41

Newidiadau i'r Tywydd a Phatrymau'r Hinsawdd

Haf Gwael Arall - Newidiadau i'r Tywydd a'r Hinsawdd

weather

http://www.noaa.gov/news/international-report-confirms-2016-was-warmest-year-on-record-for-globe

Gweitharedd

1 Dewiswch un ansoddair sy’n disgrifio’r lluniau uchod orau.

2 Dewiswch un ferf neu adferf i gydfynd â’r ansoddair.

3 Dewiswch bwnc i’ch brawddeg.

4 Ar gyfer pob llun, ysgrifennwch brawddeg lawn sy’n cynnwys eich pwnc, berf ac ansoddair.

Gwyliau Haf Trychinebus!
Eto!

Wrth i ganol mis Awst ddod a mynd, a diwedd gwyliau’r haf nesáu, edrychai’r athrawon a disgyblion drwy eu ffenestri yng Nghymru ar yr awyr lwyd, y pafinau gwlyb, a’r glaw yn diferu o’r coed.

Edrychai rhieni ar ragolygon y tywydd bob nos, neu edrychai ar yr aps ar eu ffonau i gynllunio’r diwrnodau sy’n dod. Daeth yn anoddach ac yn ddrutach i gadw plant Cymru yn hapus oherwydd y diwrnodau glawiog.

Mae’n edrych fel y petaen ni’n aros deng mis am yr haf, ac wrth iddo gyrraedd, cawn ond glaw. Ond a yw hyn yn wir? Pam ydy’r newyddion yn llawn storïau am gynhesu byd-eang, tymereddau uchaf erioed, sawl tân gwyllt yn Ewrop wrth iddi gael ei heffeithio gan sychderau ofnadwy, a phobl yn marw oherwydd y gwres?

Yn anffodus, mae ein tywydd tywyll yng Nghymru yn ganlyniad o’r newid yn hinsawdd Cymru, ac mae lleoedd i’r Dwyrain a’r De yng Nghanol a De Ewrop yn dioddef o sychderau a thân gwyllt, sy’n dod yn fwy arferol. Yn y rhifyn yma o Daearyddiaeth yn y Newyddion, rydym yn mynd i ymchwilio i’n profiadau hinsoddol ni a phrofiadau hinsoddol yn ein cyfandir a thu hwnt iddo.

Aergyrff

Mae cyrff mawr o aer yn symud o le i le. Gelwir y rhain yn aergyrff. Mae gan aergyrff nodweddion o’u rhanbarthau.

  • Mae aer Arctig yn oer iawn.
  • Mae aer Pegynol yn oer.
  • Mae aer Trofannol yn dwym.
  • Mae aer Cyfandirol yn sych.
  • Mae aer Arforol yn wlyb.

Dydy gwahanol fathau o aer ddim yn cymysgu â’i gilydd yn hawdd iawn; caiff y terfyn rhwng gwahanol fathau o aer ei alw’n ffrynt.

Yn ystod 2017, a hafau diweddar, mae’r DU wedi cael ei tharo gan lif o aer Pegynol Arforol sydd yn dod â thymereddau oerach a glaw gydag ef.

Yn ogystal â’r llif cryf o aer Pegynol Arforol, mae wedi bod dibwysiant ffrynt; yn ffodus, nad oedd yn gryf yn ystod haf 2017.

 world storms

Wrth edrych ar hanes ein hinsawdd, nid yw’n rhywbeth y byddem yn ei ddisgwyl; yn ystod yr haf, dylai llwybr y stormydd fod yn uchel i ogledd y DU, a’r awyr Pegynol Arforol i ogledd y stormydd.

Yn ystod yr haf, byddai Cymru yn disgwyl i’r aergyrff cryf fod yn Drofannol Arforol neu’n Drofannol Cyfandirol.

Pam bod pethau wedi newid?

Mae llwybr y gwyntoedd gorllewinol yng ngogledd yr Iwerydd yn cael eu rheoli gan ranbarthau sydd â phwysedd aer gwahanol.

Pwysedd aer yw “pwysau” (màs) aer sydd yn gwthio ar wyneb y ddaear.

  • Mae aer sy’n suddo yn achosi pwysedd aer uchel.
  • Mae aer sy’n codi yn achosi pwysedd aer isel.

