Ar ddiwedd haf diwethaf, bu’r tîm yma o Daearyddiaeth yn y Newyddion yn gorffen ein rhifyn diwethaf yn trafod y newid i’r hinsawdd yng Nghymru, a haf glawiog arall.
Edrychon yn fras ar bwysedd aer isel, ac fe wnaethon sôn y byddai’r rhifyn hwn yn sôn am bwysedd isel yn y newyddion.
Fel daearyddwyr, rodden ni’n gwybod y bydd pwysedd aer isel yn newyddion mawr iawn yr Hydref yma!
Mae’r straeon newyddion tywydd bob blwyddyn ar sail y pwysedd aer isaf sy’n cael ei gofnodi bob blwyddyn – Stormydd Trofannol – a’u henwau rhanbarthol – Corwyntoedd, Cylchwyntoedd a Gyrwyntoedd.
Cyfnodau Stormydd Basnau’r Cefnforoedd
Basn |
Cyfnod yn dechrau |
Cyfnod yn gorffen |
Gogledd Cefnfor yr Iwerydd |
Mehefin 1 |
Tachwedd 30 |
Dwyrain y Cefnfor Tawel |
Mai 15 |
Tachwedd 30 |
Gorllewin y Cefnfor Tawel |
Ionawr 1 |
Rhagfyr 31 |
Gogledd Cefnfor India |
Ionawr 1 |
Rhagfyr 31 |
De-orllewin Cefnfor India |
Gorffennaf 1 |
Mehefin 30 |
Y Rhanbarth Awstralaidd |
Tachwedd 1 |
Ebrill 30 |
De’r Cefnfor Tawel |
Tachwedd 1 |
Ebrill 30 |
Wrth gwrs mae stormydd yn digwydd drwy’r flwyddyn, felly sut allwn ni gael ‘cyfnodau’?
Yn y rhanbarthau trofannol mae tri chategori o storm (gall fod amrywiadau lleol mewn rhai gwledydd ond mae’r rhan fwyaf yn defnyddio diffiniadau Corwyntoedd Americanaidd) –
Byddwn yn edrych ar y system o ddosbarthu’r Stormydd Trofannol (sef Graddfa Saffir-Simpson) yn yr erthyglau cysylltiedig. Yn y brif erthygl, edrychwn ar Gyfnod Corwyntoedd mwyaf erioed 2017.
Cyfnod Corwyntoedd yr Iwerydd 2017
Cofiwch yr ysgrifennir y rhifyn hwn ar ddechrau mis Hydref; saith wythnos cyn i ddiwedd Cyfnod Corwyntoedd yr Iwerydd ar ddiwedd mis Tachwedd.
Yn yr erthygl gysylltiedig nesaf, byddwn yn edrych yn fanwl ar sut ffurfir corwyntoedd.
Mae cyfnod Corwyntoedd yr Iwerydd yn dechrau ar Fehefin 1af yn swyddogol, ond fe welodd weithgarwch cynnar ym mis Ebrill am y drydedd flwyddyn olynol.
Mae stormydd trofannol a chorwyntoedd yn cael eu ffurfio dros gefnforoedd twym (27°C+); roedd hyn yn arfer digwydd ar ôl dechrau mis Mehefin wrth i’r haf gynhesu wyneb y cefnforoedd.
Allwch chi feddwl am reswm dros bethau’n newid?
