42

Pwysedd Isel yn y Newyddion - Cyfnod Corwyntoedd

Gweithgaredd

  1. Lle (Defnyddiwch atlas i’ch helpu)
    a. Tir – Enwch gymaint o leoedd ag y gallwch ar y llun lloeren.
    b. Dŵr – Enwch gymaint o leoedd ag y gallwch ar y llun lloeren.

  2. Disgrifiwch batrwm y cymylau yn y pwyntiau isod:
    a. Mae band o gymylau ar draws …………………
    b. Mae band o gymylau yn agos at ………………
    c. Mae …… chwyrlïad cwmwl yn ……………………

  3. Yn eich barn chi beth yw nodweddion cymylau C?

  4. Allwch chi feddwl pam mae’r llun lloeren yma’n brin?

Cyfnod Corwyntoedd

Mae’r straeon newyddion tywydd bob blwyddyn ar sail y pwysedd aer isaf sy’n cael ei gofnodi bob blwyddyn – Stormydd Trofannol – a’u henwau rhanbarthol – Corwyntoedd, Cylchwyntoedd a Gyrwyntoedd.

  • Mae Corwynt yn gorwynt trofannol sy’n digwydd ar Gefnfor yr Iwerydd, ac i Ogledd-ddwyrain y cefnfor Tawel.
  • Mae Gyrwynt yn digwydd i Ogledd-orllewin y Cefnfor Tawel.
  • Mae Cylchwynt yn digwydd i dde’r Cefnfor Tawel neu ar Gefnfor India.

Cyfnodau Stormydd Basnau’r Cefnforoedd

Basn

Cyfnod yn dechrau

Cyfnod yn gorffen

Gogledd Cefnfor yr Iwerydd

Mehefin 1

Tachwedd 30

Dwyrain y Cefnfor Tawel

Mai 15

Tachwedd 30

Gorllewin y Cefnfor Tawel

Ionawr 1

Rhagfyr 31

Gogledd Cefnfor India

Ionawr 1

Rhagfyr 31

De-orllewin Cefnfor India

Gorffennaf 1

Mehefin 30

Y Rhanbarth Awstralaidd

Tachwedd 1

Ebrill 30

De’r Cefnfor Tawel

Tachwedd 1

Ebrill 30

 

Wrth gwrs mae stormydd yn digwydd drwy’r flwyddyn, felly sut allwn ni gael ‘cyfnodau’?

Yn y rhanbarthau trofannol mae tri chategori o storm –

  • Dibwysiant Trofannol, gyda gwyntoedd parhaol o 38mya (62 cm/awr).
  • Stormydd Trofannol gyda gwyntoedd parhaol rhwng 39mya (63 cm/awr) a 73 mya (119 cm/awr). Rhoddir enwau i Stormydd Trofannol hefyd.
  • Uwchben 74mya (112cm/awr). Gelwir y Stormydd Trofannol hyn yn Gorwyntoedd, (Cylchwyntoedd neu Yrwyntoedd).

Byddwn yn edrych ar y system o ddosbarthu’r Stormydd Trofannol yn yr erthyglau cysylltiedig.

Cyfnod Corwyntoedd yr Iwerydd 2017

Cofiwch gaiff y rhifyn hwn ei ysgrifennu ar ddechrau mis Hydref; saith wythnos cyn i ddiwedd Cyfnod Corwyntoedd yr Iwerydd ar ddiwedd mis Tachwedd.

Stormydd yr Iwerydd a enwyd (hyd at Hydref 10)

Llun: 2017 Atlantic hurricane season summary map - Cyclonebiskit © Wikimedia Commons

  • Storm Drofannol Arlene – Ebrill
  • Storm Drofannol Bret – Mehefin
  • Storm Drofannol Cindy – Mehefin
  • Storm Drofannol Don – Gorffennaf
  • Storm Drofannol Emily – Gorffennaf/Awst
  • Corwynt Franklin – Awst (Categori 1)
  • Corwynt Gert – Awst (Categori 2)
  • Corwynt Harvey – Awst/Medi (Categori 4)
  • Corwynt Irma – Awst/Medi (Categori 5)
  • Corwynt Jose – Medi (Categori 4)
  • Corwynt Katia – Medi (Categori 2)
  • Corwynt Lee – Medi (Categori 3)
  • Corwynt Maria – Medi (Categori 5)
  • Corwynt Nate – Hydref (Categori 1)
  • Storm Drofannol Ophelia – Hydref

