33

Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Nid yr un peth yw Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Roedd refferendwm yng Nghymru ym 1997 a chafodd pobl Cymru ddewis a ddylai Cymru gael ei senedd ei hun neu beidio.

Yr enw a gafodd ei roi arni’n ddiweddarach oedd y Cynulliad Cenedlaethol. Roedd hyn yn rhan o’r broses o ddatganoli. Ystyr hyn yw bod pŵer yn cael ei rannu o le canolog, fel llywodraeth San Steffan, i lywodraethau rhanbarthol fel y rhai sydd yng Nghaerdydd, Belfast a Chaeredin heddiw.

Ar ôl i Gymru bleidleisio o blaid datganoli ym 1997, cafodd yr etholiadau cyntaf eu cynnal ym 1999 ac yna yn 2003, 2007 a 2011.

undefined

Llun: Senned National Assembly for Wales © Wikimedia Commons dan All rights released

Ar y dechrau, roedd y Cynulliad Cenedlaethol yn wahanol i bron bob senedd arall yn y byd oherwydd dim ond y Cynulliad Cenedlaethol oedd yn bodoli yng Nghymru i ddechrau.

Nid oedd gwahaniaeth rhwng gweithgareddau deddfwriaethol a rhai gweithredol.

Ystyr ‘deddfwriaethol’ yw dadleuon, trafodaethau a phleidleisiau’r holl aelodau.

Ystyr ‘gweithredol’ yw gwneud penderfyniadau a pholisïau o ddydd i ddydd.

Canlyniad hyn oedd bod peth dryswch o safbwynt pwy oedd i fod i wneud beth ac felly roedd angen gwahanu dwy ran y llywodraeth.

Newidiodd pethau ar ôl etholiad 2007 ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Roedd cyfreithiau newydd yn dweud yn glir beth oedd rôl a chyfrifoldeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy’n cynnwys 60 o Aelodau Cynulliad, a Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys y Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru.

  • Rôl y Llywodraeth yw gwneud penderfyniadau, datblygu a gweithredu polisïau a gwneud offerynnau statudol (deddfau Cymru).
  • Mae 60 Aelod Cynulliad y Cynulliad Cenedlaethol yn craffu – maen nhw’n edrych ar ac yn trafod penderfyniadau a pholisïau Llywodraeth Cymru, galw gweinidogion i gyfrif a chymeradwyo cyllidau.

Ar y dechrau, nid oedd gan y Cynulliad Cenedlaethol unrhyw bwerau i wneud deddfau.

Fodd bynnag, ar ôl refferendwm ym mis Mawrth 2011, cafodd Cymru bŵer uniongyrchol i wneud ei deddfau ei hun. Ers 2006, y meysydd sydd wedi cael eu datganoli yw:

  • Addysg a Hyfforddiant
  • Amaethyddiaeth, Coedwigaeth, Anifeiliaid, Planhigion a Datblygu Gwledig
  • Yr Amgylchedd
  • Bwyd
  • Chwaraeon a Hamdden
  • Cynllunio Gwlad a Thref
  • Datblygu Economaidd
  • Diwylliant
  • Dŵr ac Amddiffyn rhag Llifogydd
  • Y Gwasanaethau Tân ac Achub a Diogelwch Tân
  • Gweinyddiaeth Gyhoeddus
  • Y Gymraeg
  • Henebion ac Adeiladau Hanesyddol
  • Iechyd a’r Gwasanaethau Iechyd
  • Lles Cymdeithaso
  • Llywodraeth Leol
  • Priffyrdd a Thrafnidiaeth
  • Tai
  • Twristiaeth

undefined

Llun: Debating chamber, Y Senedd - Keith Edkins © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 2.0 Generic

Mae Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn gofyn am gael rhagor o bwerau mewn meysydd newydd fel yr heddlu ac ynni, yn ogystal â mwy o bwerau dros faterion ariannol.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau pwerau dros rai trethi ac mae’n dymuno benthyg arian.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddeddf newydd yn 2015 er mwyn creu corff ar gyfer casglu trethi yng Nghymru. Cafodd y ddeddf hon ei phasio ym mis Mawrth 2016 a chafodd Awdurdod Cyllid Cymru ei sefydlu, a fydd yn casglu trethi newydd yma yng Nghymru.

Felly, mae gan Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru lawer o reolaeth dros ein bywyd ni yma yng Nghymru.

Mae hyn yn arbennig o wir am bobl ifanc, lle mae addysg, tai, iechyd, chwaraeon a hamdden yn rhan amlwg o’u bywyd fel arfer. Mae’r rhain wedi cael eu datganoli eisoes.

Gweithgareddau disgyblion

Meddyliwch am y pethau sy’n bwysig yn eich bywyd chi – eich cartref, y bwyd rydych chi’n ei fwyta, beth rydych chi’n ei wneud, e.e. chwaraeon a chlybiau, yr ysgol neu hyd yn oed y meddyg neu’r ysbyty. 

Gwnewch restr yn nhrefn eu pwysigrwydd, gyda’r rhai pwysicaf yn gyntaf. 

Ticiwch bob un lle mae’r cyfrifoldeb drosto wedi cael ei ddatganoli i Gymru.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

2016 – Etholiad Llywodraeth Cymru i ddechrau

2016 – Etholiad Llywodraeth Cymru i ddechrau

Ymchwilio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru – Canlyniadau Etholiadau’r Gorffennol

Ymchwilio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru – Canlyniadau Etholiadau’r Gorffennol