Mae’r brif ardal siopa a busnes, neu’r “Ardal Fusnes Ganolog” (A.F.G) o Gaerdydd yn llwyddiant ysgubol. Tra bod trefi a dinasoedd eraill wedi bod yn cael trafferthion, mae Caerdydd wedi bod yn mynd o nerth i nerth.
Dyma’r cwestiwn: sut gall trefi a dinasoedd eraill ddysgu gan Gaerdydd? Beth ddylai cynllunwyr dinasoedd ei wneud yn y dyfodol?
Beth am edrych ar gynllunio Ardaloedd Busnes Canolog llwyddiannus a rhai sydd wedi methu yng Nghymru a meddwl am beth ellir ei wneud yn y dyfodol?
Nid siopau a swyddfeydd sy’n gwneud canol Caerdydd. Yn ystod y dydd gall siopwyr fwynhau pryd o fwyd neu ddiod yn ystod y dydd, sy’n rhoi ffordd arall i fusnesau wneud arian a thyfu.
Gyda’r nos, mae Llawer o wahanol gyfleusterau hamdden (sinemâu, clybiau nos a bwytai er enghraifft) sy’n denu ymwelwyr.
Daw cwsmeiriaid i siopa Caerdydd o leoedd eraill, nid dim ond Caerdydd. Mae Caerdydd bellach yn un o’r 10 cyrchfan mân-werthu gorau yn y DU, sy’n golygu bod pobl yn dod i aros mewn gwestai er mwyn mynd i siopa. Mae gwestai yng nghanol y ddinas yn brysur iawn ac yn ehangu hyd yn oed ac mae'r bobl sy'n aros ynddyn nhw'n rhoi hwb i'r economi gyda'r nos pan maen nhw'n mynd allan yno.Cymharwch hyn â Chasnewydd, y ddinas agosaf i Gaerdydd, caewyd y gwesty olaf yng nghanol y ddinas llynedd.
Mae harddu (gwneud dinas yn fwy atyniadol) yn mynd tu hwnt i rwystro ceir rhag gyrru drwy ganol trefi a dinasoedd (sef bedestreiddio). Ond, mae hyn yn rhan bwysig o wella Ardal Fusnes Ganolog. Dyma lun o ran brysur o Wrecsam yng ngogledd Cymru sydd wedi’i bedestreiddio. Mae siopa yno yn llawer iawn haws i’w fwynhau heb y perygl o draffig na phalmentydd cul.
Dyma rai enghreifftiau o harddu Ardal Fusnes Ganolog:
Cau ffyrdd a llenwi canol y trefi gyda phalmant addurniadol
Gwella dodrefn stryd e.e. meinciau, biniau sbwriel a goleuadau stryd
Gosod gwaith celf atyniadol
Arddangosfa flodau a choed
Mae’r rhain wedi bod yn allweddol wrth wella’r profiad siopa yng ngogledd Cymru.
Mae canolfannau siopa dan do yn ddatblygiad sydd wedi mynd yn boblogaidd iawn yng Nghymru. Mae’r llun hwn yn dangos y Ganolfan Cwadrant yn Abertawe. Mae’n datrys sawl problem i brofiad siopa, fel gwynt, glaw a thraffig.
Fel arfer, mae maes parcio ynghlwm â’r ganolfan un ai fel bloc cysylltiedig neu fel maes parcio aml-lawr uwchben neu o dan y ganolfan. Mae’r ganolfan siopa Dewi Sant 2 yng Nghaerdydd yn darparu dros 2,000 o leoedd parcio uwchben y siopau.
Mae sawl Ardal Fusnes Ganolog wedi colli busnesau oherwydd eu bod wedi symud allan o’r dref i barciau fel Parc Trostre yn Llanelli. Maen nhw wedi colli’r ymwelwyr (y swn traed) sydd eu hangen ar fân-werthwyr a chyfleusterau hamdden. Mae rhai cynllunwyr wedi ceisio gwneud iawn am hyn drwy ddod â grwpiau sydd ddim fel arfer yng nghanol dinasoedd i mewn.
Yn gynharach, sonion ni am broblemau cau gwestai yng Nghasnewydd. Er mwyn gwella pethau, mae rhan fawr o gampws Prifysgol Casnewydd, lle mae myfyrwyr yn byw ac yn dysgu, wedi cael ei symud i ardal ar lan yr afon ger llaw'r Ardal Fusnes Ganolog.
Dyma ymgais i roi profiad mwy difyr a dymunol yn y brifysgol i'r myfyrwyr a hefyd i helpu adnewyddu canol y ddinas. Tynnwyd y llun hwn o faes parcio canolfan siopa newydd sbon Casnewydd. Mae’n dangos Campws newydd y Brifysgol yn cael ei adeiladu.
Cyn gwneud y cwis hwn, gwnewch yn siwr eich bod chi wedi darllen pob erthygl yn y rhifyn hwn:
Heriau sy’n wynebu’r A.F.G.
Newid gwedd mân-werthu
A.F.G. - Amser penderfynu
Paratowch gyflwyniad am yr hyn y dylid ei wneud i helpu neu i wella canol tref o’ch dewis chi.