Mae’r patrwm ‘normal’ neu’r patrwm ‘disgwyliedig’ o wyntoedd gorllewinol a stormydd yng gogledd yr Iwerydd yn cael ei reoli gan:

  • ranbarth o bwysedd aer uchel sy’n datblygu yn yr Iwerydd o gwmpas Ynysfor Asores, sef grŵp o ynysoedd folcanig tua 850 millitir i orllewin morlin De Portiwgal.
  • neu ranbarth o bwysedd aer isel sy’n datblygu yn y rhanbarth o gwmpas Gwlad yr Iâ.

Yn y blynyddoedd diweddar, mae cryfder (ac weithiau lleoliad) y ddau aergyrff wahanol hyn wedi arwain at newid i’r hinsawdd.

Weithiau, mae’r gwahaniaeth mewn pwysedd aer rhwng y ddau ranbarth yn fwy, ac weithiau mae’n llai. Mae hyn yn effeithio ar lwybr cerrynt aer uchel, sef y Cerrynt Aer Pegynol.

polar jet stream

Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0

  • Mae cerrynt aer yn gerrynt o aer sy’n symud yn gyflym (9-12km) ar ben wyneb y ddaear.
  • Mae gwyntoedd â chyflymder o 92km/awr yn normal, ond câi cyflymderau o 398km/awr ei recordio o’r blaen. Caiff cyflymdra ei fesur gan raddiant (gwahaniaethau dros bellter byr – meddyliwch amdano fel pa mor serth yw bryn) y pwysedd aer.
  • Mae tonnau o fewn Cerrynt Aer (sef Tonnau Rossby) fel arfer yn fan cychwyn i’r dibwysiant ffrynt (stormydd).
  • Cewch hyd i’r Cerrynt Aer Pegynol ar hyd y terfyn rhwng aer Torfannol ac aer Pegynol yng ngogledd yr Iwerydd.
  • Mae’r Cerrynt Aer Pegynol yn helpu i ddibwysiant ffrynt ddechrau, ac yn ei dynnu i’r gorllewin dros yr Iwerydd

Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0

Mae safle’r Cerrynt Aer Pegynol yn rheoli’r llwybr y cafodd ei greu gan y stormydd ar hyd y Ffrynt Pegynol rhwng yr aer Trofannol twym a’r aer Pegynol oer.

Mae safle’r Ffrynt Pegynol a’r Cerrynt Aer Pegynol yn cael ei reoli gan y safleoedd (gan eu bod nhw’n gallu symud), ond yn bennaf gan gryfder system bwysedd uchel Ynysfor Asores a system bwysedd isel Gwlad yr Iâ.

Caiff yr amrywiad o gryfderau (a weithiau lleoliadau) y ddwy system bwysedd hyn ei alw’n Osgiladiad Gogledd Iwerydd (O.G.I)

Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0

Gwahaniaeth mwy nag arfer yw OGI Positif.

Gwahaniaeth llai nag arfer yw OGI Negyddol.

  • Ceir mynegrif OGI uchel pan mae system bwysedd uchel gryfach nag arfer o gwmpas Ynysfor Asores, a system bwysedd isel ddyfnach o gwmpas Gwlad yr Iâ.
  • Mae’r graddiant uwch yn achosi:
    • Gwyntoedd cryfach
    • Stormydd mwy gwyllt
    • Trywyddau storm fwy gogleddol.
  • Mae stormydd i’r gogledd yn achosi tywydd cynesach a gwlypach yn Ewrop, ac yn cadw’r DU ar ochr dde’r pwysedd isel yr aer Trofannol Arforol de-orllewinol.
  • Mae’r map hwn yn dangos beth fydden ni’n disgwyl yn y gaeaf fel arfer, ond nawr mae’n edrych yn fwy fel yr hafau diweddaraf.
  • Tywydd gwlyb gyda dibwysiant ffrynt aml ac aer Pegynol Arforol glawiog yn ngogledd-orllewin y DU, a thywydd poeth, sych sy’n dueddol i sychder a thân gwyllt yn ne Ewrop.

