33

2016 – Etholiad Llywodraeth Cymru i ddechrau

Trefnwch eich hunain yn grwpiau ar sail pa un o’r canlynol y byddech chi’n pleidleisio drosto. Efallai y bydd yr athro/athrawes yn gofyn i chi pam rydych chi wedi dewis eich grŵp.

Carwyn Jones - Y Blaid Lafur

 undefined

Llun: Carwyn Jones 2011 - National Assembly For Wales / Cynulliad Cymru © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution 2.0 Generic

Andrew RT Davies - Y Blaid Geidwadol

undefined

Llun: Andrew R. T. Davies - National Assembly For Wales / Cynulliad Cymru © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution 2.0 Generic

Leanne Wood - Plaid Cymru

undefined

Llun: Leanne Wood AM - 2016 - Gareth Llewellyn, Plaid Cymru © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Kirsty Williams - Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol

undefined

Llun: Kirsty Williams 2011 - National Assembly For Wales / Cynulliad Cymru © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution 2.0 Generic

Nathan Gill - UKIP

undefined

Llun: Wales UK Independence Party (UKIP) Leader and MEP Nathan Gill - Matthew Horwood © Alamy

2015 – Etholiad Cyffredinol y D.U.

Os nad ydych chi’n hoffi unrhyw grŵp, gallech chi greu eich grŵp eich hun ar gyfer y Blaid Werdd neu Ymgeisydd Annibynnol.

Rydyn ni’n gwybod y bydd dwy stori fwyaf Cymru yn ystod 2016 yn ymwneud ag etholiadau mwy na thebyg - os na fydd Cymru’n ennill Pencampwriaeth pêl-droed Ewrop.

Polling station

Llun o Parliament Week 2014 gan Cabinet Office dan CC BY

Ym mis Mai, byddwn ni’n ethol llywodraeth newydd ar gyfer Cymru ac ym mis Mehefin, bydd pleidlais o’r enw refferendwm yn cael ei gynnal er mwyn penderfynu a  ddylai’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd (UE) neu beidio.

Daearyddiaeth yn y Newyddion a Rhagfarn

Rhaid bod yn ofalus iawn gyda’r geiriau yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion oherwydd bod rheolau llym yn bodoli ynglŷn â llywodraethau’n defnyddio arian cyhoeddus ar gyfer ymgyrchoedd etholiadol.

undefined

Llun: Senned National Assembly for Wales © Wikimedia Commons dan All rights released

Llywodraeth Cymru sy’n talu am Daearyddiaeth yn y Newyddion, felly byddai’n anghyfreithlon petai’n ffafrio unrhyw ymgeiswyr neu bleidiau, waeth pa mor fawr neu fach ydyn nhw, yn un o’r erthyglau hyn.

Nid oes gan gwmnïau cyfryngau preifat, fel y rhan fwyaf o’r papurau newydd a llawer o’r sianeli teledu, yr un rheolau. Mae bob amser yn bwysig iawn edrych ar wybodaeth yn y newyddion er mwyn gweld a ydyn nhw’n cynnwys rhagfarn.

Yr etholiad

Ar Fai 6ed, bydd pobl Cymru’n pleidleisio dros gael Llywodraeth newydd ar gyfer Cymru. Cyn gallu pleidleisio, rhaid bod wedi cofrestru i bleidleisio a rhaid bod yn 18 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad. Rhaid bod yn ddinesydd Prydeinig, neu’n ddinesydd cymwys o’r Gymanwlad, neu’n ddinesydd o'r Undeb Ewropeaidd sy’n byw yng Nghymru. 

Mae 40 etholaeth, ac mae pob un yn cael ei gynrychioli gan un Aelod Cynulliad (AC). Ymhob etholaeth, yr ymgeisydd sy’n cael y nifer fwyaf o bleidleisiau sy’n cael ei ethol. Weithiau, yr enw ar y system hon yw y cyntaf i’r felin

Lawrlwytho’r Map - Cliciwch isod

Yn ogystal, mae pum rhanbarth a bydd pob un o’r rhain yn ethol pedwar AC rhanbarthol yr un. Mae cyfanswm o 20 sedd ranbarthol ac mae’r rhain yn cael eu rhannu ar sail system cwota. Ystyr cwota yw cyfanswm y pleidleisiau rhanbarthol y bydd plaid yn eu derbyn, gyda’r ffigur hwn yn cael ei rannu gyda nifer y seddi etholaethol sydd wedi ei hennill yn y rhanbarth hwnnw +1. 

Felly, os na fydd gan blaid seddi etholaethol, bydd nifer y pleidleisiau’n cael ei rannu ag un. Os bydd gan blaid un sedd etholaethol yn y rhanbarth hwnnw, bydd nifer ei phleidleisiau’n cael ei rannu â dau. Os bydd ganddi ddwy sedd yn y rhanbarth hwnnw, bydd y nifer yn cael ei rannu â thri, ac yn y blaen. 

Arwyddocâd hyn yw: mwya’n y byd o seddi etholaethol y bydd plaid wleidyddol yn eu hennill, anodda’n y bydd yw hi iddi ennill unrhyw seddi ychwanegol drwy gynllun y rhestr ranbarthol.

Canlyniadau etholiad 2011

Gall y tabl hwn cael ei lwytho i lawr i newid y rhifau seddi, a gweld sut mae'n cael ei gynrychioli fel siart.

