Trefnwch eich hunain yn 5 grŵp ar sail pa un o’r canlynol y byddech chi’n pleidleisio drosto. Byddwch yn barod i egluro pam rydych chi wedi dewis eich grŵp.
Carwyn Jones - Y Blaid Lafur
Llun: Carwyn Jones 2011 - National Assembly For Wales / Cynulliad Cymru © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution 2.0 Generic
Andrew RT Davies - Y Blaid Geidwadol
Llun: Andrew R. T. Davies - National Assembly For Wales / Cynulliad Cymru © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution 2.0 Generic
Leanne Wood - Plaid Cymru
Llun: Leanne Wood AM - 2016 - Gareth Llewellyn, Plaid Cymru © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
Kirsty Williams - Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol
Llun: Kirsty Williams 2011 - National Assembly For Wales / Cynulliad Cymru © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution 2.0 Generic
Nathan Gill - UKIP
Llun: Wales UK Independence Party (UKIP) Leader and MEP Nathan Gill - Matthew Horwood © Alamy
Gallwch chi sefydlu grŵp ar wahân os ydych chi eisiau bod yn rhan o’r Blaid Werdd neu os hoffech chi gefnogi Ymgeisydd Annibynnol.
Rydyn ni’n gwybod y bydd dwy stori fwyaf Cymru yn ystod 2016 yn ymwneud ag etholiadau mwy na thebyg - os na fydd Cymru’n ennill Pencampwriaeth pêl-droed Ewrop.
Llun o Parliament Week 2014 gan Cabinet Office dan CC BY
Ym mis Mai, bydd pobl Cymru’n ethol llywodraeth newydd ar gyfer Cymru ac ym mis Mehefin, bydd pleidlais o’r enw refferendwm ar draws y Deyrnas Unedig er mwyn penderfynu a ddylai’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd (UE) neu beidio.
Rhaid geirio’r rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion yn ofalus iawn oherwydd bod rheolau llym ynglŷn â llywodraethau’n defnyddio arian cyhoeddus ar gyfer ymgyrchoedd etholiadol.
Llun: Senned National Assembly for Wales © Wikimedia Commons dan All rights released
Llywodraeth Cymru sy’n talu am Daearyddiaeth yn y Newyddion, felly byddai’n anghyfreithlon ffafrio unrhyw ymgeiswyr neu bleidiau, waeth pa mor fawr neu fach ydyn nhw, yn un o’r erthyglau hyn, ond nid yw cwmnïau cyfryngau preifat, fel y rhan fwyaf o’r papurau newydd a llawer o’r sianeli teledu, yn gorfod bod yn ddiduedd yn ôl y gyfraith.
Yn lle hynny, maen nhw’n cael cyflwyno gwybodaeth sy’n cefnogi’r blaid wleidyddol sy’n cael ei ffafrio gan y perchennog. Felly, mae bob amser yn bwysig iawn edrych ar wybodaeth fel hyn yn y newyddion a’i dadansoddi o safbwynt rhagfarn.
Ar Fai 6ed, bydd pobl Cymru’n pleidleisio dros gael Llywodraeth newydd ar gyfer Cymru. Cyn gallu pleidleisio, rhaid bod wedi cofrestru i bleidleisio a rhaid bod yn 18 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad. Rhaid bod yn ddinesydd Prydeinig, neu’n ddinesydd cymwys o’r Gymanwlad, neu’n ddinesydd o'r Undeb Ewropeaidd sy’n byw yng Nghymru.
Mae 40 etholaeth, ac mae pob un yn cael ei gynrychioli gan un Aelod Cynulliad (AC). Ymhob etholaeth, yr ymgeisydd sy’n cael y nifer fwyaf o bleidleisiau sy’n cael ei ethol. Nid oes rhaid cael mwy na hanner y pleidleisiau. Weithiau, yr enw ar y system hon yw y cyntaf i’r felin.
Lawrlwytho’r Map - Cliciwch isod
Yn ogystal, mae pum rhanbarth a bydd pob un o’r rhain yn ethol pedwar AC rhanbarthol yr un. Mae cyfanswm o 20 sedd ranbarthol ac mae’r rhain yn cael eu rhannu ar sail system cwota. Ystyr cwota yw cyfanswm y pleidleisiau rhanbarthol y bydd plaid neu ymgeisydd annibynnol yn eu derbyn, gyda’r ffigur hwn yn cael ei rannu gyda nifer y seddi etholaethol a enillwyd yn y rhanbarth hwnnw +1.