 

http://www.yachtingworld.com/weather/how-the-north-atlantic-oscillation-affects-european-and-atlantic-weather-105954

  • Caiff OGI Negyddol ei achosi gan bwysedd uchel annatblygiedig i’r de, neu bwysedd isel i’r gogledd.
  • Mae’r graddiant pwysedd gwannach a safle mwy deheuol o bwysedd uchel Ynysfor Asores yn golygu y bydd stormydd y gaeaf yn tueddu i symud i’r de.
  • Mae hyn yn tueddu i ddod â thywydd tymhestlog i’r Canolfor a de Ewrop tra bo’r DU yn cael effaith yr aer Pegynol Cyfandirol oerach a sychach.
  • Mae’r patrwm wedi achosi sawl gaeaf oerach i rannau yng ngogledd a dwyrain y DU yn ddiweddar.

fewer storms

http://www.yachtingworld.com/weather/how-the-north-atlantic-oscillation-affects-european-and-atlantic-weather-105954

Newid i'r hinsawdd?

  • Mae pwysedd uchel Ynysfor Asores a phwysedd isel Gwlad yr Iâ yn rhan o fecanweithiau byd-eang, lle y symudir gwres o Ranbarthau Cyhydeddol i Ranbarthau Pegynol.
  • Gallai gwres uwch gynyddu’r gwregysau pwysedd fel pwysedd uchel Ynysfor Asores, wrth i fwy o ynni deithio o’r rhanbarthau cyhydeddol cynhesach.
  • Mae tymereddau twymach o gwmpas yr Arctig, sydd wedi eu hachosi gan fwy o amsugnad gwres gan fôr tywyll o’i gymharu â gorchudd iâ adlewyrchol, yn arwain at:
    • gynhesu mwyfwy i’r aer,
    • aer twym yn codi,
    • ac aer sy’n codi yn lleihau pwysedd aer.
  • Mae nifer o wyddonwyr wedi cofnodi tystiolaeth y gall newid i’r hinsawdd gynyddu’r gwahaniaeth mewn pwysedd aer rhwng pwysedd uchel Ynysfor Asores a phwysedd isel Gwlad yr Iâ, yn rhoi Cymru o dan y Cerrynt Aer Pegynol yn ystod ein hafau, sy’n arwain at hinsawdd wlypach i’r haf.

Cysylltiadau i fwy o newyddion am hinsawdd.

Article 1 

Wrth i dde Ewrop ddioddef o boethdonnau, sychderau a thân gwyllt eithaf, cyhoeddodd y BBC adroddiad yn dangos y gallai pethau fynd o ddrwg i waeth yn gyflym iawn.

Yn ôl astudiaeth wyddonol, gallai tywydd eithaf ladd hyd at 152,000 o bobl y flwyddyn yn Ewrop erbyn 2100 os nad oes rhywbeth yn cael ei wneud i stopio cyfraddau cyfredol o newid i’r hinsawdd rhag cyrraedd 3°C erbyn diwedd y Ganrif.

  • Dyna 50 gwaith mwy o farwolaethau.
  • Byddai poethdonnau yn achosi 99% o farwolaethau tywydd, gyda de Ewrop yn derbyn yr effaith waethaf.
    • Gallai marwolaethau sy’n cael eu hachosi gan dywydd eithaf godi o 3,000 y flwyddyn rhwng 1981 a 2010 i 152,000 y flwyddyn rhwng 2071 a 2100.
    • Bydd pob 2 berson mewn 3 yn Ewrop yn cael eu heffeithio gan y trychinebau erbyn 2100, yn ôl cyfradd o bob un yn 20 ar ddechrau’r ganrif.
  • Bydd nifer o farwolaethau oherwydd llifogydd arfordirol yn codi, o 6 ymadawedigon ar ddechrau’r ganrif i 233 erbyn iddi orffen.

Cafodd pypedau eu talu gan grwpiau sy’n ennill eu harian i gyd wrth achosi newid i’r hinsawdd. Yn ôl y pypedau, dim ond dadl yw newid i’r hinsawdd, yn hytrach na ffaith wyddonol, ac fe wnaeth Arlywydd UDA tynnu ei hun o Gytundeb Paris yn swyddogol, er yr oedd gobaith y bydd y cytundeb yn cyfyngu cynyddu byd-eang i 2°C erbyn diwedd y ganrif.

Yn ôl nifer, mae’r astudiaeth yr oedd y cynyddu 3°C yn seiliedig arni yn rhy besimistaidd, ond yn Daearyddiaeth yn y Newyddion, rydym yn hoffi gwrando ar yr arbenigwyr.

Ar yr un amser, cyhoeddwyd adroddiad gan un o gyfundrefnau gwyddonol uchel ei barch, sef Gweinyddiaeth Atmosfferaidd a Chefnforol Genedlaethol (GAChG). Edrychwn ar yr erthygl gysylltiedig.

