Plastic bottle sealed at 14000 feet (4,267 metres)
Llun 1: 14,000 o droedfeddi (4,267 medr)
Llun 2: 9,000 o droedfeddi (2,743 medr)
Llun 3: 1,000 o droedfeddi (305 medr)
Roedd gan yr aer gafodd selio yn y botel ar ben mynydd (4,267m) bwysedd aer is na’r aer ymhellach i lawr y mynydd.
Mae’r graff yma’n dangos sut mae pwysedd aer yn lleihau ag uwchder.
Pwysedd yw’r grym sy’n cael ei roi’n unionsyth (meddyliwch am ongl gywir) ar wyneb y gwrthrych fesul uned arwynebedd.
Pwysedd = grym yn gwthio ar arwynebedd.
Meddyliwch am ein potel aer a gafodd ei selio ar 4,267 medr ar ben mynydd.
Ymhellach i lawr y mynydd mae’r pwysedd aer tu allan i’r botel yn fwy na’r pwysedd aer tu fewn iddi, felly mae’r botel yn cael ei malu.
wysedd 15 mlynedd lefel y môr ar gyfartaledd; mis Mehefin, mis Gorffennaf, mis Awst = map top; mis Rhagfyr, mis Ionawr, mis Chwefror = map gwaelod.
Gwregysau Pwysedd Byd-Eang
Mae hyn yn creu band o law a phwysedd aer isel ar neu o gwmpas y cyhydedd sy’n symud i’r Gogledd ac i’r De wrth i’r tymhorau newid.
Caiff y band o gymylau ei weld ar luniau lloeren.
Caiff y band o gymylau ei achosi oherwydd yr aer sy’n codi, sy’n achosi pwysedd aer isel.
Mae’r cymylau yn ffurfio glaw, a dyma felly sut mae fforestydd glaw yn cael eu ffurfio.
Dargludo
Yn y pen draw bydd yr aer yn oeri a ffurfio cell ddargludo.
O fewn cell ddargludo, mae aer twym yn codi.
Ar ôl codi, mae’n oeri ac yn dechrau gostwng.
Mae’r aer sy’n codi ac yn gostwng yn ffurfio cerhyntau cylchog.
Mae’r gwres mwyaf yn cael ei dderbyn ar hyd y cyhydedd; mae’r aer yn codi ac yn hollti yn ddwy gell ddargludo. Un i’r Gogledd ac un i’r De.
Lle mae’r aer yn gostwng, mae’n creu band o bwysedd uchel.
Wrth i aer ostwng mae’n cynhesu ac unrhyw gwmwl/answedd dŵr yn anweddu ac mae’r awyr felly yn gwbl ddirybudd.
Dyma’r lleoedd cawn anialychau poeth fel Anialwch y Sahara ar ledredau hyn.