41

Newidiadau i'r Tywydd a Phatrymau'r Hinsawdd

Haf Gwael Arall - Newidiadau i'r Tywydd a'r Hinsawdd

weather

http://www.noaa.gov/news/international-report-confirms-2016-was-warmest-year-on-record-for-globe

Gweithgaredd

  1. Dewiswch un ansoddair sy’n disgrifio’r lluniau uchod orau.
  2. Dewiswch un ferf neu adferf i gydfynd â’r ansoddair.
  3. Ar gyfer pob llun, ysgrifennwch brawddeg lawn sy’n cynnwys eich berf ac ansoddair.

Gwyliau Haf Trychinebus!
Eto!

Wrth i wyliau’r Haf ddod i ben, edrychai athrawon a disgyblion drwy eu ffenestri yng Nghymru ar yr awyr lwyd, a’r glaw yn diferu o’r coed. Haf 2017 .

Teimlai Haf 2017 fel diwrnod ar ôl diwrnod o dywydd glawiog.

Mae’n edrych fel y petaen ni’n aros deng mis am yr haf, ac wrth iddo gyrraedd, cawn ond glaw. Ond a yw hyn yn wir?

Pam ydy’r newyddion yn llawn storïau am:

  • gynhesu byd-eang
  • dymereddau uchaf erioed
  • sawl tân gwyllt a sychder yn Ewrop
  • a phobl yn marw oherwydd y gwres?

Yn anffodus, mae ein tywydd tywyll yng Nghymru yn ganlyniad o’r newid yn hinsawdd Cymru.

Mae lleoedd i’r Dwyrain a’r De yng Nghanol a De Ewrop yn dioddef o sychderau a thân gwyllt, sy’n dod yn fwy arferol.

Yn y rhifyn yma o Daearyddiaeth yn y Newyddion, rydym yn mynd i ymchwilio i’n profiadau hinsoddol ni a storïau newyddion hinsoddol eraill.

Aergyrff

  • Mae cyrff mawr o aer yn symud o le i le.
  • Gelwir y rhain yn aergyrff.
  • Mae gan aergyrff nodweddion o’u rhanbarthau.
    • Mae aer Arctig yn oer iawn.
    • Mae aer Pegynol yn oer.
    • Mae aer Trofannol yn dwym.
    • Mae aer Cyfandirol yn sych.
    • Mae aer Arforol yn wlyb.

Dydy gwahanol fathau o aer ddim yn cymysgu â’i gilydd yn hawdd iawn; caiff y terfyn rhwng gwahanol fathau o aer ei alw’n ffrynt.

Yn ystod 2017, a hafau diweddar, mae’r DU wedi cael ei tharo gan lif o aer Pegynol Arforol sydd yn dod â thymereddau oerach a glaw gydag ef.

Mae hefyd wedi cael ei tharo gan stormydd glaw.

Dyma beth na fyddem yn ei ddisgwyl.

Pam bod pethau wedi newid?

Dydy gwahanol fathau o aer ddim yn cymysgu â’i gilydd yn hawdd iawn; caiff y terfyn rhwng gwahanol fathau o aer ei alw’n ffrynt.

Ar hyd y ffrynt, rhwng aer Pegynol oer ac aer Trofannol twym, mae stormydd glaw a stomrydd gwynt yn datblygu.

Rydym yn galw’r stormydd hyn yn ddibwysiant ffrynt.

Fel arfer, yn ystod ein haf, byddem ni’n disgwyl i’r ffrynt fod i’r gogledd y DU.

Mae hyn yn golygu y byddai’r stormydd ar hyd y ffrynt a’r aer Pegynol oer glawiog tua’r gogledd, a byddem yn derbyn yr aer Trofannol twymach.

OND

  • Yn hafau diweddar mae’r ffrynt, ynghyd â’r stormydd a’r aer Pegynol oer, wedi bod ar draws de Prydain, sy’n golygu bod Cymru yn eistedd yn yr aer oerach a llwybrau’r stormydd gwynt a glaw.
  • Gallwch weld y symud o’r Cerrynt Aer Pegynol a cherhyntau gwynt cyflym yn yr awyr yma.

Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0

Mae safle’r Cerrynt Aer Pegynol rhwng yr aer Trofannol twyn am’r aer Pegynol oer yn cael ei reoli gan ranbarthau sydd â phwysedd aer gwahanol.

Pwysedd aer yw pwysau’r aer sydd yn gwthio ar wyneb y ddaear.

Mae aer sy’n suddo yn achosi pwysedd aer uchel.

Mae aer sy’n codi yn achosi pwysedd aer isel.

Wrth i’r gwahaniaeth rhwng y rhanbarthau sydd â phwysedd uchel a phwysedd isel godi, caiff y Cerrynt Aer Pegynol ei wthio uwch ein pennau, sy’n arwain at hinsawdd wlypach i’n hafau.

http://www.yachtingworld.com/weather/how-the-north-atlantic-oscillation-affects-european-and-atlantic-weather-105954

Newid i'r Hinsawdd?

  • Mae mwy o wres o gwmpas y cyhydedd yn cynyddu’r rhanbarthau uchel eu pwysedd.
  • Mae tymereddau twymach o gwmpas yr Arctig yn achosi i fwy o aer i godi, sydd yn lleihau’r pwysedd isel.
  • Byddwn yn cael mwy o hafau gwlyb a glawiog.