 

  • Mae cyfnod Corwyntoedd yr Iwerydd yn dechrau ar Fehefin 1af, ond fe welodd weithgarwch cynnar ym mis Ebrill.
  • Mae stormydd trofannol a chorwyntoedd yn cael eu ffurfio dros gefnforoedd twym (27°C+).
  • Roedd hyn yn arfer digwydd ar ôl dechrau mis Mehefin wrth i’r haf gynhesu wyneb y cefnforoedd.

Allwch chi feddwl am reswm dros bethau’n newid?

Llun: Katia, Irma, Jose 2017-09-08 1745Z–1935Z © Wikimedia Commons

Golygfa brin – Tri Chorwynt (Katia, Irma a Jose) ar yr un pryd.

Cofiwch, ar adeg ysgrifennu’r rhifyn hwn mae 7 wythnos i fynd tan i’r cyfnod corwyntoedd ‘safonol’ ddod i ben, ond yn barod:

  • Yn barod, mae’r cyfnod corwyntoedd mwyaf costus (arian).
  • Mae 2017 yn un flwyddyn o 6 i dderbyn mwy nag un corwynt Categori 5.
  • Cyfnod 2017 yw’r ail gyfnod i dderbyn 2 gorwynt Categori 5 sydd wedi cyrraedd tir.
  • Corwynt Irma oedd y corwynt cryfaf erioed i gael ei ffurfio yng nghefnfor yr Iwerydd.
  • Yn y cyfnod hwn, gwelodd y gyrwynt trofannol gwlypaf erioed i gyrraedd tir UDA (Harvey) a’r gyrwynt trofannol cyflymaf erioed yng Ngwlff Mecsico (Nate)

Corwynt Harvey

Llun: Harvey 2017-08-25 2231Z © Wikimedia Commons

Ffurfiwyd

Gwasgarwyd

Awst 17, 2017

Medi 3, 2017

Gwyntoedd Cryfaf

1-munud - 130mya (215 cm/awr)

Pwysedd Isaf

938 mbar

Trychinebau

77 wedi’u cadarnhau

Difrod

Oddeutu $70 biliwn USD (isaf) hyd at $180 biliwn (uchaf) – ar draws UDA cyfan, yn fwy neu lai.


Llun: Harvey 2017 track © Wikimedia Commons

Tecsas

  • Mae Llywydd Tecsas yn dweud y byddai cyfanswm yr holl ddifrod rhwng $150-180 biliwn USD.
  • Cryn dipyn yn fwy na $120 biliwn USD.
  • Dyna faint roedd yn costio i ailadeiladu New Orleans wedi i Gorwynt Katrina ei bwrw yn 2005.

Llun: Support during Hurricane Harvey (TX) (50) © Wikimedia Commons

Rainfall

Fideo: https://commons.wikimedia.org/w/index.php?title=File%3AWe%27re_continuing_to_tally_rainfall_accumulations_in_the_storm%27s_wake%2C_as_-Har....webm

Corwynt Irma

Llun: Irma 2017-09-06 1745Z © Wikimedia Commons

Ffurfiwyd

Uchafbwynt

Gwasgarwyd

Awst30, 2017

Medi 6

Medi16, 2017

Gwyntoedd Cryfaf

1-munud -185mya (295 cm/awr)

Pwysedd Isaf

914 mbar

Trychinebau

132 wedi’u cadarnhau

Difrod

Oddeutu $63 biliwn USD


Image: Irma 2017 track © Wikimedia Commons

Corwynt Irma ar Fedi 5 wrth iddi symud tuag at Ynysoedd Prydeinig yr Wyryf ar Fedi 6.

File:Hurricane Irma 5 September GOES Floater Rainbow IR view.gif

Fideo: https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Hurricane_Irma_5_September_GOES_Floater_Rainbow_IR_view.gif

 

Ynysoedd yr Wyryf cyn y Corwynt ac ar ei ôl

Llun: Hurricane Irma turns Virgin Islands brown © Wikimedia Commons

Recordiau

  • Irma oedd y corwynt Categori 5 mwyaf dwyreiniol erioed.
  • Gyda gwyntoedd o 185mya (295 cm/awr), Irma oedd yr ail gorwynt Iwerydd ar y cyd erioed.
  • Roedd gan Gorwynt Irma wyntoedd o 185mya (295 cm/awr) a pharodd 37 awr; yr unig gorwynt trofannol i fyw gyda gwyntoedd mor gryf â hynny am fwy na 24 awr.

