19

Heriau sy’n wynebu’r A.F.G.

Croeso i’r Ardal Fusnes Ganolog

Mae' Ardal Fusnes Ganolog neu A.F.G. yn ardal mewn tref fawr neu ddinas lle daw mathau penodol o fusnesau at ei gilydd. Mae’n cynnwys y Stryd Fawr a siopau, ond mae'n cynnwys gwasanaethau ariannol fel banciau hefyd.

undefined

Pan fyddwn ni’n dweud banciau, nid ydyn ni’n sôn am gangen le ewch chi i dalu arian mewn i gyfrif, neu fynd i’r twll yn y wal. Mae'r rhain yn swyddfeydd mawr lle mae bancwyr yn penderfynu buddsoddi symiau mawr o arian. Gellir dod o hyd i fusnesau mawr eraill yma hefyd, fel cwmnïau yswiriant.

Fel arfer, byddai’r Ardal Fuses Ganolog yn tyfu o amgylch rhywle y byddai ffyrdd trafnidiaeth fel lonydd a rheilffyrdd yn cwrdd. Rydyn ni’n galw'r rhain yn nodau trafnidiaeth. Dyma’r lle le byddai busnesau masnach bychain yn darparu nwyddau i deithwyr a phobl a oedd yn gweithio’n gyfagos. Tyfodd mân-werthu o’r busnesau bychain hyn i reoli’r Stryd Fawr rydyn ni’n gyfarwydd â hi heddiw.

 

 

undefined

Mewn rhai canolfannau, fel Caerdydd, roedd busnes yn parhau i dyfu. Oherwydd eu bod nhw wedi’u hamgylchynu gan y dref, doedd dim modd tyfu am allan ac felly bu rhaid tyfu am i fyny yn lle. Yn bwysicach - roedd trethi neu rent ar dir yn cael eu talu yn ôl arwynebedd y tir felly roedd synnwyr busnes yn dweud y dylid adeiladu tua’r wybren!

Dyma pam mae gan rai rhannau o drefi adeiladau mor uchel. Dylech chi allu adnabod Ardal Fusnes Ganolog tref dim ond drwy edrych ar uchder adeiladau. Fel arfer, wrth i chi nesáu at yr ardal fusnes ganolog mi fydd gan yr adeiladau mwy o loriau. Gallech chi ddefnyddio Google Maps neu Google Earth (sef system wybodaeth ddaearyddo) ) i weld os yw hyn yn wir. 

 


Heriau sy’n wynebu’r A.F.G. – Twf tu allan i’r dref

undefined

Un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r Ardal Fusnes Ganolog yw twf parciau busnes a chanolfannau siopa allan i’r dref. Mae mwy o bobl nag erioed yn berchennog ar gar dyddiau hyn a’r hyn y mae siopwyr ei eisiau wrth fynd i siopa yw taith hawdd gyda digon o le cyfagos i barcio. Mae hyn wedi arwain at dwf parciau mân-werthu tu allan i’r dref fel Parc Trostre ar gyrion Llanelli. 

 

 

Dyma gwestiwn...

Gyda chymaint o siopau adnabyddus yn symud i barciau mân-werthu, sut y gall canol trefi barhau i ddenu siopwyr?

undefined

Yn y gorffennol, byddai nifer y gweithwyr a’r cwsmeriaid o fusnesau gwahanol i fân-werthu yn yr Ardal Fusnes Ganolog wedi cadw’r siopau mawr yng nghanol y trefi. Mae’r parciau ‘tu allan i’r dref’ wedi denu busnesau gwahanol i siopau (banciau, cwmnïau yswiriant ac yn y blaen). Mae’r llun hwn o Barc Busnes Celtic Springs ar gwr Casnewydd. Mae’n denu llawer o fusnesau a fyddai yn yr Ardal Fusnes Ganolog yn draddodiadol.