Lawrlwytho'r Excel - Cliciwch isod

Dosraniad y seddi ar hyn o bryd

 

Llun: Welsh Assembly 2011 - Barryob © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Gweithgareddau disgyblion

Ymchwiliad

Yn gyntaf, ceisiwch ddarllen gweddill yr adnoddau cysylltiol a defnyddiwch y daflen A3 i’ch helpu chi i wneud ymchwiliad o ddaearyddiaeth Etholiad Cymru yn 2016 ac i baratoi cwestiynau y gallwch chi eu hateb ar ôl i ganlyniadau’r bleidlais ym mis Mai gael eu cyhoeddi.

Cyflwyniad

  • Yn yr adran hon, byddwch chi’n egluro beth rydyn chi’n ymchwilio iddo.
  • Byddwch chi’n dewis cwestiynau ymholi er mwyn chwilio am atebion.
  • Byddwch chi’n egluro gwybodaeth gefndirol bwysig.

Canlyniadau

  • Gwnewch dablau i ddangos y data.
  • Trowch y data i ffurf a fydd yn haws i’w dehongli:
    • Defnyddiwch graffiau
    • Defnyddiwch fapiau.

Dadansoddi

  • Dangoswch sut mae eich canlyniadau’n ateb eich cwestiynau ymholi:
    • Anodwch graffiau a diagramau
    • Ysgriffenwch baragraffau.

Casgliadau

  • Edrychwch ar eich cwestiynau ymholi. Beth ydych chi wedi’i ddarganfod?
  • A oes ateb? Os oes, beth yw e?

Gwerthuso

  • Gwerthuswch eich proses (sut gwnaethoch chi eich ymholiad) – beth oedd yn llwyddiannus? Beth aeth o’i le? Beth allech chi ei wneud yn wahanol y tro nesaf?
  • Gwerthuswch eich ffynonellau – (eich gwybodaeth a’ch data). Pa rai sy’n ddibynadwy? Pam? Pa rai sy’n dangos rhagfarn efallai? Pam?
  • Gwerthuswch eich casgliadau. Beth sy’n ddibynadwy? Pam? Pa rai allai fod yn anghywir neu’n wallus? Pam?
  • Ysgrifennwch gwestiynau eraill sy’n seiliedig ar eich casgliadau ar gyfer ymholiadau eraill yn y dyfodol. Mae hyn yn arbennig o bwysig er mwyn darganfod a fydd eich rhagfynegiadau yn gywir ar ôl yr etholiad.

Mae’r adnodd hwn wedi cael ei gynllunio i’w ddefnyddio gyda’r dosbarth cyfan o du blaen y dosbarth ar brojector/bwrdd gwyn rhyngweithiol.

Dylai’r athro roi eglurhad ar y delweddau amrywiol, gan seilio’r sylwadau ar y testun. Ni fydd modd i fwyafrif llethol y disgyblion ddarllen y testun cyfan o fewn yr amser sydd ar gael.

Yn ddelfrydol, dylai’r disgyblion gael mynediad i’r adnodd ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen gweithgareddau (dylid argraffu hon ar bapur A3).

Yn ddelfrydol, dylid rhoi cefnogaeth ar gyfer y gweithgareddau hyn, sef ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron neu ffonau/dyfeisiau’r disgyblion eu hunain, os caniateir y rhain.

Fodd bynnag, mae’r gweithgareddau wedi cael eu cynllunio ar gyfer eu defnyddio mewn gwers arferol, sef un awr, gyda’r athro’n defnyddio’r adnodd yn nhu blaen yr ystafell ddosbarth ochr yn ochr â’r daflen adnoddau.

Yna, gellid rhoi gwaith cartref i’r disgyblion, sef astudio’r tair erthygl cyn y wers nesaf.

Mae’r adnodd a’r daflen gysylltiedig wedi cael eu cynllunio fel eu bod yn cefnogi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, gan roi i ddisgyblion wybodaeth ddaearyddol allweddol mewn perthynas â’r lleoedd sy’n gysylltiedig â’r argyfwng sy’n ymwneud â dadleoli gorfodol yn y Etholiad Llywodraeth Cymru i ddechrau.

Darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl ar-lein ac yn yr erthyglau cysylltiedig yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion – naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu gartref. Ceisiwch orffen yr holl weithgareddau sydd ar y daflen adnoddau.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu:

  • Byddwch chi’n cynyddu eich gwybodaeth am broblemau yn y Etholiad Llywodraeth Cymru i ddechrau.
  • Byddwch chi’n cynyddu eich dealltwriaeth o’r ffordd mae’r ffactorau hyn yn gallu  effeithio ar bobl ac ar weithgareddau pobl.
  • Byddwch chi’n cael cyfle i ddysgu neu ymarfer sgiliau llythrennedd a rhifedd pwysig. 

Byddwch chi’n dysgu ymadroddion daearyddol newydd, wedi’u goleuo mewn porffor. Dylech chi ddysgu’r rhain a’u cynnwys mewn geirfa. Rhestr o eiriau a’u hystyr yw geirfa. Gallech chi gael un yng nghefn eich llyfr ysgrifennu daearyddiaeth. Os oes gyda chi gynlluniadur, mwy na thebyg bod lle da yn hwnnw ar gyfer cadw geirfa neu gallech chi gadw llyfr geirfa ar wahân. Mae geirfa dda yn eich helpu chi i ddatblygu eich geirfa a’ch llythrennedd. Chwiliwch am ystyr geiriau drwy ddefnyddio gweddill cynnwys yr erthygl, drwy drafod neu defnyddiwch eiriadur (naill ai ar-lein neu lyfr).

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Ymchwilio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru – Canlyniadau Etholiadau’r Gorffennol

Ymchwilio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru – Canlyniadau Etholiadau’r Gorffennol