41

2016 - Cyflwr yr Hinsawdd

2016 - Cyflwr yr Hinsawdd

state of the climate

https://www.climate.gov/sites/default/files/bigMajorEventsMap_2016-BAMS.jpg

Ym mis Awst 2017, cyhoeddodd GAChG, un o gyfundrefnau gwyddonal pwysicaf y byd, ei hadroddiad diweddar ar yr hinsawdd.

Roedd yn newyddion drwg iawn.

state of the climate

https://www.climate.gov/news-features/understanding-climate/international-report-confirms-2016-was-third-consecutive-year 

Roedd nwyon tŷ gwydr yr uchaf erioed.

  • Roedd prif nwyon tŷ gwydr wedi cyrraedd gwerthoedd uchaf erioed yn 2016.
    • carbon (CO2)
    • methan ac ocsid nitraidd,
  • Y cynnydd uchaf blynyddol a welir yn ystod y cofnod hyd 58 mlynedd.

co2 parts

https://www.climate.gov/news-features/understanding-climate/international-report-confirms-2016-was-third-consecutive-year

Roedd tymheredd wyneb y ddaear y poethaf erioed

  • Roedd 2016 yn hanner gradd yn gynhesach na’r cyfartaledd 30 mlynedd.
  • Roedd tymheredd cyfunol byd-eang y ddaear a wyneb y cefnfor wedi cyrraedd gwerthoedd uchaf erioed am y drydedd flwyddyn yn olynol.

warm days

https://www.climate.gov/news-features/understanding-climate/international-report-confirms-2016-was-third-consecutive-year

Roedd tymheredd cyfartaledd y cefnforoedd y poethaf erioed

  • Dangosodd 4 ymchwiliad fod ystod o gynnydd mewn tymheredd cyfartaledd y cefnforoedd yn 2016 yn 0.36°C – 0.41°C uwch na chyfartaledd 1981-2010.

difference in temperature

https://www.climate.gov/news-features/understanding-climate/international-report-confirms-2016-was-third-consecutive-year

Roedd dyfroedd y môr yr uchaf erioed

  • Cynyddodd dyfroedd y môr byd-eang ar gyfartaledd i werthoedd uchaf erioed yn 2016.
  • Mae’n 82mm yn uwch nag y gwelwyd yn 1993 gan loeren, y cyfnod ddechreuodd lloerennau wneud cofnod o ddyfroedd y môr.

global sea level

https://www.climate.gov/news-features/understanding-climate/international-report-confirms-2016-was-third-consecutive-year

Roedd gorchudd iâ cefnfor yr Arctig yr isaf erioed.

  • Roedd gorchudd iâ cefnfor yr Arctig cyfan yn 2016 yr un â 2015, sef y gorchudd isaf yng nghyfnod y 37 mlynedd i’r lloeren gasglu data arno.
  • Roedd gorchudd iâ’r cefnfor ym mis Medi yr ail isaf a gafodd ei gofnodi.

Sychderau a Llifogydd

  • Gwelwyd eithafion yn y cylchred dŵr a gwaddodiad.
  • Cynnydd cyffredinol yn y cylchred dŵr.
    • Roedd nifer o rannau’r byd yn dioddef o lifogydd yn 2016.
  • Mae newidiadau i’r cylchred dŵr hefyd yn arwain at sychderau.
    • Roedd o leaif 12% o dir byd-eang yn dioddef o sychderau “eithafol” rywbryd yn 2016.
      • Dyma oedd y cyfnod hiraf erioed.

drought severity

https://www.climate.gov/news-features/understanding-climate/international-report-confirms-2016-was-third-consecutive-year

Roedd cylchwyntoedd trofannol, ar y cyfan, yn uwch na’r cyfartaledd

  • Enwyd 93 o gylchwyntoedd trofannol ar draws basnau’r cefnforoedd  yn 2016.

Yn yr erthygl gyntaf, edrychon ni ar y newyddion a ragwelodd 152,000 o farwolaethau y flwyddyn oherwydd y newid i’r hinsawdd yn Ewrop erbyn diwedd y ganrif.

Byddai ffigurau 2016 yn meddwl y byddem yn cyrraedd y pwynt hwnnw ymhen 35 mlynedd petai fod pethau’n dal i gynhesu yn yr un modd â 2016 fel yn 2015.

Ond beth sy’n digwydd yng Nghymru? Rydym wedi edrych yn barod ar sut mae ein hafau’n dechrau newid ond beth allwn ni ddarganfod o gofnodion hanesyddol?

article 2

Gweithgaredd

Defnyddiwch y pwyntiau bwled i’ch helpu ysgrifennu un frawddeg neu fwy yn esbonio’r teitlau canlynol o adroddiad GAChG.

 

1. Roedd nwyon tŷ gwydr yr uchaf erioed; mae hyn yn golygu ........

2. Roedd tymheredd wyneb y ddaear y poethaf erioed; mae hyn yn golygu ........

3. Roedd tymheredd cyfartaledd y cefnforoedd y poethaf erioed; mae hyn yn golygu ........

4. Roedd gorchudd iâ cefnfor yr Arctig yr isaf erioed; mae hyn yn golygu ........

5. Newidiadau i’r Cylchred Dŵr – Sychderau a Llifogydd; mae hyn yn golygu ........

6. Roedd cylchwyntoedd trofannol, ar y cyfan, yn uwch na’r cyfartaledd; mae hyn yn golygu ........

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Newidiadau i'r Tywydd a Phatrymau'r Hinsawdd

Newidiadau i'r Tywydd a Phatrymau'r Hinsawdd

Ymchwilio i Newid i’r Hinsawdd yng Nghymru a’r DU

Ymchwilio i Newid i’r Hinsawdd yng Nghymru a’r DU