Yr enw sy’n cael ei ddefnyddio weithiau am y refferendwm ar yr UE, neu hyd yn oed am y syniad y bydd y DU yn gadael yr UE, yw ‘Brexit’. Mae’r gair hwn yn gyfuniad o ddau air, sef Britain ac Exit.
Mae rhai pobl wedi creu’r gair ‘Bremain’ hefyd, sy’n gyfuniad o Britain a Remain.
Rydyn ni’n cynnal refferendwm oherwydd bod y Blaid Geidwadol wedi addo cynnal un os oedd hi’n ennill Etholiad Cyffredinol 2015.
Cyn cynnal refferendwm, gwnaeth y Prif Weinidog rai newidiadau i’r rheolau sy’n effeithio ar aelodaeth y DU o’r UE:
Mae pobl ar draws Ewrop yn pleidleisio dros eu Haelodau Senedd Ewrop eu hunain.
Ar hyn o bryd, mae 751 sedd yn Senedd Ewrop ac mae etholiad bob pum mlynedd.
Ychydig iawn o bwerau sydd gan Senedd Ewrop:
Llun: European Parliament Strasbourg Hemicycle - Diliff © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
Mae Cyngor Ewrop yn cynnwys Pennaeth Gwladwriaeth (fel y Prif Weinidog) pob gwlad sy’n aelod.
Nid oes gan Gyngor Ewrop unrhyw bwerau ffurfiol ond nid yw’n cael ei anwybyddu fel arfer gan ei fod yn cynnwys 28 o Brif Weinidogion ac Arlywyddion.
Mae’n gallu gofyn i’r Comisiwn Ewropeaidd am ddeddfau, yr un fath â Senedd Ewrop.
Mae Comisiwn Ewrop yn cynnwys 28 aelod (un o bob gwlad sy’n aelod ohono). Llywodraeth genedlaethol pob gwlad sy’n dewis yr aelodau.
Mae’r Comisiwn yn gyfrifol am redeg yr UE o ddydd i ddydd, yn union fel Llywodraethau Cabinet Cymru a’r DU.
Mae bron yr holl bwerau a’r pŵer i ddechrau paratoi deddfau yn cael eu rhoi i’r Comisiwn.
Felly, mae rhan fwyaf y pŵer yn yr UE yn dod yn uniongyrchol o Benaethiaid Gwladwriaethau y gwledydd sy’n aelodau ohono, naill ai’n uniongyrchol neu drwy’r Comisiynydd Ewropeaidd sy’n cael ei benodi i’r Comisiwn.
Gwnewch ddiagram ar ffurf map meddwl er mwyn dangos gan bwy mae’r grym mwyaf yn yr UE.
Rhifyn arall efallai y byddwch a diddordeb mewn, Yr etholiad yng Nghymru yn 2016.