6

Rhaniad y tymheredd

Pam fod Cymru’n profi tymhyredd cymysg?

Yng Nghymru mae dau brif ddylanwad ar dymheredd: yr haul a’r môr. Er mwyn deall y dylanwadau hyn, beth am edrych ar y patrymau ar fapiau.

Patrymau tymheredd yr Haf ym Mhrydain

Mae’r map hwn yn dangos fod rhaid i chi fynd i’r De er mwyn cael tywydd cynnes. I’r Gogledd o’r Alban mae tymheredd yn is na 13°C, ond yn y De maen nhw 17°C. Gan mai cyfartaledd yw’r tymheroedd hyn, maen golygu ei bod hi’n gallu bod yn boethach ac yn oerach na hyn!

undefined

Patrymau tymheredd yr haf

Beth am edrych ar fap o Gymru. Mae’r mapiau hyn yn dangos fod y tymheredd yn Ne Ddwyrain Cymru yn gynnes gyda thymheredd dros 16°C (60F), ond mae gweddill Cymru yn oerach gyda phegwn gogleddol Ynys Môn yn is na 15°C.

undefined

Patrymau tymheredd yr haf yng Nghymru

Felly, beth sy’n achosi’r gwahaniaethau ym mhatrymau tymheredd? Beth am edrych ar y diagram i ddod o hyd i gliwiau?

undefined

Pelydrau'r haul a'r atmosffer

Fel y gwelwch chi, mae’r diagram yn dangos beth sy’n digwydd pan fydd pelydrau’r haul yn treiddio atmosffer y Ddaear ac yn taro’r wyneb. Mae’r atmosffer yn llawer mwy trwchus ar bwynt A, ac yn deneuach ar bwynt B. Po hiraf yw’r daith, bydd llai o wres yn cyrraedd y llawr ac felly bydd y lle yn oerach. Mae’r taith hir Gogledd y DU yn cynhesu llai na thaith fer y De.

Hefyd, bydd pelydrau’r haul yn gwasgaru ar ongl isel yn y Gogledd ond yn ddwys o ongl uwch yn y De. Eglura hyn pam ei bod hi’n gynhesach yn y De ac yn oerach yn y Gogledd yn ystod yr Haf Prydeinig.

Mae Pwynt B wedi ei leoli ar linell y cyhydedd. Yn fan hyn mae’r atmosffer yn deneuach ac felly mae pelydrau’r haul wedi’u gwasgaru dros arwynebedd llawer mwy na Phwynt A. Mae hyn yn digwydd oherwydd bod goleuni yn teithio mewn llinellau syth, ac yna’n taro’r Ddaear, sy’n grwn.

Patrymau tymheredd y Gaeaf

Mae’r map hwn yn dangos tuedd wahanol! Yn y Gaeaf mae hi’n oerach yn y Dwyrain (weithiau’n is na 4 °C) ac yn gynhesach yn y Gorllewin (weithiau dros 7°C).

undefined

Patrymau tymheredd y gaeaf

Pam fod tymheredd yn wahanol yn yr ardaloedd hyn?

I’r Gorllewin o Gymru, a’r DU mae Môr yr Iwerydd. Yn ystod y Gaeaf, mae’r Iwerydd yn ymddwyn fel potel dŵr poeth anferthol i gadw’r rhanbarthau Gorllewinol yn gynnes. I’r Dwyrain o’r DU mae ardal gyfandirol enfawr (Ewrop ac Asia) sydd wedi’u gwahanu gan gulfor yn unig.

Yn waeth na hynny, os bydd aer sy’n dod o’r cyfandir yn symud droson ni, mae’n mynd yn llaith wrth basio dros Môr y Gogledd ac yna’n gollwng arnom ni ar ffurf eira. Dyma ddigwyddodd yng ngaeaf 2010 pan gaewyd sawl ysgol yng Nghymru oherwydd eira, cafodd mwy fyth eu cau yn Nwyrain Lloegr.

undefined

Diwrnod eira

Sut mae gwahaniaethau mewn tymhereedd yn effeithio ar bobl?

undefined

Haul ac eira

Mae patrymau tymheredd yn cael effaith mawr ar rai gweithgareddau economaidd penodol, a’r mwyaf ohonynt yw ffermio a thwristiaeth. Yng Ngorllewin Cymru mae tymheredd cynhesach yn y gaeaf yn golygu bod y tymor tyfu cnydau yn cychwyn yn gynnar fel y gall ffermwyr wneud mwy o arian drwy blannu tatws newydd a chnydau salad cynnar. Yn y Dwyrain, mae’r gaeafau oerach yn golygu bod cnydau’n hwyrach yn tyfu. Ond, ar y llaw arall, mae hafau poeth y dwyrain yn berffaith ar gyfer aeddfedu’r cnydau.

Eleni, yn 2010, cafodd ffermwyr gwenith gynhaeaf helaeth diolch i dywydd braf. Gwelwyd cynnydd o bump y cant yn cynhaeaf o’i gymharu â 2009. Hefyd, ym mis Chwefrof a mis Mawrth 2010, cafodd y gyrchfan sgïo Aviemore Ski yn yr Alban eira trwchus a barhaodd yn hir - y cyflyrau sgïo gorau a welwyd yno ers degawdau!

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Gweithgaredd

Lluniwch fapiau neu diagramau i egluro’r gwahaniaethau yn nhymheredd y DU rhwng yr Haf a’r Gaeaf.

Yn eich barn chi, ym mha ffyrdd gallai’r patrymau tymheredd hyn yn effeithio arnoch?

Top

Mwy o’r rhifyn yma...