6

Trychinebau tywydd

Pam fod 2010 wedi bod yn flwyddyn o drychinebau tywydd byd-eang?

Ar ddydd Gŵyl Dewi eleni, achosodd glaw trwm lifogydd a thirlithriadau i ddinistrio cymuned yn Uganda. Enw’r gymuned oedd Nametsi a oedd wedi’i gefeillio â chymunedau yn Rhondda Cynon Taf.

undefined

Wrth i bobl ledled Cymru drio trefnu cymorth, dechreuodd bobl leol dyrchu nes dod o hyd i weddillion dros gant o bobl. Merched a phlant oedd wedi’u dal oedd llawer ohonynt. Roeddent wedi bod yn cael lloches yn Nametsi oherwydd bod yr afon rhy uchel iddyn nhw fedru dychwelyd adref.

undefined

Tirlithriadau yn Uganda

Tra bod hyn yn digwydd yn Nametsi, ’roedd llifogydd a sychder yn cyrraedd eu hanterth ar hyd Affrica, Asia, Awstralia ac Ewrop.

Trychineb llifogydd Pacistan

Ym mis Gorffennaf eleni, profodd Pacistan eu monsŵn trymaf ers dros 80 mlynedd. Glawiodd hi am ddwy wythnos gan effeithio ar bumed o’r wlad. Bu farw dros 1,600 o bobl. Bydd costau’r wlad dlawd hon yn siwr o gyrraedd y biliynau.

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Oeddech chi’n gwybod?

an gyflyrau normal, mae gwyntoedd y Môr Tawel yn anfon dwr cynnes at y lan tua’r gorllewin lle mae’n ‘pentyrru’ o amgylch Awstralia ac Indonesia. Mae hyn yn caniatáu i’r dwr oer oddi ar arfordir De America godi i’r lan. Mae hyn yn achosi aer oer yn y gorllewin ac aer oerach a mwy sych yn y dwyrain.

Os yw’r gwyntoedd uwchben y Môr Tawel yn gostegu, yna mae’r dwr cynnes yn y gorllewin yn llifo tua’r dwyrain. Mae hyn yn achosi glaw trwm yn Ne America a sychder mewn llefydd fel Awstralia. Nododd pysgotwyr lleol ym Mheriw'r tywydd yma El Niño. Digwyddodd hyn yn Rhagfyr - Mawrth 2010 gan achosi trychinebau hinsawdd o amgylch y byd ar ddechrau’r flwyddyn.

Ar ôl El Niño nid aeth y gwyntoedd yn ôl i’r arfer ond yn hytrach cryfhau mwy na’r arfer. Felly, cafodd yr ardal i’r gorllewin o’r Môr Tawel lawer mwy o dywydd poeth na’r hyn a ddisgwyliwyd. Hyn fu’n help i ddechrau’r llifogydd ym mis Gorffennaf a mis Awst. Enw’r cyflyrau hyn yw La Niña, a roddwyd arnynt gan bysgotwyr lleol.

Beth am Gymru?

Yng Nghymru, mae trychinebau tywydd fel y rhai ym Mhacistan ac Affrica yn brin, a phan fyddan nhw’n digwydd maent ar raddfa llawer iawn yn llai.Y rheswm dros hyn yw bod y bobl yn yr Asiantaeth Amgylcheddd yng Nghymru yn gweithio’n galed iawn i’n cadw ni’n ddiogel. Mae’r asiantaeth yn rhoi rhybudd llifogydd ac yn rhoi gwybod i bobl os yw eu cartrefi a’u busnesau mewn perygl llifogydd.

Os gofrestrwch chi’ch cyfeiriad, fe anfonan nhw neges destun atoch, e-bost neu eich ffonio chi a gadael neges os oes gwyliadwriaeth llifogydd, rhybudd llifogydd neu rybudd o lifogydd trwm sy’n debygol o effeithio arnoch chi. Pam na rowch chi’ch cod post iddyn nhw?

Mae’n debyg mai un o weithgareddau amlyga’r Asiantaeth Amgylched yng Nghymru yw’r cynlluniau llifogydd i atal llifogydd ledled Cymru. Ewch i’w gwefan i ddod o hyn i fwy am gynlluniau amddiffyn rhag llifogydd sydd ar waith ar hyn o bryd yn Fairbourne, Abergele, Dolgellau, Afon Rhyd-hir, Pwllheli, Bangor-ar-Ddyfrdwy, Caersws, Chepstow, Dyffryn Conwy, Henffordd, Llanymddyfri, Llanfyllin, Meifod, Rhydymwyn a Rossett.

Ymarfer: Gwneud Penderfyniadau

Darganfyddwch fwy am berygl llifogydd yn eich ardal chi. Defnyddiwch wefan yr Asiantaeth Amgylchedd yng Nghymru i’ch helpu chi.

Edrychwch ar wahanol gynlluniau llifogydd yng Nghymru a gwnewch benderfyniad ar ba agweddau o gynlluniau eraill fyddai’n gweithio yn eich ardal chi.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...