6

Rhaniad y tymheredd

Pam mae Cymru'n cael cymysgedd o dymereddau?

Yng Nghymru, mae dwy brif ffactor yn dylanwadu ar y tymheredd: yr haul a'r môr. Er mwyn deall beth mae'r rhain yn ei wneud, beth am edrych ar ychydig o fapiau.

Patrymau tymheredd yr haf ym Mhrydain

Mae'r map yma o Brydain yn dangos y dylech chi fynd tua'r de i gadw'n gynnes yn yr haf. Mae'r tymheredd yng ngogledd yr Alban yn ystod gwyliau'r haf yn gallu bod yn is na 13°C. Yn y de, maen nhw'n uwch na 17°C. Wrth gwrs, tymereddau cyfartalog yw'r rhain, ac felly gall fod yn boethach (ac yn oerach) na'r rhain!

undefined

Patrymau tymheredd yr haf

Beth am edrych ar fap o Gymru? Mae'r map yn dangos mai de-ddwyrain Cymru yw'r lle cynhesaf, gyda thymheredd uwch na 16°C (60F). Ond mae gweddill Cymru'n oerach, gydag arfordir gogleddol Ynys Môn yn cael tymheredd is na 15°C.

undefined

Patrymau tymheredd yr haf yng Nghymru

Felly, beth sy'n achosi'r gwahaniaethau o ran patrwm tymheredd? Beth am edrych ar y diagram i ddod o hyd i gliwiau?

undefined

Pelydrau'r haul a'r atmosffer

Fel y gwelwch chi, mae'r diagram yn dangos beth sy'n digwydd pan fydd pelydrau'r haul yn treiddio drwy atmosffer y Ddaear ac yn taro ei harwyneb. Mae taith y pelydrau drwy'r atmosffer yn hirach ym mhwynt A, ac yn fyrrach ym mhwynt B. Po hiraf y daith, y lleiaf o wres fydd yn cyrraedd y ddaear a'r oeraf fydd hi yno, felly mae'r daith hir i'r gogledd o'r DU yn cael ei chynhesu'n llai na'r daith fer i'r de.

Hefyd, bydd pelydrau'r haul yn fwy gwasgaredig ac ar ongl isel yn y gogledd, ond yn fwy dwys yn y de. Mae hyn yn esbonio pam mae hi'n gynhesach yn y de ac yn oerach yn y gogledd yn ystod yr haf ym Mhrydain.

Patrymau tymheredd y Gaeaf

Mae'r map yma'n dangos patrwm gwahanol. Yn y gaeaf mae'n oerach yn y dwyrain (weithiau o dan 4°C) ac yn gynhesach yn y gorllewin (weithiau dros 7°C).

undefined

Patrymau'r tymheredd y gaeaf

Pam mae hyn yn digwydd?

Yn gorwedd i'r gorllewin o Gymru a'r DU mae Môr Iwerydd. Yn ystod y gaeaf, mae'r Iwerydd yn ymddwyn fel potel ddwr poeth anferthol ac yn helpu i gadw'r rhanbarthau gorllewinol yn gynnes. I'r dwyrain o'r DU mae ardal gyfandirol enfawr (Ewrop ac Asia) gyda dim ond môr cul yn eu gwahanu. Mae cyfandiroedd yn oeri'n sydyn iawn, ac mae'r tymheredd yng nghanol Ewrop ac Asia, sef Rwsia, yn aml yn gostwng yn is na 20°C yn y gaeaf. Mae'r ardal hon yn ymddwyn fel rhewgell sydd â'i drws ar agor ac sy'n oeri dwyrain y DU.

Yn waeth byth, os bydd aer o'r cyfandir yn symud uwch ein pen, bydd yn codi lleithder wrth fynd dros Fôr y Gogledd ac yna'n ei ollwng arnon ni ar ffurf eira. Dyma ddigwyddodd yn ystod gaeaf 2010 pan gaewyd sawl ysgol yng Nghymru oherwydd yr eira. Caewyd hyd yn oed mwy o ysgolion yn nwyrain Lloegr.

undefined

Diwrnod eira

Sut mae'r gwahaniaethau hyn mewn tymheredd yn effeithio ar bobl?

undefined

Haul ac eira

Mae tymereddau'n cael effaith fawr ar lawer o weithgareddau economaidd fel ffermio a thwristiaeth. Yng ngorllewin Cymru, mae'r tymheredd cynhesach yn y gaeaf yn golygu bod y tymor tyfu cnydau'n cychwyn yn gynnar fel y gall ffermwyr wneud mwy o arian drwy blannu tatws newydd a chnydau salad cynnar. Yn y dwyrain, mae gaeafau oerach yn golygu bod y cnydau hyn yn dechrau tyfu'n hwyrach yn y flwyddyn. Ond mae'r hafau poeth, ar y llaw arall, yn berffaith ar gyfer aeddfedu cnydau.

Mae 2010 wedi bod yn gynhaeaf cynhyrchiol iawn i ffermwyr gwenith diolch i'r tywydd cynhesach, gan gynhyrchu pump y cant yn fwy o gymharu â 2009.

Hefyd ym mis Chwefror a Mawrth 2010, cafodd cyrchfan sgïo Aviemore yn yr Alban eira dwfn am gyfnod hir a'r amodau sgïo gorau ers degawdau!

Stori wahanol oedd hi o gwmpas gweddill y byd fodd bynnag, lle cafwyd blwyddyn o drychinebau tywydd.

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Gweithgaredd

Ceisiwch lunio mapiau a diagramau i esbonio'r gwahaniaethau yn nhymheredd y DU yn ystod yr haf a'r gaeaf.

Sut rydych chi'n meddwl y gallai'r patrymau tymheredd hyn effeithio ar eich gweithgareddau chi?

Top

Mwy o’r rhifyn yma...