Cofiwch, ar adeg ysgrifennu’r rhifyn hwn mae 7 wythnos i fynd tan i’r cyfnod corwyntoedd ‘safonol’ ddod i ben, ond yn barod:
Ffurfiwyd Gwasgarwyd |
Awst 17, 2017 Medi3, 2017 |
Gwyntoedd Cryfaf |
1-munud - 130mya (215 cm/awr) |
Pwysedd Isaf |
938 mbar |
Trychinebau |
77 wedi’u cadarnhau |
Difrod |
Oddeutu $70 biliwn USD (isaf) hyd at $180 biliwn (uchaf) – ar draws UDA cyfan, yn fwy neu lai. |
Ardaloedd a effeithiwyd; Ynysoedd Windward, Swrinam, Gaiana, Nicaragwa, Hondwras, Belîs, Ynysoedd Caiman, Penrhyn Yucatán, De’r Unol Daleithiau a Dwyrain yr Unol Daleithiau (yn enwedig Tecsas a Louisiana) |
Tecsas
Glaw
Ffurfiwyd Uchafbwynt Gwasgarwyd |
Awst30, 2017 Medi 6 Medi16, 2017 |
Gwyntoedd Cryfaf |
1-munud -185mya (295 cm/awr) |
Pwysedd Isaf |
914 mbar |
Trychinebau |
132 wedi’u cadarnhau |
Difrod |
Oddeutu $63 biliwn USD |
Ardaloedd a effeithiwyd; Penrhyn Verde, Ynysoedd Leeward (yn enwedig Barbiwda, Ynys Saint-Barthélemy, Anguilla, Sint Maarten, ac Ynysoedd y Wyryf), Ciwba, Puerto Rico, Ynysoedd Turks a Caicos, Y Bahamas, Dwyrain yr Unol Daleithiau (yn enwedig Fflorida). |
Corwynt Irma ar Fedi 5 wrth iddo symud tuag at Ynysoedd Prydeinig yr Wyryf ar Fedi 6.
Ynysoedd yr Wyryf cyn y Corwynt ac ar ei ôl
Recordiau
Marwolaeth a Difrod amcangyfrifedig o ran Tiriogaeth |
||
Tiriogaeth |
Trychinebau |
Difrod (USD) |
Anguilla (DU) |
1 |
$290 miliwn |
Barbados |
1 |
N/A |
Barbiwda |
3 |
$215 miliwn |
Ynysoedd Prydeinig yr Wyryf |
4 |
$1.4 biliwn |
Ciwba |
10 |
$2.2 biliwn |
Haiti |
1 |
N/A |
Puerto Rico (UDA) |
3 |
$1 biliwn |
Sant Kitts-Nevis |
0 |
$19.7 miliwn |
Ynys Sant Barthélemy (Ffrainc) |
11 |
$2.28 biliwn |
Ynys Sint Maarten (Yr Iseldiroedd) |
4 |
$2.5 biliwn |
Ynysoedd Turks a Caicos |
0 |
> $500 miliwn |
Unol Daleithiau America |
88 |
> $50 biliwn |
Ynysoedd Americanaidd y Wyryf |
4 |
$2.4 biliwn |
Anhysbys |
2 |
N/A |
Cyfansymiau: |
132 |
> $62.9 biliwn |
Canlyniad o'r corwynt ar Ynys Sint Maarten (Tiriogaeth yr Iseldiroedd)
Y degfed corwynt Iwerydd cryfaf a gofnodwyd oedd Corwynt Maria.
Ffurfiwyd Gwasgarwyd |
Medi16, 2017 Hydref3, 2017 |
Gwyntoedd Cryfaf |
1-munud - 175mya (280 cm/awr) |
Pwysedd Isaf |
908 mbar |
Trychinebau |
81 wedi’u cadarnhau |
Difrod |
> $51.2 biliwn USD |
Ardaloedd a effeithiwyd; Lesser Antilles (especially Dominica and the U.S. Virgin Islands), Puerto Rico, Dominican Republic, Haiti, Turks and Caicos Islands, The Bahamas, S.E. United States, Mid-Atlantic States, Ireland, United Kingdom, France, Spain |
Llun Lloeren o Gorwynt Maria wrth gyrraedd tir Puerto Rico
Marwolaeth a Difrod amcangyfrifedig o ran Tiriogaeth |
|||
Tiriogaeth |
Trychinebau |
Ar Goll |
Difrod (USD) |
Dominica |
30 |
> 50 |
> $1 biliwn |
Gweriniaeth Dominica |
5 |
1 |
> $63 biliwn |
Gwadelwp (Ffrainc) |
2 |
2 |
$120 miliwn |
Haiti |
3 |
0 |
N/A |
Martinique (Ffrainc) |
0 |
0 |
N/A |
Sant Kitts-Nevis |
0 |
0 |
$13 miliwn |
Puerto Rico (UDA) |
36 |
> 30 |
$50 biliwn |
Ynysoedd Americanaidd y Wyryf |
1 |
0 |
N/A |
Unol Daleithiau America |
4 |
0 |
N/A |
Cyfansymiau: |
81 |
> 83 |
> $51.2 biliwn |
Puerto Rico gyda'r nos - cyn Corwynt Maria ac ar ei ôl.