Marwolaeth a Difrod

Lle

Trychinebau

Difrod (USD)

Anguilla (DU)

1

$290 miliwn

Barbados

1

N/A

Barbiwda

3

$215 miliwn

Ynysoedd Prydeinig yr Wyryf

4

$1.4 biliwn

Ciwba

10

$2.2 biliwn

Haiti

1

N/A

Puerto Rico (UDA)

3

$1 biliwn

Sant Kitts-Nevis

0

$19.7 miliwn

Ynys Sant Barthélemy (Ffrainc)

11

$2.28 biliwn

Ynys Sint Maarten (Yr Iseldiroedd)

4

$2.5 biliwn

Ynysoedd Turks a Caicos

0

> $500 miliwn

Unol Daleithiau America

88

> $50 biliwn

Ynysoedd Americanaidd y Wyryf

4

$2.4 biliwn

Anhysbys

2

N/A

Cyfansymiau:

132

> $62.9 biliwn

 

Canlyniad o'r corwynt ar Ynys Sint Maarten (Tiriogaeth yr Iseldiroedd).


Llun: Hurricane Irma on Sint Maarten (NL) 05 © Wikimedia Commons

 

Corwynt Maria

Y degfed corwynt Iwerydd cryfaf a gofnodwyd yw Corwynt Maria.

Llun: Maria 2017-09-19 2015Z © Wikimedia Commons

Ffurfiwyd

Gwasgarwyd

Medi16, 2017

Hydref3, 2017

Gwyntoedd Cryfaf

1-munud - 175mya (280 cm/awr)

Pwysedd Isaf

908 mbar

Trychinebau

81 wedi’u cadarnhau

Difrod

> $51.2 biliwn USD

 

  • Most costly hurricane in the history of Puerto Rico.
  • Worst natural disaster in the history of Dominica.

Image: Maria 2017 track © Wikimedia Commons

Llun Lloeren o Gorwynt Maria wrth gyrraedd tir Puerto Rico

Maria GOES Floater Rainbow IR 0925EDT 20-Sept-2017

Fideo: https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/a/ad/Maria_GOES_Floater_Rainbow_IR_0925EDT_20-Sept-2017.gif

Marwolaeth a Difrod amcangyfrifedig o ran Tiriogaeth

Tiriogaeth

Trychinebau

Ar Goll

Difrod (USD)

Dominica

30

> 50

> $1 biliwn

Gweriniaeth Dominica

5

1

> $63 biliwn

Gwadelwp (Ffrainc)

2

2

$120 miliwn

Haiti

3

0

N/A

Martinique (Ffrainc)

0

0

N/A

Sant Kitts-Nevis

0

0

$13 miliwn

Puerto Rico (UDA)

36

> 30

$50 biliwn
($90 biliwn gan y Llywydd)

Ynysoedd Americanaidd y Wyryf

1

0

N/A

Unol Daleithiau America

4

0

N/A

Cyfansymiau:

81

> 83

> $51.2 biliwn

 

Puerto Rico gyda'r nos – cyn Corwynt Maria ac ar ei ôl.

Llun: Puerto Rico at night before and after Hurricane Maria © Wikimedia Commons

Mae Llywydd Puerto Rico yn amcangyfrif y bydd cost yr atgyweiriadau oddeutu $90 biliwn USD

 

Rhan o Ddominica

Llun: Hurricane Maria destruction along Roseau road © Wikimedia Commons

Blwch Gwybodaeth Corwynt Ophelia

 

Daeth Corwynt Ophelia y corwynt categori 3 mwyaf dwyreiniol a gofnodwyd.

Daeth Storm Drofannol Ophelia yn gorwynt ar Hydref 11.

Daeth Ophelia yn gorwynt categori 3 ar Hydref 14.

