6

Glaw Cwpan Ryder

Mae golff yn gêm ar gyfer bob tywydd - glaw neu hindda. Gellir ei chwarae yn yr haul, a hyd yn oed yn y glaw - oni bai eich bod chi yng Nghymru! Pan ddaeth cwpan Ryder i Gymru ym mis Hydref 2010, roedd y trefnwyr yn crefu am dywydd braf. Ond fel y gall unrhyw ddaearyddwr ddweud wrthoch chi, rhaid bod yn ofalus beth rydych chi'n ei gynllunio pan fo tywydd Cymru yn y cwestiwn!

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cymru wedi dioddef glaw anhygoel o drwm a thywydd eithafol. Felly, beth sydd am ddaearyddiaeth Cymru sy'n creu ei hinsawdd a'i thywydd unigryw?

undefined

Glaw yn tarfu ar Gwpan Ryder

Beth yw tywydd a hinsawdd?

undefined

Yr atmosffer yn gorchuddio'r Ddaear

Tywydd yw'r enw syml a roddwn ar beth sy'n digwydd yn 15km isaf yr atmosffer (sef yr haenen o nwy sy'n amgylchynu'r Ddaear). Mae llawer o bethau'n digwydd yn yr atmosffer fel tymheredd, cymylau, gwynt, glaw, glaw mân, eira, cenllysg/cesair, niwl, tarth ac eirlaw.

Hinsawdd yw'r enw a roddwn ar y tywydd cyfartalog dros gyfnod hir, fel 15 mlynedd. Mae'n dweud wrthon ni pa fath o dywydd i'w ddisgwyl, ond nid yw'n dweud sut fydd y tywydd go iawn o ddydd i ddydd.

undefined

Pam mae Cymru'n cael cymaint o law? Wel, mae'n stori hir...

Aer yn codi

Mae aer yn cynnwys anwedd dŵr (sef dŵr, ar ffurf nwy, sy'n ffurfio wrth i'r gwynt chwythu dros Gefnfor Iwerydd ac anweddu rhywfaint o ddŵr y môr i'r gorllewin). Bydd aer bob amser yn codi ac yn disgyn yn yr atmosffer. Ar ei ffordd i fyny, mae'r gwasgedd yn lleihau, felly mae'r aer yn ehangu ac yn oeri. Gall oeri tua 1 gradd Celsius, bob tua 100 metr i fyny!

Ond dydy aer oer uchel ddim yn gallu dal cymaint o ddŵr ag aer cynnes isel, felly rhaid i rywfaint o'r dŵr gyddwyso. I ddechrau, mae dafnau bach o ddŵr yn cael eu ffurfio sy'n creu cymylau. Os bydd y dafnau hyn yn taro yn erbyn ei gilydd ac yn uno, neu'n rhewi at ei gilydd pan fydd hi'n oer iawn, byddan nhw'n mynd yn ddigon mawr i ddisgyn fel dyddodiad.

Felly pam mae hi'n bwrw glaw'n amlach yng Nghymru?

Wel, mae Cymru ger y môr ac yn cael llawer o anwedd dŵr; mae hi'n llawn bryniau; ac (weithiau) mae hi'n cael dyddiau braf o haf i wthio'r aer i fyny (darfudiad) i gychwyn y broses. Ond hefyd, mae gan Gymru ffryntiau!

Beth yw ffrynt?

Cafodd ffryntiau eu harsylwi'n gyntaf gan wyddonwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe gawson nhw eu henw oherwydd eu bod nhw'n ymddwyn yn debyg iawn i'r byddinoedd yn y rhyfel: roedden nhw'n gwrthwynebu ei gilydd, ond yn wynebu ei gilydd ar hyd llinell o'r enw ffrynt. Fe benderfynon nhw fod y ddau fath o aer yn ymddwyn yn yr un ffordd ac felly bathwyd y term 'ffrynt' sy'n dal i gael ei ddefnyddio heddiw.

 

undefined

undefined

Enghraifft o ffrynt tywydd

Sut mae ffryntiau'n achosi glaw?

Mae aer oer o'r pegwn mor drwm nes ei fod yn gwthio o dan yr aer trofannol cynnes nes ei godi a'i oeri - ac fel y gwyddoch chi, dydy aer oer 'ddim yn gallu dal ei ddŵr'! Hefyd, oherwydd bod llawer o ffryntiau'n croesi uwch ein pennau ni o'r gorllewin i'r dwyrain, mewn gwasgedd isel, rydyn ni hefyd yn cael llawer o law ffrynt.

Ar ôl i'r aer gael ei orfodi i godi ac achosi glaw tirwedd dros fryniau Cymru i'r dwyrain o fynyddoedd Cymru, mae'r aer yn suddo i lawr, yn cynhesu ac yn sychu. Mae hyn yn creu ardal 'cysgod glaw' sydd o ganlyniad yn cael tywydd gwell!

Penderfynon nhw fod y ddau fath o aer yn ymddwyn yn yr un ffordd ac felly bathwyd y term sy'n dal i gael ei ddefnyddio heddiw.

undefined

Cysgod glaw

Beth ddigwyddodd yn ystod Cwpan Ryder?

Yn ystod Cwpan Ryder, fe wnaeth dau wahanol ffrynt o'r de daro Cymru gan achosi cyfuniad o law ffrynt a glaw tirwedd ar y bryniau i'r gogledd o Gasnewydd ar y dydd Gwener a'r dydd Sul - anlwcus, ond nid anghyffredin ar ddiwrnod o hydref yng Nghymru!

Top

Mwy o’r rhifyn yma...