42

Egluro Corwyntoedd

Stormydd trofannol gyda chyflymdra gwynt dros 119 cm/awr (74mya) yw Corwyntoedd.

Caiff corwyntoedd eu rhannu’n bum categori yn ôl graddfa Saffir-Simpson.

Mae stormydd trofannol yn cael eu ffurfio dros gefnforoedd twym; gan amlaf mae’n rhaid i wyneb y môr fod o leiaf 27°C i ddibwysiant trofannol ddatblygu’n gorwynt.

Cofiwch fod enw corwyntoedd yn cael ei ddefnyddio yn y moroedd a chefnforoedd ar ffiniau America. Yn lleoedd eraill, caiff eu galw’n yrwyntoedd neu’n gylchwyntoedd.

Mae wyneb twym y cefnforoedd yn cynnig dau beth i’r aer uwchben:

  1. Gwres
  2. Anwedd Dŵr

Mae hyn yn bwysig oherwydd mae’r gwres yn cynhesu’r aer ac mae’r aer yn dechrau codi.

Sut bynnag, er mwyn deall yn union beth sy’n digwydd, rhaid deall fod yna ddwy fath o wres:

  1. Gwres Synwyradwy
  2. Gwres Cudd

Mae gwres synwyradwy yn wres sy’n codi tymheredd – sy’n syml!

Meddyliwch am arbrawf gwyddonol lle byddwch yn defnyddio llosgwr Bunsen o dan ficer o ddŵr; pe byddech yn mesur tymheredd y dŵr, byddai’n codi nes i dymheredd y dŵr gyrraedd 100°C.

Mae gwres cudd yn wres sydd yn newid cyflwr sylwedd, o hylif i nwy, er enghraifft.

Os ydych chi’n meddwl am eich arbrawf gwyddonol, wrth i chi gynhesu’r dŵr gyda llosgydd Bunsen ar ôl i’r dŵr gyrraedd 100°C, ni fydd y tymheredd yn codi.

Felly, ble mae’r egni gwres yn mynd?

Mae’n mynd at droi’r hylif yn nwy – proses o’r enw anweddiad.

Mae hyn yn bwysig o fewn corwyntoedd achos os mae’r nwy yn troi’n ôl i hylif, bydd yn rhyddhau’r gwres cudd yn ôl i’r aer. Mae’r broses yma yn digwydd ar y cyd â chyddwysiad yn hollbwysig.

Llun: Global tropical cyclone tracks-edit2 © Wikimedia Commons

Llwybrau’r Stormydd Trofannol 1985-2005

Mae’r map uchod yn dangos lle mae stormydd trofannol yn eu ffurfio a’r lleoedd maen nhw’n symud trwyddyn nhw.

Mae yna fand sydd bron iawn â dim llwybrau stormydd ar draws y cyhydedd, hyd i 5° i’r Gogledd ac i’r De.

Mae hyn achos nad oes digon o rym Coriolis (sef grym troelli’r Ddaear) i ffurfio craidd cylchdroadol. Meddyliwch am ddŵr yn troelli i lawr twll plwg.

Y pethau mwyaf sydd eu hangen i ffurfio Stormydd Trofannol/Corwyntoedd yw:

  • Tymereddau wyneb cefnforoedd twym (yn uwch na 26.5°C)
    • Sy’n rhoi Gwres Synwyradwy a
    • Gwres Cudd ar ffurf anwedd dŵr.
  • Grym Coriolis digonol
    • Nad yw ar gael o fewn 500 cilomedr o’r cyhydedd
    • Heb ddigon o rym Coriolis, fydd anwedd dŵr (gwres cudd) ddim yn dod yn grynodedig o gwmpas ardal ganolig o ardal fwy.

Ffurfiant

  1. Wrth i’r aer uwchben wyneb môr twym gynhesu’r moleciwlau sy’n creu’r aer, mae’r moleciwlau’n ehangu, a gan eu bod nhw nawr yn ysgafnach nag aer, maen nhw’n codi.
  2. Mae aer sy’n codi yn ffurfio pwysedd aer is – gweler erthygl gysylltiedig 2.
  3. Mae aer yn symud o leoedd eraill sydd â phwysedd aer uwch.
  4. Mae’r aer sy’n codi, a’r aer sy’n symud o leoedd eraill sydd â phwysedd aer uwch, yn cylchdroi o gwmpas yr ardal ganolig sydd â phwysedd aer is.
    Mae’r grym Coriolis yn achosi hyn
  5. Wrth i’r broses hon ddechrau, mae’r cylchdroad yn dechrau crynodi’r aer dwys sy’n cario’r anwedd dŵr yn fwyfwy i’r canol.
  6. Mae’r aer sy’n codi yn y canol yn oeri ac mae’r anwedd dŵr yn cyddwyso; mae hyn yn ryddhau’r gwres cudd.
  7. Daw’r gwres cudd yn wres synwyradwy sy’n twymo’r aer o’i gwmpas, ac yn achosi iddo godi’n gyflym iawn, ac felly’n creu pwysedd aer isel iawn.
  8. Mae aer twym, gwlyb o leoedd cwmpasol yn dod yn gyflym ac yn llenwi’r ardal â phwysedd aer isel iawn.
    a. Mwy o aer twym, gwlyb i roi pŵer i’r ardal ganolig sydd â phwysedd aer isel.
    b. Mae’r aer sy’n dod yn wynt.
    c. Mae’r gwynt yn troelli sy’n creu chwyrlïad o gymylau, sy’n mesur cannoedd o gilomedrau ar eu traws.
  9. Cyhyd â bod y corwynt yn aros dros ddŵr twym bydd yn cryfhau.
    Mae corwyntoedd yn colli eu pŵer wrth iddyn nhw symud dros dir neu leoedd oerach y cefnforoedd.
  10. Mae corwyntoedd yn ffurfio bandiau o gymylau sy’n cylchdroi o gwmpas llygad canolig.
  11. O fewn y llygad mae pethau’n llonydd.
  12. O fewn wal y llygad cewch y gwyntoedd cryfaf.

Peryglon Corwyntoedd

  1. Mae gwyntoedd cryf, yn enwedig o fewn wal y llygad, yn gallu difrodi adeiladau yn uniongyrchol, ac yn gallu casglu teilchion allai achosi mwy o ddifrod, neu berygl o niwed neu farwolaeth.
  2. Glaw – mae’r anwedd dŵr sy’n cael ei gyddwyso mewn corwynt yn achosi glaw cryf a pharhaol. Gall hyn achosi llifogydd, ac hefyd tirlithriadau.
  3. Ymchwyddiadau’r storm
    Oherwydd y pwysedd aer isel, mae cynnydd yn lefel y môr (llai o aer yn gwthio i lawr ar wyneb y môr).
    Ar y cyd â thonnau mawr iawn oherwydd y gwyntoedd cryf.
    Rhwng y ddau yma, gall llifogydd o’r môr fod yn ddinistriol. Mae ymchwyddiadau’r storm, gan amlaf, yw’r peth mwyaf peryglus am gorwynt.

Gweithgaredd

  1. Pa bethau sydd eu hangen er mwyn i gorwynt gael ei ffurfio?
  2. Pam bod corwynt yn colli ei bŵer:
    - os mae’n symud dros dir?
    - os mae’n symud dros gefnforoedd oerach?
Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Pwysedd Isel yn y Newyddion - Cyfnod Corwyntoedd

Pwysedd Isel yn y Newyddion - Cyfnod Corwyntoedd

Egluro Pwysedd Aer Isel

Egluro Pwysedd Aer Isel