu trïo nhw a dod o hyd i esgidiau neu ategolion sy’n cyd-fynd.

Mae’r siopwyr yma eisiau rhywle ble mae modd iddyn nhw drïo a chymharu (siopa cymharol) holl bethau hyn, yn ogystal â chael tamaid o fwyd. Mae ambell i Stryd Fawr yn atyniadau twristiaid lle mae pobl yn mynd yno i aros am ychydig o ddiwrnodau er mwyn mynd i siopa.

 

Oeddech chi'n gwybod?

Ond, heb law am siopa cymharol, mae’r rhan fwyaf o’r rhesymau dros gael Stryd Fawr wedi hen fynd. Roedd cael mynediad at y Stryd Fawr yn arfer bod yn hawdd. Yn aml iawn, roedd yn fan lle deuai gwahanol lwybrau trafnidiaeth at ei gilydd mewn nod trafnidiaeth. Ond heddiw, oherwydd tagfeydd mae’r Stryd Fawr yn lle anodd ei gyrraedd, ac efallai na fydd lle i barcio arni ychwaith.

Yn aml iawn, oherwydd ei bod hi’n hawdd cyrraedd y Stryd Fawr, mi fyddai’n lleoliad da i swyddfeydd busnesau neu swyddfeydd proffesiynol fel cyfreithwyr neu fanciau. Byddai’r gweithwyr a chwsmeriaid y busnesau hyn hefyd yn dod yn gwsmeriaid neu’nfarchnad i’r mân-werthwyr ac roedd hyn yn helpu’r Stryd Fawr i dyfu fel canolfan siopa.

Mae llawer o’r busnesau hyn, yn ogystal â gwasanaethau llywodraeth leol a fyddai wedi bod yng nghanol y dref, nawr wedi symud i ffwrdd yn araf oherwydd bod cyrraedd canol trefi wedi mynd yn anos a hynny oherwydd tagfeydd.

 

Y term am yr holl bobl yng nghanol tref neu ar y stryd fawr yw swn traed. Arferai’r Stryd Fawr feddu ar y swn traed uchaf yng nghanol tref ac felly yn atynnu mân-werthwyr arbenigol a gwasanaethau oedd eu hangen ar gwsmeriaid i oroesi. Mae’r rhain yn siopau neu’n wasanaethau sydd fel arfer yn ddrud, ac nid yw cwsmeriaid fel arfer yn eu hystyried yn nwyddau neu wasanaethau drud. Roedd arnynt angen lawer iawn o gwsmeriaid posibl er mwyn goroesi - yr enw a roddwyd ar nifer y cwsmeriaid angenrheidiol oedd poblogaeth drothwy. 


Poblogaeth Drothwy

Mae Jessops yn enghraifft dda o fân-werthwr sydd angen poblogaeth drothwy uchel. Ym mis Ionawr 2013 aeth Jessops dan weinyddiad gan gau 187 o siopau a cholli 1,534 o swyddi. Mewn sawl ffordd mi oedd yn adwerthwr y Stryd Fawr glasurol.

undefined

Dyma’r ddamcaniaeth: yn y gorffennol, anaml iawn y byddai pobl yn prynu rhywbeth drud fel camera, felly byddai angen siop arbenigol ar y Stryd Fawr dref neu ddinas boblog ar gyfer hynny. I fanno y byddai pobl y dref/ddinas a’r ardaloedd cyfagos yn dod i brynu rhywbeth mawr a drud fel camera. Mae’r nifer o bobl sydd ei angen i gynnal busnes fel Jessops yn cael ei alw yn boblogaeth drothwy.

Yn anffodus, y dyddiau hyn, mae llawer iawn mwy o bobl yn prynu camerâu un ai ar y we neu gan gwmni mân-werthu mawr fel archfarchnad. Maen nhw’n llawer iawn mwy hwylus nag ymweld â’r Stryd Fawr.  


Newid gwedd mân-werthu - Symud Gyda’r Oes

undefined

Mae Blockbuster yn gadwyn sydd â 521 o siopau ym Mhrydain a 4,190 o weithwyr. Ym mis Ionawr 2013, mi aeth dan weinyddiad . Yn yr un modd â Jessops a HMV methodd ag addasu i’r newidiadau ym myd busnes. Prif fusnes Blockbuster oedd rhentu disgiau DVD neu gemau. Ond yn fuan iawn, mi welodd nad oedd pobl eisiau’r drafferth o deithio i siop i gasglu a dychwelyd disg. Roedd hyn yn wir iawn, yn enwedig oherwydd ei bod hi nawr yn bosibl ffrydio ffilmiau neu archebu disg dros y we a’i dychwelyd drwy’r post.

Fodd bynnag, mae gan y gadwyn siopau mewn mannau da a gallai’r busnes fod yn llwyddiant pe bai’n ymgorffori model bwyd ar glud tebyg i un gadwyn pizza fawr. Dychmygwch allu archebu bwyd ar y we yn ogystal â ffilmiau neu gemau i’w rhentu. Yna, maen nhw’n cael eu dosbarthu, gyda’i gilydd, heb angen aros diwrnod neu ddau. Ar ôl gwylio, neu chwarae, postiwch nhw’n ôl! Syml.


Gweithgareddau Dosbarth

Gwaith Maes Rhithiol:

  • Gweithiwch mewn grwp bach o ddau neu dri

  • Defnyddiwch System Wybodaeth Ddaearyddol fel Google Earth neu Google Maps

  • Ar y we, ewch i’ch Stryd Fawr agosaf

  • Edrychwch am unedau mân-werthu sy’n wag. Casglwch luniau a’u cyflwyno ar PowerPoint. Pa fath o siopau sy’n diflannu oddi ar eich Stryd Fawr chi?

  • Ceisiwch ddarogan pa rai eraill sydd mewn perygl, eglurwch pam eich bod chi’n meddwl hyn.

Gan ddefnyddio tystiolaeth o’r System Wybodaeth Ddaearyddol, cyflwynwych ac amddiffynnwch ei safbwyntiau.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

A.F.G. - Amser penderfynu

A.F.G. - Amser penderfynu

Heriau sy’n wynebu’r A.F.G.

Heriau sy’n wynebu’r A.F.G.