Felly, os na fydd gan blaid seddi etholaethol, bydd nifer y pleidleisiau a dderbynnir yn cael ei rannu ag un. Os bydd gan blaid un sedd etholaethol yn y rhanbarth hwnnw, bydd nifer ei phleidleisiau’n cael ei rannu â dau. Os bydd ganddi ddwy sedd yn y rhanbarth hwnnw, bydd y nifer yn cael ei rannu gyda thri, ac yn y blaen.
Arwyddocâd hyn yw: mwya’n y byd o seddi etholaethol y bydd plaid wleidyddol yn eu hennill, anodda’n y bydd yw hi iddi ennill unrhyw seddi ychwanegol drwy gynllun y rhestr ranbarthol.
Gall y tabl hwn cael ei lwytho i lawr i newid y rhifau seddi, a gweld sut mae'n cael ei gynrychioli fel siart.
Lawrlwytho'r Excel - Cliciwch isod
Llun: Welsh Assembly 2011 - Barryob © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
Defnyddiwch y wybodaeth hon er mwyn llunio cwestiynau y gallwch chi ddod yn ôl atyn nhw ar ôl i ganlyniadau pleidlais 2016 ym mis Mai gael eu cyhoeddi. Gallwch chi ddefnyddio’r wybodaeth ar gyfer eich arolygon/ffug etholiadau yn eich ystafell ddosbarth, eich grŵp blwyddyn neu yn yr ysgol gyfan hefyd.
Ymchwiliad
Yn gyntaf, ceisiwch ddarllen gweddill yr adnoddau cysylltiol a defnyddiwch y daflen A3 i’ch helpu chi i wneud ymchwiliad o ddaearyddiaeth Etholiad Cymru yn 2016 ac i baratoi cwestiynau y gallwch chi eu hateb ar ôl i ganlyniadau’r bleidlais ym mis Mai gael eu cyhoeddi.
Cyflwyniad
Canlyniadau
Dadansoddi
Casgliadau
Gwerthuso
Mae’r adnodd hwn wedi cael ei gynllunio i’w ddefnyddio gyda’r dosbarth cyfan o du blaen y dosbarth ar brojector/bwrdd gwyn rhyngweithiol.
Dylai’r athro roi eglurhad ar y delweddau amrywiol, gan seilio’r sylwadau ar y testun. Ni fydd modd i fwyafrif llethol y disgyblion ddarllen y testun cyfan o fewn yr amser sydd ar gael.
Yn ddelfrydol, dylai’r disgyblion gael mynediad i’r adnodd ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen gweithgareddau (dylid argraffu hon ar bapur A3).
Yn ddelfrydol, dylid rhoi cefnogaeth ar gyfer y gweithgareddau hyn, sef ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron neu ffonau/dyfeisiau’r disgyblion eu hunain, os caniateir y rhain.
Fodd bynnag, mae’r gweithgareddau wedi cael eu cynllunio ar gyfer eu defnyddio mewn gwers arferol, sef un awr, gyda’r athro’n defnyddio’r adnodd yn nhu blaen yr ystafell ddosbarth ochr yn ochr â’r daflen adnoddau.
Yna, gellid rhoi gwaith cartref i’r disgyblion, sef astudio’r tair erthygl cyn y wers nesaf.
Mae’r adnodd a’r daflen gysylltiedig wedi cael eu cynllunio fel eu bod yn cefnogi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, gan roi i ddisgyblion wybodaeth ddaearyddol allweddol mewn perthynas â’r lleoedd sy’n gysylltiedig â’r argyfwng sy’n ymwneud â dadleoli gorfodol yn y Etholiad Llywodraeth Cymru i ddechrau.
Darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl ar-lein ac yn yr erthyglau cysylltiedig yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion – naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu gartref. Ceisiwch orffen yr holl weithgareddau sydd ar y daflen adnoddau.
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu:
Byddwch chi’n dysgu ymadroddion daearyddol newydd, wedi’u goleuo mewn porffor. Dylech chi ddysgu’r rhain a’u cynnwys mewn geirfa. Rhestr o eiriau a’u hystyr yw geirfa. Gallech chi gael un yng nghefn eich llyfr ysgrifennu daearyddiaeth. Os oes gyda chi gynlluniadur, mwy na thebyg bod lle da yn hwnnw ar gyfer cadw geirfa neu gallech chi gadw llyfr geirfa ar wahân. Mae geirfa dda yn eich helpu chi i ddatblygu eich geirfa a’ch llythrennedd. Chwiliwch am ystyr geiriau drwy ddefnyddio gweddill cynnwys yr erthygl, drwy drafod neu defnyddiwch eiriadur (naill ai ar-lein neu lyfr).