Heb y swn troed yma, mae’r prif fân-werthwyr wedi gadael canol y dref. Heb atyniad y prif fân-werthwyr yn yr Ardal Fusnes Ganolog mae busnesau eraill wedi dechrau gadael canol y dref hefyd. Mae’n gylch ffyrnig, neu’n rhywbeth a elwir weithiau yn effaith domino. Bydd un busnes yn gadael, yn gwthio’r nesaf i adael, sydd yna’n gwthio’r nesaf ac yn y blaen. 

 


Heriau sy’n wynebu’r A.F.G. – Cynnal y Profiad Siopa

Yn ddiweddar, mae daearyddwyr wedi dechrau defnyddio ymadrodd newydd - ‘trefi clôn’. Mae tref glôn wedi colli ei chymeriad unigryw neu ei hunaniaeth ac mae hi’n debyg i nifer o drefi eraill. Dros y 10 neu 20 mlynedd ddiwethaf, mae mân-werthwyr annibynnol wedi cael eu gwthio i un ochr gan gadwyni cenedlaethol a rhyngwladol nes bod y dewis sydd ar gael yn fychan iawn.

undefined

Mae cymaint o gystadleuaeth rhyngddynt â’r canolfannau siopa a pharciau busnes tu allan i’r dref yn golygu efallai na fydd trefi clôn yn gallu denu digon o siopwyr. Yr enw ar y pellter y gall canolfan siopa ddenu rhywun yw’r sffêr dylanwad. Mae maint y sffêr dylanwad yn pennu’r boblogaeth drothwy gan felly bennu’r amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau fydd ar gael.

Mae nifer yr ymwelwyr hyn yn cael eu galw yn boblogaeth drothwy ac mi fydd yn effeithio ar ba nwyddau a gwasanaethau fydd ar gael yn yr Ardal Fusnes Ganolog (er enghraifft, mae siopau sy’n gwerthu eitemau mawr, drud fel teledu angen nifer fawr o gwsmeriaid posibl er mwyn i’r busnes barhau, felly mae eu poblogaeth drothwy nhw yn fawr). 

 


Sffêr Dylanwad

undefinedFelly, y sffêr dylanwad yw’r ardal y mae’r anheddiad yn darparu nwyddau a gwasanaethau ar ei gyfer. Mae hyn yn rhannol seiliedig ar y cysyniad o ‘Hierarchaeth Anheddiad’.

 

Edrychwch ar y diagram pyramid, mae’n dangos bod llawer iawn o aneddiadau llai fel adeiladau ar eu pen eu hun neu grwpiau o dai a elwir yn bentrefannau. Wrth i’r aneddiadau dyfu a throi’n bentrefi neu’n drefi bychain bydd llai ohonynt.

 

Unwaith mae gan bentref sffêr dylanwad sy’n ymestyn dros sawl pentrefan mae'n debyg y bydd yn cyrraedd y boblogaeth drothwy sydd ei angen arno i gynnal siop fechan, swyddfa bost neu dafarn.

 

Wrth i aneddiadau dyfu, mae’r nifer ohonynt yn lleihau oherwydd mae angen arnyn nhw boblogaeth drothwy fawr iawn i gynnal yr holl wahanol nwyddau a gwasanaethau. O bosib, bydd un ddinas fawr ar ben yr hierarchaeth aneddiadau.

 

Weithiau, bydd trefi neu ddinasoedd yn tyfu neu’n uno i greu clymdref. Mae clymdref yn dechrau ffurfio ar hyd traffordd yr M4 yn Ne Cymru wrth i Gaerdydd ddechrau uno gyda threfi a dinasoedd eraill fel Casnewydd.

Oeddech chi'n gwybod?

Mae safle’r anheddiad yn yr hierarchaeth a’i sffêr dylanwad yn rheoli’r ystod o nwyddau a gwasanaethau y mae'n gallu ei gynnal. Dim ond nwyddau rhad y bydd aneddiadau bychan yn eu gwerthu; nwyddau sydd eu hangen ar bobl yn rheolaidd, fel llaeth neu fara. Bydd gan ddinasoedd mawr ystod lawn o nwyddau drud a gwasanaethau nad oes eu hangen ar bobl yn aml.

