41

2016 - Cyflwr yr Hinsawdd

2016 - Cyflwr yr Hinsawdd

https://www.climate.gov/sites/default/files/bigMajorEventsMap_2016-BAMS.jpg

Ar Awst 10, 2017, cyhoeddodd Gweinyddiaeth Atmosfferaidd a Chefnforol Genedlaethol (GAChG), Asiantaeth Ffederal yr Unol Daleithiau sy’n rheoli dros wyddoniaeth hinsoddol, ei hadroddiad ar y flwyddyn flaenorol. Dyma ddarn darllen drwgargoelus!

https://www.climate.gov/news-features/understanding-climate/international-report-confirms-2016-was-third-consecutive-year

Roedd nwyon tŷ gwydr yr uchaf erioed.

  • Roedd canolbwyntiad prif nwyon tŷ gwydr, gan gynnwys deocsid carbon (CO2), methan ac ocsid nitraidd, wedi cyrraedd gwerthoedd uchaf erioed yn 2016.
    • Ar gyfartaledd, roedd canolbwyntiad byd-eang o CO2 yn 402.9 rhan y filiwn.
      • Roedd hyn yn gynnydd o 3.5 rhan y filiwn o’i gymharu â 2015.
      • Hefyd, hyn oedd y cynnydd uchaf a welir yn ystod y cofnod hyd 58 mlynedd.

carbon dioxide spart

https://www.climate.gov/news-features/understanding-climate/international-report-confirms-2016-was-third-consecutive-year

Roedd tymheredd wyneb y ddaear y poethaf erioed

  • Roedd 2016 yn hanner gradd yn gynhesach na’r cyfartaledd 30 mlynedd a orffennodd yn 2010.
    • Roedd tymheredd cyfunol byd-eang y ddaear a wyneb y cefnfor wedi cyrraedd gwerthoedd uchaf erioed am y drydedd flwyddyn yn olynol.
    • Dangosodd 4 ymchwiliad fod ystod o gynnydd mewn tymheredd yn symud o 0.45°C–0.56°C uwchben y cyfartaledd 1981-2010

https://www.climate.gov/news-features/understanding-climate/international-report-confirms-2016-was-third-consecutive-year

Roedd tymheredd cyfartaledd y cefnforoedd y poethaf erioed

  • Dangosodd 4 ymchwiliad fod ystod o gynnydd mewn tymheredd cyfartaledd y cefnforoedd yn 2016 yn 0.36°C – 0.41°C uwch na chyfartaledd 1981-2010

https://www.climate.gov/news-features/understanding-climate/international-report-confirms-2016-was-third-consecutive-year

Roedd dyfroedd y môr yr uchaf erioed

  • Cynyddodd dyfroedd y môr byd-eang ar gyfartaledd i werthoedd uchaf erioed yn 2016.
  • Mae’n 82mm yn uwch nag y gwelwyd yn 1993 gan loeren, y cyfnod ddechreuodd lloerennau wneud cofnod o ddyfroedd y môr.

https://www.climate.gov/news-features/understanding-climate/international-report-confirms-2016-was-third-consecutive-year

Roedd gorchudd iâ cefnfor yr Arctig yr isaf erioed.

  • Roedd gorchudd iâ cefnfor yr Arctig cyfan yn 2016 yr un â 2015, sef y gorchudd isaf yng nghyfnod y 37 mlynedd i’r lloeren gasglu data arno.
  • Roedd gorchudd iâ’r cefnfor ym mis Medi yr ail isaf a gafodd ei gofnodi.

Sychderau a Llifogydd

  • Gwelwyd eithafion yn y cylchred dŵr a gwaddodiad.
  • Cynnydd cyffredinol yn y cylchred dŵr (y broses o anweddu dŵr yn aer, ac wedyn yn ei gyddwyso’n law neu’n eira).
    • Roedd nifer o rannau’r byd yn dioddef o lifogydd yn 2016.
  • Mae newidiadau i’r cylchred dŵr hefyd yn arwain at sychderau.
  • Roedd o leaif 12% o dir byd-eang yn dioddef o sychderau “eithafol” rywbryd yn 2016.
    • Dyma oedd y cyfnod hiraf erioed.
    • Gwelir cyfnodau o syched yng ngogledd-ddwyrain Brasil am y bumed flwyddyn yn olynol, sy’n gwneud i’r cyfnod hwn fod y cyfnod hiraf o sychder yn y rhanbarth hwn erioed.

https://www.climate.gov/news-features/understanding-climate/international-report-confirms-2016-was-third-consecutive-year

Roedd cylchwyntoedd trofannol, ar y cyfan, yn uwch na’r cyfartaledd

  • Enwyd 93 o gylchwyntoedd trofannol ar draws basnau’r cefnforoedd yn 2016.
    • Rhwng 1981-2010, 82 oedd y nifer o stormydd ar gyfertaledd.
    • Yn 2016, cafodd y tri basn brofiad o stormydd yn uwch na’r cyfartaledd.

Yn yr erthygl gyntaf, edrychon ni ar yr astudiaeth ddiweddar a ragwelodd 152,000 o farwolaethau y flwyddyn oherwydd y newid i’r hinsawdd yn Ewrop erbyn diwedd y ganrif.

Dywedodd nifer fod y 3°C yr oedd yr astudiaeth yn seiliedig arno yn rhy besimistaidd, ond mae adroddiad GAChG oedd yn seiliedig ar bedair astudiaeth fawr yn dangos, ar hyn o bryd, nad yw 3°C yn besimistaidd o gwbl, ond yn ôl cyfraddau presennol byddai hyn yn cael ei gyflawni ymhen 35 mlynedd, nid ar ddiwedd y ganrif, ac os yw’r cyfraddau presennol yn parhau gallen ni fod yn edrych ar 7°C+ erbyn diwedd y ganrif.

Ond beth sy’n digwydd yng Nghymru? Rydym wedi edrych yn barod ar sut mae ein hafau’n dechrau newid ond beth allwn ni ddarganfod o gofnodion hanesyddol.

article 2

Gweithgaredd

Defnyddiwch y pwyntiau bwled i’ch helpu ysgrifennu un frawddeg neu fwy yn esbonio’r teitlau canlynol o adroddiad GAChG.

1 Roedd nwyon tŷ gwydr yr uchaf erioed.

2 Roedd tymheredd wyneb y ddaear y poethaf erioed.

3 Roedd tymheredd cyfartaledd y cefnforoedd y poethaf erioed.

4 Roedd gorchudd iâ cefnfor yr Arctig yr isaf erioed.

5 Newidiadau i’r Cylchred Dŵr – Sychderau a Llifogydd.

6 Roedd cylchwyntoedd trofannol, ar y cyfan, yn uwch na’r cyfartaledd.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Newidiadau i'r Tywydd a Phatrymau'r Hinsawdd

Newidiadau i'r Tywydd a Phatrymau'r Hinsawdd

Ymchwilio i Newid i’r Hinsawdd yng Nghymru a’r DU

Ymchwilio i Newid i’r Hinsawdd yng Nghymru a’r DU