Yn anarferol, symudodd Ophelia i'r dwyrain tuag at y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Roedd Iwerddon wedi dioddef wrth i Ophelia ei tharo'n uniongyrchol, sef y storm gryfaf i daro Iwerddon ymhen hanner canrif.

Roedd rhannau o Gymru wedi dioddef hefyd, ond ni chafodd Cymru rannau cryfaf y storm.

Fe wnaeth Storm Ophelia achosi tair marwolaeth yn uniongyrchol; i gyd yn Iwerddon.

Mae'r colledion economaidd wedi'u hamcangyfrif i fod yn agos at £1 biliwn.

Gweithgaredd

1 Trefnwch y corwyntoedd canlynol (Harvey, Irma a Maria) mewn trefn o’r gorau (sef cyfanswm lleiaf o drawiadau) i’r gwaethaf (sef cyfanswm mwyaf o drawiadau). Rhowch nhw mewn trefn ar sail:

  1. Trychinebau
  2. Gwyntoedd parhaol cyflymaf
  3. Pwysedd aer isaf
  4. Difrod ariannol

2 Awgrymwch resymau pam rydych chi’n meddwl y byddai Corwynt Categori 4 (fel Harvey) yn costio mwy o arian na Chorwynt Categori 5 (fel Irma).

Ar ôl darllen y 3 erthygl a chwblhau’r gweithgareddau, defnyddiwch y taflenni A3 atodedig i barhau’r ymchwiliad wnaethoch chi ddechrau arno yn y rhifyn diwethaf

Caiff yr adnodd ei gynllunio’n adnodd dosbarth cyfan o flaen y dosbarth ar daflunydd/bwrdd gwyn rhyngweithiol. Dylai’r gwaith graffig gwahanol gael ei egluro ar y testun, er na fydd yn ddarllenadwy gan y rhan fwyaf o’r disgyblion. Yn dilyn hwn, bydd yn ddelfrydol i’r disgyblion gael mynediad i’r adnoddau ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen weithgaredd (i’w hargraffu ar dudalen A3). Yn ddelfrydol, caiff y gweithgareddau hyn eu cefnogi gan ddefnydd o ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron, neu ddyfeisiau/ffonau y disgyblion eu hunain os yw’n ganiataol. Sut bynnag, caiff y gweithgareddau eu cynllunio ar gyfer gwers un awr, gyda’r athro/athrawes yn defnyddio’r adnodd o flaen y dosbarth ynghyd â’r daflen adnodd. Gellir wedyn pennu gwaith cartref er mwyn i’r disgyblion astudio’r erthyglau o flaen llaw cyn y wers nesaf.

Mae’r adnodd a’r daflen wedi eu cynllunio i gefnogi’r FfLlRh tra bo’n rhoi gwybodaeth ddaearyddol bwysig i’r disgyblion am leoedd o ran pwysedd aer isel.

Naill ai yn y dosbarth neu yn y ty, darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl adnodd ar-lein, ac yn yr erthyglau atodedig yn y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion. Ceisiwch gwblhau pob gweithgaredd sydd ar y daflen adnodd.

Beth fyddwch yn ei ddysgu:

  • Byddwch yn cyfoethogi’ch gwybodaeth am bwysedd aer isel.
  • Byddwch yn cyfoethogi’ch dealltwriaeth o sut allai’r ffactorau hyn effeithio ar fod dynol a gweithgaredd dyn.
  • Cewch y cyfle i ddysgu neu ymarfer sgiliau llythrennedd a rhifedd pwysig.
  • Dysgwch dermau daearyddol newydd wedi’u hamlygu’n borffor. Dylai’r rhain gael eu dysgu, a’u hychwanegu i eirfa. Rhestr o eiriau yw geirfa, a’u hystyron. Gallech gael un ar gefnau eich llyfr ymarferion daearyddiaeth; os oes dyddiadur gennych, efallai bydd yn lle da i’w chadw, neu efallai cadwech eirfa neu lyfr geiriau ar wahân i’ch llyfr ymarferion. Mae geirfa dda yn yn eich helpu wella eich geirfa a’ch llythrennedd. Ymchwiliwch i ystyron gan ddefnyddio cynnwys perthnasol i’r erthyglau, trafodaethau neu eiriadur (naill ai ar y we neu lyfr)
Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Egluro Pwysedd Aer Isel

Egluro Pwysedd Aer Isel