19

A.F.G. - Amser penderfynu

Beth allwn ni ei wneud i achub Ardaloedd Busnes Canolog Cymru?

Mae’r brif ardal siopa a busnes, neu’r “Ardal Fusnes Ganolog” (A.F.G) o Gaerdydd yn llwyddiant ysgubol. Tra bod trefi a dinasoedd eraill wedi bod yn cael trafferthion, mae Caerdydd wedi bod yn mynd o nerth i nerth.

Dyma’r cwestiwn: sut gall trefi a dinasoedd eraill ddysgu gan Gaerdydd? Beth ddylai cynllunwyr dinasoedd ei wneud yn y dyfodol?

Beth am edrych ar gynllunio Ardaloedd Busnes Canolog llwyddiannus a rhai sydd wedi methu yng Nghymru a meddwl am beth ellir ei wneud yn y dyfodol?


Amser penderfynu - Hamdden

undefinedNid siopau a swyddfeydd sy’n gwneud canol Caerdydd. Yn ystod y dydd gall siopwyr fwynhau pryd o fwyd neu ddiod yn ystod y dydd, sy’n rhoi ffordd arall i fusnesau wneud arian a thyfu.

Gyda’r nos, mae Llawer o wahanol gyfleusterau hamdden (sinemâu, clybiau nos a bwytai er enghraifft) sy’n denu ymwelwyr.

Daw cwsmeiriaid i siopa Caerdydd o leoedd eraill, nid dim ond Caerdydd. Mae Caerdydd bellach yn un o’r 10 cyrchfan mân-werthu gorau yn y DU, sy’n golygu bod pobl yn dod i aros mewn gwestai er mwyn mynd i siopa. Mae gwestai yng nghanol y ddinas yn brysur iawn ac yn ehangu hyd yn oed ac mae'r bobl sy'n aros ynddyn nhw'n rhoi hwb i'r economi gyda'r nos pan maen nhw'n mynd allan yno.Cymharwch hyn â Chasnewydd, y ddinas agosaf i Gaerdydd, caewyd y gwesty olaf yng nghanol y ddinas llynedd. 


Amser penderfynu - harddu

undefinedMae harddu (gwneud dinas yn fwy atyniadol) yn mynd tu hwnt i rwystro ceir rhag gyrru drwy ganol trefi a dinasoedd (sef bedestreiddio). Ond, mae hyn yn rhan bwysig o wella Ardal Fusnes Ganolog. Dyma lun o ran brysur o Wrecsam yng ngogledd Cymru sydd wedi’i bedestreiddio. Mae siopa yno yn llawer iawn haws i’w fwynhau heb y perygl o draffig na phalmentydd cul.

Dyma rai enghreifftiau o harddu Ardal Fusnes Ganolog:

  • Cau ffyrdd a llenwi canol y trefi gyda phalmant addurniadol

  • Gwella dodrefn stryd e.e. meinciau, biniau sbwriel a goleuadau stryd

  • Gosod gwaith celf atyniadol

  • Arddangosfa flodau a choed

Mae’r rhain wedi bod yn allweddol wrth wella’r profiad siopa yng ngogledd Cymru. 


Amser penderfynu - Siopa dan do

undefinedMae canolfannau siopa dan do yn ddatblygiad sydd wedi mynd yn boblogaidd iawn yng Nghymru. Mae’r llun hwn yn dangos y Ganolfan Cwadrant yn Abertawe. Mae’n datrys sawl problem i brofiad siopa, fel gwynt, glaw a thraffig.

Fel arfer, mae maes parcio ynghlwm â’r ganolfan un ai fel bloc cysylltiedig neu fel maes parcio aml-lawr uwchben neu o dan y ganolfan. Mae’r ganolfan siopa Dewi Sant 2 yng Nghaerdydd yn darparu dros 2,000 o leoedd parcio uwchben y siopau. 

  


Amser penderfynu - Myfyrwyr yn lle busnesau

undefinedMae sawl Ardal Fusnes Ganolog wedi colli busnesau oherwydd eu bod wedi symud allan o’r dref i barciau fel Parc Trostre yn Llanelli. Maen nhw wedi colli’r ymwelwyr (y swn traed) sydd eu hangen ar fân-werthwyr a chyfleusterau hamdden. Mae rhai cynllunwyr wedi ceisio gwneud iawn am hyn drwy ddod â grwpiau sydd ddim fel arfer yng nghanol dinasoedd i mewn.

Yn gynharach, sonion ni am broblemau cau gwestai yng Nghasnewydd. Er mwyn gwella pethau, mae rhan fawr o gampws Prifysgol Casnewydd, lle mae myfyrwyr yn byw ac yn dysgu, wedi cael ei symud i ardal ar lan yr afon ger llaw'r Ardal Fusnes Ganolog.

Dyma ymgais i roi profiad mwy difyr a dymunol yn y brifysgol i'r myfyrwyr a hefyd i helpu adnewyddu canol y ddinas. Tynnwyd y llun hwn o faes parcio canolfan siopa newydd sbon Casnewydd. Mae’n dangos Campws newydd y Brifysgol yn cael ei adeiladu.


Asesu ar gyfer Dysgu: Cwis

Cyn gwneud y cwis hwn, gwnewch yn siwr eich bod chi wedi darllen pob erthygl yn y rhifyn hwn:

  • Heriau sy’n wynebu’r A.F.G.

  • Newid gwedd mân-werthu

  • A.F.G. - Amser penderfynu


Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Gweithgareddau dosbarth

Paratowch gyflwyniad am yr hyn y dylid ei wneud i helpu neu i wella canol tref o’ch dewis chi.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Newid gwedd mân-werthu

Newid gwedd mân-werthu

Heriau sy’n wynebu’r A.F.G.

Heriau sy’n wynebu’r A.F.G.