Ond mae pethau yn waeth i dde Ewrop

  • Mae’r newidiadau yn golygu fod de Ewrop yn dioddef o:
    • boethdonnau eithafol
    • sychderau
    • a thân gwyllt
  • Yr haf yma, yn ôl y newyddion, gallai pethau fynd o ddrwg i waeth.
  • Mae gwyddonwyr yn meddwl y gallai tywydd eithaf ladd hyd at 152,000 o bobl y flwyddyn yn Ewrop erbyn 2100 os mae’r newid i’r hinsawdd yn parhau.
    • Dyna 50 gwaith mwy o farwolaethau.
    • Bydd pob 2 berson mewn 3 yn Ewrop yn cael eu heffeithio gan y trychinebau erbyn 2100, yn ôl cyfradd o bob un yn 20 ar ddechrau’r ganrif.

 

Gweithgaredd

  1. Cwblhewch y brawddegau hyn yn disgrifio beth sy’n digwydd pan mae’r aergyrff canlynol yn symud dros bicnic yng Nghymru yn ystod yr haf.

Canolbwyntiwch ar ddefnyddio ansoddeiriau da.

a. Roeddwn ni’n cael picnic pan ddaeth aer Pegynol Arforol drosom, ac newidiodd y tywydd i fod yn ........

b. Roeddwn ni’n cael picnic pan ddaeth aer Pegynol Cyfandirol drosom, ac newidiodd y tywydd i fod yn ........

c. Roeddwn ni’n cael picnic pan ddaeth aer Trofannol Arforol drosom, ac newidiodd y tywydd i fod yn ........

ch. Roeddwn ni’n cael picnic pan ddaeth aer Trofannol Cyfandirol drosom, ac newidiodd y tywydd i fod yn ........

Ar ôl darllen y 3 erthygl a chwblhau’r gweithgareddau, defnyddiwch y taflenni A3 atodedig i ddechrau ymchwilio i newid mewn patrymau’r hinsawdd a thywydd yng Nghymru, a thu hwnt iddi.

Caiff yr adnodd ei gynllunio’n adnodd dosbarth cyfan o flaen y dosbarth ar daflunydd/bwrdd gwyn rhyngweithiol. Dylai’r gwaith graffig gwahanol gael ei egluro ar y testun, er na fydd yn ddarllenadwy gan y rhan fwyaf o’r disgyblion. Yn dilyn hwn, bydd yn ddelfrydol i’r disgyblion gael mynediad i’r adnoddau ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen weithgaredd (i’w hargraffu ar dudalen A3). Yn ddelfrydol, caiff y gweithgareddau hyn eu cefnogi gan ddefnydd o ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron, neu ddyfeisiau/ffonau y disgyblion eu hunain os yw’n ganiataol. Sut bynnag, caiff y gweithgareddau eu cynllunio ar gyfer gwers un awr, gyda’r athro/athrawes yn defnyddio’r adnodd o flaen y dosbarth ynghyd â’r daflen adnodd. Gellir wedyn pennu gwaith cartref er mwyn i’r disgyblion astudio’r erthyglau o flaen llaw cyn y wers nesaf.

Mae’r adnodd a’r daflen wedi eu cynllunio i gefnogi’r FfLlRh tra bo’n rhoi gwybodaeth ddaearyddol bwysig i’r disgyblion am newidiadau i batrymau tywydd ac hinsawdd yng Nghymru.

Naill ai yn y dosbarth neu yn y ty, darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl adnodd ar-lein, ac yn yr erthyglau atodedig yn y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion. Ceisiwch gwblhau pob gweithgaredd sydd ar y daflen adnodd.

Beth fyddwch yn ei ddysgu:

  • Byddwch yn cyfoethogi’ch gwybodaeth am newidiadau i batrymau tywydd ac hinsawdd yng Nghymru.
  • Byddwch yn cyfoethogi’ch dealltwriaeth o sut allai’r ffactorau hyn effeithio ar fod dynol a gweithgaredd dyn.
  • Cewch y cyfle i ddysgu neu ymarfer sgiliau llythrennedd a rhifedd pwysig.
  • Dysgwch dermau daearyddol newydd wedi’u hamlygu’n borffor. Dylai’r rhain gael eu dysgu, a’u hychwanegu i eirfa. Rhestr o eiriau yw geirfa, a’u hystyron. Gallech gael un ar gefnau eich llyfr ymarferion daearyddiaeth; os oes dyddiadur gennych, efallai bydd yn lle da i’w chadw, neu efallai cadwech eirfa neu lyfr geiriau ar wahân i’ch llyfr ymarferion. Mae geirfa dda yn yn eich helpu wella eich geirfa a’ch llythrennedd. Ymchwiliwch i ystyron gan ddefnyddio cynnwys perthnasol i’r erthyglau, trafodaethau neu eiriadur (naill ai ar y we neu lyfr).
Top

Mwy o’r rhifyn yma...

2016 - Cyflwr yr Hinsawdd

2016 - Cyflwr yr Hinsawdd

Ymchwilio i Newid i’r Hinsawdd yng Nghymru a’r DU

Ymchwilio i Newid i’r Hinsawdd yng Nghymru a’r DU