33

Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Roedd refferendwm yng Nghymru ym 1997 a chafodd pobl Cymru ddewis a ddylai Cymru gael ei senedd ei hun neu beidio.

Yr enw a gafodd ei rhoi arni’n ddiweddarach oedd y Cynulliad Cenedlaethol a’r enw ar y broses hon oedd datganoli. Ystyr hyn yw bod grym yn cael ei rannu o le canolog, fel llywodraeth San Steffan, i lywodraethau rhanbarthol fel y rhai sydd yng Nghaerdydd, Belfast a Chaeredin heddiw.

Ar ôl i Gymru bleidleisio o blaid datganoli ym 1997, cafodd fframwaith cyfreithiol ar gyfer creu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei sefydlu gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Cafodd yr etholiadau cyntaf eu cynnal ym 1999 ac yna yn 2003, 2007 a 2011.

undefined

Llun: Senned National Assembly for Wales © Wikimedia Commons dan All rights released

Ar y dechrau, roedd y Cynulliad Cenedlaethol yn wahanol i bron bob senedd arall yn y byd oherwydd dim ond y Cynulliad Cenedlaethol oedd yn bodoli yng Nghymru i ddechrau; nid oedd gwahaniaeth rhwng gweithgareddau deddfwriaethol a rhai gweithredol. Ystyr ‘deddfwriaethol’ yw dadleuon,  trafodaethau a phleidleisiau’r holl aelodau; ystyr ‘gweithredol’ yw gwneud penderfyniadau a pholisïau o ddydd i ddydd. Canlyniad hyn oedd bod peth dryswch o safbwynt pwy oedd i fod i wneud beth ac felly roedd angen gwahanu’r ddwy rôl.

Gwahanwyd y ddwy rôl yn gyfreithiol ar ôl etholiad 2007 ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Roedd wedi cael ei seilio ar Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sy’n rhoi diffiniad clir o rôl a chyfrifoldeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy’n cynnwys 60 o Aelodau Cynulliad, a Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys y Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru, Dirprwy Weinidogion a’r Cwnsler Cyffredinol.

Roedd y gwahanu yn bwysig er mwyn dangos bod gwahaniaeth amlwg rhwng rôl y Cynulliad a’r Llywodraeth.

  • Rôl y Llywodraeth yw gwneud penderfyniadau, datblygu a gweithredu polisïau a gwneud offerynnau statudol (deddfau Cymru).
  • Mae 60 Aelod Cynulliad yn y Cynulliad Cenedlaethol yn craffu, sef edrych ar a thrafod penderfyniadau a pholisïau Llywodraeth Cymru, galw gweinidogion i gyfrif a chymeradwyo cyllidau.

Ar y dechrau, nid oedd gan y Cynulliad Cenedlaethol unrhyw bwerau i wneud deddfau gan fod y grym hwn wedi cael ei gadw yn San Steffan.

Fodd bynnag, cafodd Cymru bŵer uniongyrchol i wneud ei deddfau ei hun ar ôl refferendwm ym mis Mawrth 2011. Ers 2006, y meysydd sydd wedi cael eu datganoli yw:

  • Addysg a Hyfforddiant
  • Amaethyddiaeth, Coedwigaeth, Anifeiliaid, Planhigion a Datblygu Gwledig
  • Yr Amgylchedd
  • Bwyd
  • Chwaraeon a Hamdden
  • Cynllunio Gwlad a Thref
  • Datblygu Economaidd
  • Diwylliant
  • Dŵr ac Amddiffyn rhag Llifogydd
  • Y Gwasanaethau Tân ac Achub a Diogelwch Tân
  • Gweinyddiaeth Gyhoeddus
  • Y Gymraeg
  • Henebion ac Adeiladau Hanesyddol
  • Iechyd a’r Gwasanaethau Iechyd
  • Lles Cymdeithasol
  • Llywodraeth Leol
  • Priffyrdd a Thrafnidiaeth
  • Tai
  • Twristiaeth

undefined

Llun: Debating chamber, Y Senedd - Keith Edkins © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 2.0 Generic

Mae Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn ymgyrchu dros gael rhagor o bwerau mewn meysydd newydd fel yr heddlu ac ynni, yn ogystal â mwy o bwerau dros faterion ariannol. Mae Llywodraeth Cymru eisiau pwerau dros rai trethi ac mae’n dymuno benthyg arian. 

Yr enw ar y ‘deddfau’ a gafodd eu pasio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng 2006 a 2011 oedd Mesurau’r Cynulliad ond ar ôl refferendwm 2011, pan gafodd y Cynulliad fwy o bwerau, yr enw arnyn nhw yw Deddfau’r Cynulliad - yn union yr un fath â’r deddfau seneddol sy’n cael eu pasio yn  San Steffan. 

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddeddf newydd yn 2015 er mwyn creu corff ar gyfer casglu trethi yng Nghymru. Pasiwyd y ddeddf hon ym mis Mawrth 2016 a chafodd Awdurdod Cyllid Cymru ei sefydlu, a fydd yn casglu trethi newydd yma yng Nghymru. Y ddwy dreth gyntaf i gael eu datganoli fydd treth trafodiadau tir (sy’n cael ei thalu pan fydd adeiladau a thir yn cael eu prynu a’u gwerthu) a’r dreth gwarediadau tirlenwi, sy’n cael ei thalu pan fydd gwastraff yn cael ei gladdu ar safle tirlenwi. Mae trethi eraill, er enghraifft trethi busnes, y dreth gorfforaethol, a hyd yn oed treth incwm, yn cael eu trafod fel trethi a allai gael eu datganoli yn y dyfodol o bosib. 

Felly, mae gan Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru lawer o reolaeth dros ein bywyd ni yma yng Nghymru. Mae hyn yn arbennig o wir am bobl ifanc, lle mae addysg, tai, iechyd, chwaraeon a hamdden yn dueddol o fod yn rhan amlwg o’u bywyd. Mae’r rhain wedi cael eu datganoli eisoes.

Gweithgareddau disgyblion

Edrychwch yn ofalus ar y rhestr o bwerau sydd wedi cael eu datganoli i Gymru. 

Meddyliwch am y pethau sy’n bwysig yn eich bywyd chi; gwnewch restr yn nhrefn eu pwysigrwydd, gyda’r rhai pwysicaf yn gyntaf. 

Ticiwch bob un lle mae’r cyfrifoldeb drosto wedi cael ei ddatganoli i Gymru.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

2016 – Etholiad Llywodraeth Cymru i ddechrau

2016 – Etholiad Llywodraeth Cymru i ddechrau

Ymchwilio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru – Canlyniadau Etholiadau’r Gorffennol

Ymchwilio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru – Canlyniadau Etholiadau’r Gorffennol