Article 1

Gweithgaredd

1 Ysgrifennwch frawddeg neu baragraff yn disgrifio beth sy’n digwydd pan mae’r aergyrff yn mynd dros bicnic yng Nghymru yn ystod yr haf. Canolbwyntiwch ar ddefnyddio ansoddeiriau da.

a. Pegynol Arforol

b. Pegynol Cyfandirol

c. Trofannol Arforol

ch. Trofannol Cyfandirol

2 Ysgrifennwch frawddeg neu baragraff arall yn sôn am beth fyddai’n digwydd petai’r Cerrynt Aer Pegynol uwchben.

a. petai’r Cerrynt Aer yn rhy uchel i’w deimlo’n uniongyrchol.

b. beth ydy’r Cerrynt Aer yn helpu i ddechrau, ac wedyn i’w dynnu ar draws?

Ar ôl darllen y 3 erthygl a chwblhau’r gweithgareddau, defnyddiwch y taflenni A3 atodedig i ddechrau ymchwilio i newid mewn patrymau’r hinsawdd a thywydd yng Nghymru, a thu hwnt iddi.

Caiff yr adnodd ei gynllunio’n adnodd dosbarth cyfan o flaen y dosbarth ar daflunydd/bwrdd gwyn rhyngweithiol. Dylai’r gwaith graffig gwahanol gael ei egluro ar y testun, er na fydd yn ddarllenadwy gan y rhan fwyaf o’r disgyblion. Yn dilyn hwn, bydd yn ddelfrydol i’r disgyblion gael mynediad i’r adnoddau ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen weithgaredd (i’w hargraffu ar dudalen A3). Yn ddelfrydol, caiff y gweithgareddau hyn eu cefnogi gan ddefnydd o ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron, neu ddyfeisiau/ffonau y disgyblion eu hunain os yw’n ganiataol. Sut bynnag, caiff y gweithgareddau eu cynllunio ar gyfer gwers un awr, gyda’r athro/athrawes yn defnyddio’r adnodd o flaen y dosbarth ynghyd â’r daflen adnodd. Gellir wedyn pennu gwaith cartref er mwyn i’r disgyblion astudio’r erthyglau o flaen llaw cyn y wers nesaf.

Mae’r adnodd a’r daflen wedi eu cynllunio i gefnogi’r FfLlRh tra bo’n rhoi gwybodaeth ddaearyddol bwysig i’r disgyblion am newidiadau i batrymau tywydd ac hinsawdd yng Nghymru.

Naill ai yn y dosbarth neu yn y ty, darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl adnodd ar-lein, ac yn yr erthyglau atodedig yn y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion. Ceisiwch gwblhau pob gweithgaredd sydd ar y daflen adnodd.

Beth fyddwch yn ei ddysgu:

  • Byddwch yn cyfoethogi’ch gwybodaeth am newidiadau i batrymau tywydd ac hinsawdd yng Nghymru.
  • Byddwch yn cyfoethogi’ch dealltwriaeth o sut allai’r ffactorau hyn effeithio ar fod dynol a gweithgaredd dyn.
  • Cewch y cyfle i ddysgu neu ymarfer sgiliau llythrennedd a rhifedd pwysig.
  • Dysgwch dermau daearyddol newydd wedi’u hamlygu’n borffor. Dylai’r rhain gael eu dysgu, a’u hychwanegu i eirfa. Rhestr o eiriau yw geirfa, a’u hystyron. Gallech gael un ar gefnau eich llyfr ymarferion daearyddiaeth; os oes dyddiadur gennych, efallai bydd yn lle da i’w chadw, neu efallai cadwech eirfa neu lyfr geiriau ar wahân i’ch llyfr ymarferion. Mae geirfa dda yn yn eich helpu wella eich geirfa a’ch llythrennedd. Ymchwiliwch i ystyron gan ddefnyddio cynnwys perthnasol i’r erthyglau, trafodaethau neu eiriadur (naill ai ar y we neu lyfr).
Top

Mwy o’r rhifyn yma...

2016 - Cyflwr yr Hinsawdd

2016 - Cyflwr yr Hinsawdd

Ymchwilio i Newid i’r Hinsawdd yng Nghymru a’r DU

Ymchwilio i Newid i’r Hinsawdd yng Nghymru a’r DU