Yn y rhan hon o Daearyddiaeth yn y Newyddion, y tro yma rydyn ni’n mynd i ymchwilio i mewn i rai agweddau o newid i’r hinsawdd yng Nghymru drwy ddefnyddio adnoddau o’r Swyddfa Dywydd.
Noddir y Swyddfa Dywydd gan ein Llywodraeth er mwyn darparu gwybodaeth am y tywydd a gwyddoniaeth hinsoddol.
Yn yr erthygl hon, rhoddwn arweiniad i chi allu barhau ag ymchwil i mewn i’ch hinsoddau lleol a chenedlaethol.
Mapiau'r Swyddfa Dywydd
Dewch o hyd i wybodaeth ar gyfer eich gorsaf dywydd leol drwy ddefnyddio’r map tywydd rhyngweithiol ar wefan y Swyddfa Dywydd.
Wrth ddefnyddio offer y map rhyngweithiol, gallwch ddod o hyd i lwyth o wybodaeth am yr hinsawdd a sut mae hi wedi newid yn ystod y 50 mlynedd diwethaf.
Mae’r mapiau isod wedi cael eu creu i ddangos cynhesu yn ystod y Gaeaf yng Nghymru.
Cymedr y Tymereddau Dyddiol Uchaf mis Ionawr
Dewiswch ystod o newidion o’r dewislenni.
Yn ogystal â mapiau, mae’n bosib cael mynediad i’r data ar ffurf dabl.
Mae’r wybodaeth isod wedi cael ei thynnu o’r tablau hyn.
Tymheredd Uchaf ˚C | ||||||||||||
Blwyddyn | ION | CHWE | MAW | EBR | MAI | MEH | GOR | AWS | MED | HYD | TACH | RHAG |
1961-1990 | 5.7 | 5.8 | 8 | 10.6 | 14.1 | 17 | 18.6 | 18.4 | 16 | 12.7 | 8.4 | 6.5 |
1981-2010 | 6.4 | 6.6 | 8.9 | 11.4 | 14.7 | 17.3 | 19.4 | 19.1 | 16.5 | 12.8 | 9.1 | 6.7 |
Sylwch faint o’r misoedd sydd â newid o 1°C bron.
Gallwch gael mynediad i ddata hanesyddol Cymru (neu leoedd eraill y DU) er enghraifft graff sy’n dangos cymedr y tymereddau unrhyw dymor neu flwyddyn rhwng 1910-2015.
Botwm Data Hanesyddol
Can mlynedd yn ôl, roedd tymereddau blynyddol o gwmpas 8-8.3°C, ond yn y blynyddoedd diweddar maen nhw o gwmpas 9.3-9.5°C.
Mae gwybodaeth fanwl ar yr hinsawdd yng Nghymru a rhannau eraill y DU ar gael hefyd.
Botwm Hinsawdd Hanesyddol Fanwl
Detholiad o dair blynedd o ddata o’r dechrau, canol a’r diwedd cymedrau data ar dymereddau misol..
Blwyddyn | ION | CHWE | MAW | EBR | MAI | MEH | GOR | AWS | MED | HYD | TACH | RHAG |
1910 | 3.9 | 5.0 | 5.8 | 6.5 | 10.6 | 13.6 | 13.6 | 13.9 | 12.2 | 10.1 | 4.2 | 6.2 |
1956 | 3.8 | -0.4 | 5.8 | 6.4 | 10.5 | 12.1 | 14.5 | 12.6 | 13.4 | 9.0 | 6.0 | 5.6 |
2014 | 5.4 | 5.5 | 6.8 | 9.2 | 11.3 | 14.1 | 16.2 | 14.0 | 14.1 | 11.5 | 7.8 | 5.2 |
Gallech ddangos y wybodaeth hon fel graff llinell fel yr un isod.