Tan yn ddiweddar, byddai hyn wedi cynnwys nwyddau fel teledu neu gyfrifiaduron, ond mae’r rhan fwyaf o’r mân-werthwyr hynny wedi symud o’r dref ac ar y we.

Mae rhai parciau mân-werthu sydd ar gyrion trefi wedi’u lleoli’n ofalus iawn er mwyn ceisio denu ymwelwyr o sawl tref. Mae Talbot Green yn Llantrisant yn enghraifft dda, mae ar gyrion sffêr dylanwad Caerdydd, Pen-y-bont a Phontypridd.


Heriau sy’n wynebu’r A.F.G. – Oes Newydd Mân-werthu

Dyma lun o du mewn i warws yr mân-werthwr ar-lein enfawr Amazon, ger Abertawe. Mae gwasanaethau ar-lein yn gystadleuaeth gref i sawl mân-werthwr yn yr Ardal Fusnes Ganolog. Fodd bynnag, mae’n effeithio ar rai yn fwy nag eraill.

undefinedGall cynnyrch cyfrwng digidol fel cerddoriaeth neu ffilmiau gael eu lawrlwytho. Dydy pobl ddim eisiau llenwi eu cartrefi â bocsys plastig DVD neu gryno ddisg. Mae’n rhaid i fân-werthwyr yn y maes hwn addasu’n sydyn neu dderbyn eu tranc. Er hynny, dim ond am 10% o wariant y DU y mae’r siopau arlein yn cyfri. Efallai mai’r her fwyaf sy’n eu hwynebu yw dyfodiad yr arch-adwerthwyr.

 

Warws Amazon, Abertawe

Oeddech chi'n gwybod?

Tan yn ddiweddar, roedd yr archfarchnad yn rhywle y byddai person yn mynd i brynu bwyd. Nawr, mae rhai cadwyni am i’ch ymweliad chi fod yn un i siop bob dim, gyda nwyddau trydanol, nwyddau’r cartref, dillad a hyd yn oed gwasanaethau fel optegwyr a fferyllfeydd ar gael.

Yn yr oes fodern hon, mae amser werth arian a bydd llawer o siopwyr yn meddwl yn nhermau cyflymder a hwylustod cael popeth dan un to. Yn aml iawn, mae’r adwerthwyr hyn yn llwyddo o ran economi maint, sy’n golygu eu bod nhw’n gallu prynu mewn sypiau mawr, neu rannu staff rhwng dwy adran. O ganlyniad maen nhw’n gallu prisio’n is na phrisiau canol y dref.

Mae llawer o archfarchnadoedd hyd yn oed wedi ychwanegu siop arlein i’w gwasanaethau gan ei gwneud hi’n haws i’w cwsmeriaid gasglu eu nwyddau ar amser sy’n hwylus iddyn nhw. Gallent hyd yn oed ddosbarthu’r nwyddau at ddrws ffrynt y cwsmer ar y diwrnod hwnnw.

Byddai rhai pobl yn dadlau eu bod nhw’n darparu’r gorau o bob byd ac mai dyna’r rheswm am eu rhan fawr yn y farchnad.

 

 

Gweithgareddau dosbarth

Defnyddiwch y System Wybodaeth Ddaearyddol i ymchwilio i ystod o nwyddau a gwasanaethau sydd ar gael mewn aneddiadau o wahanol faint. Cwblhewch y tabl tali er mwyn gweld faint o ddilynwyr sydd i bob anheddiad canol tref.

  • Nwyddau rhad

  • Gwasanaethau rhad

  • Nwyddau drud

  • Gwasanaethau drud

  • Hamdden

  • Gwag

Lluniwch graffiau i bob anheddiad a phenderfynwch p’un ai yw’r syniadau am sffêr dylanwad / poblogaeth drothwy a hierarchaeth anheddiad dal yn wir.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

A.F.G. - Amser penderfynu

A.F.G. - Amser penderfynu

Newid gwedd mân-werthu

Newid gwedd mân-werthu