Mae Llywydd Puerto Rico yn amcangyfrif y bydd cost yr atgyweiriadau oddeutu $90 biliwn USD.
Rhan o Ddominica
Daeth Corwynt Ophelia y corwynt categori 3 mwyaf dwyreiniol a gofnodwyd.
Daeth Storm Drofannol Ophelia yn gorwynt ar Hydref 11.
Yn annisgwyl, Daeth Ophelia yn gorwynt categori 3 ar Hydref 14, wrth symud heibio'r Azores gyda gwyntoedd cryf a glaw trwm.
Yn annisgwyl ac yn anarferol, symudodd Ophelia tua'r dwyrain (a'r gogledd) at y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon.
Roedd Iwerddon wedi dioddef wrth i Ophelia ei tharo'n uniongyrchol, sef y storm gryfaf i daro Iwerddon ymhen hanner canrif. Roedd rhannau o Gymru wedi dioddef hefyd, er ni dderbyniodd wyntoedd cryfaf y storm.
O Hydref 21 ymlaen, mae Ophelia wedi achosi o leiaf 51 o farwolaethau. Cafodd 48 o'r marwolaethau hyn eu hachosi gan Ophelia yn ymledu tân gwyllt yn Sbaen a Phortiwgal.
Fe wnaeth y tair marwolaeth uniongyrchol ddigwydd yn Iwerddon.
Mae'r colledion economaidd wedi'u hamcangyfrif i fod yn agos at £1 biliwn.
1 Trefnwch y corwyntoedd canlynol (Harvey, Irma a Maria) mewn trefn o’r gorau (sef cyfanswm lleiaf o drawiadau) i’r gwaethaf (sef cyfanswm mwyaf o drawiadau). Rhowch nhw mewn trefn ar sail:
2 Awgrymwch resymau pam rydych chi’n meddwl y byddai Corwynt Categori 4 (fel Harvey) yn costio mwy o arian na Chorwynt Categori 5 (fel Irma).
Ar ôl darllen y 3 erthygl a chwblhau’r gweithgareddau, defnyddiwch y taflenni A3 atodedig i barhau’r ymchwiliad wnaethoch chi ddechrau arno yn y rhifyn diwethaf
Caiff yr adnodd ei gynllunio’n adnodd dosbarth cyfan o flaen y dosbarth ar daflunydd/bwrdd gwyn rhyngweithiol. Dylai’r gwaith graffig gwahanol gael ei egluro ar y testun, er na fydd yn ddarllenadwy gan y rhan fwyaf o’r disgyblion. Yn dilyn hwn, bydd yn ddelfrydol i’r disgyblion gael mynediad i’r adnoddau ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen weithgaredd (i’w hargraffu ar dudalen A3). Yn ddelfrydol, caiff y gweithgareddau hyn eu cefnogi gan ddefnydd o ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron, neu ddyfeisiau/ffonau y disgyblion eu hunain os yw’n ganiataol. Sut bynnag, caiff y gweithgareddau eu cynllunio ar gyfer gwers un awr, gyda’r athro/athrawes yn defnyddio’r adnodd o flaen y dosbarth ynghyd â’r daflen adnodd. Gellir wedyn pennu gwaith cartref er mwyn i’r disgyblion astudio’r erthyglau o flaen llaw cyn y wers nesaf.
Mae’r adnodd a’r daflen wedi eu cynllunio i gefnogi’r FfLlRh tra bo’n rhoi gwybodaeth ddaearyddol bwysig i’r disgyblion am leoedd o ran pwysedd aer isel.
Naill ai yn y dosbarth neu yn y ty, darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl adnodd ar-lein, ac yn yr erthyglau atodedig yn y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion. Ceisiwch gwblhau pob gweithgaredd sydd ar y daflen adnodd.
Beth fyddwch yn ei ddysgu: