27

Pam mae'r perygl o lifogydd arfordirol yn cynyddu?

Erydu

Mae erydu arfordiroedd yn cael ei isrannu i bedwar prif fath:

  •         Gweithrediad Hydrolig
  •         Cyrathiad (Sgrafelliad)
  •         Athreuliad
  •         Hydoddiant (Cyrydiad)

Gweithrediad Hydrolig

Grym dŵr yw gwasgedd hydrolig; yn ogystal â thonnau’n taro, mae’r broses yn cynnwys effeithiau pocedi o aer sydd wedi’u caethiwo.

undefined

Wrth i donnau daro craciau, mae aer sydd wedi’i gaethiwo yn creu gwasgedd uchel sy’n gallu agor y craciau.  Hyd yn oed os na fydd hyn yn digwydd, efallai bydd y tonnau’n taro wyneb clogwyn sydd â hollt neu ogof fach ynddo.  Mae’r pocedi o aer yn cael eu cywasgu neu eu gwasgu gan y don ac mae hyn yn creu gwasgedd uchel (tebyg i chwythu balŵn). Yna, mae hwn yn cael ei ryddhau’n sydyn (tebyg i fyrstio’r balŵn).

Mae craciau’n datblygu i fod yn holltau, sy’n datblygu i fod yn ogofâu bach, sy’n gallu datblygu i fod yn ogofâu mwy.

Mae ogofâu yn gallu ymestyn yn bell i mewn i'r graig, gan ddilyn llinellau o wendidau megis craciau neu ffawtiau

Ar bentiroedd (darnau creigiog o dir sy’n ymestyn allan i’r môr, gyda dŵr a thonnau o’u cwmpas), gall yr ogofâu hyn gael eu herydu o’r ddwy ochr fel eu bod yn uno ac yn ffurfio bwâu dramatig. 

Maes o law, efallai y bydd to bwa yn cael ei hindreulio a’i erydu, gan syrthio a gadael piler o graig ar ei ben ei hun, sef stac.

Cyrathiad

Cyrathiad yw’r gair am fath o erydu lle mae’r dŵr neu’r tonnau’n defnyddio creigiau a cherrig fel offer ac mae hyn yn cynyddu’r erydiad. Mae’r gair sgrafelliad yn cael ei ddefnyddio mewn llawer o werslyfrau modern i olygu’r un peth. 

Mae cyrathiad/sgrafelliad gan greigiau a cherrig sy’n cael eu cario gan y tonnau yn cael ei ychwanegu at weithrediad hydrolig y tonnau wrth iddyn nhw daro’r draethlin. Yn aml iawn, mae modd gweld hyn ar ffurf bwlch wrth fôn clogwyniwrth iddyn nhw gael eu tanseilio gan y môr ac mae hyn yn gallu achosi iddyn nhw syrthio.

undefined 

Wrth i’r clogwyn gael ei erydu’n ôl adeg llanw isel, mae’r tonnau’n gallu rholio creigiau a cherrig a chreu llyfndir fflat, llydan ac iddo raddiant neu ongl raddol; yr enw ar hwn yw llyfndir tonnau ac mae modd gweld yr un yma ar hyd arfordir Bro Morgannwg. 

Yn y lluniau, gallwch chi weld bylchau ar hyd arfordir Bro Morgannwg a’r ymdrechion i’w llenwi nhw â brics a sment er mwyn amddiffyn goleudy pwysig ar gopa’r clogwyn.

undefined

Athreuliad

Mae athreuliad yn digwydd pan fydd tonnau a dŵr yn symud creigiau a cherrig ac yn eu torri, yn eu gwneud yn fwy crwn ac yn eu llyfnhau. Gydag amser, bydd creigiau ar hyd yr arfordir yn mynd yn llai, yn fwy crwn ac yn fwy llyfn hyd nes y byddan nhw’n edrych fel pe baen nhw wedi cael eu sgleinio.

Cyrydiad

Cyrydiad yw’r gair ar gyfer disgrifio math o erydu lle mae’r dŵr neu’r tonnau’n hydoddi’r creigiau a’r cerrig yn gemegol. Weithiau, mae’r gair hydoddiant yn cael ei ddefnyddio i olygu’r un peth. Mae rhai mathau o greigiau, megis calchfaen, yn gallu hydoddi os oes asid yn y dŵr, yn union fel y mae siwgr yn hydoddi mewn dŵr cynnes.

Cludiant

Mae’r broses bwysicaf sy’n gysylltiedig â chludiant yn cael ei hachosi gan ddrifft y glannau

Mae drifft y glannau’n cael ei achosi pan fydd tonnau’n taro’r draethlin ar ongl.  Yn y llun hwn, 1 yw’r traeth a 2 yw’r môr. Drifft y glannau yw rhif 3 ac mae’n cael ei achosi gan gyfeiriad y gwynt, sef rhif 4. Mae hyn yn achosi i frig y don ffurfio ar ongl o 90° i gyfeiriad y gwynt (mae cyfeiriad y gwynt yn newid, wrth gwrs – mae cyfeiriad mwyaf cyffredin y gwynt, neu gyfeiriad y prifwynt, yn effeithio ar gyfeiriad drifft y glannau fel arfer). Pan fydd y tonnau’n taro’r traeth ar ongl, mae’r torddwr yn symud y deunydd i fyny’r traeth ar yr ongl hon, fel y gwelwch chi yn rhif 5. Fel arfer, bydd y tynddwr yn symud y deunydd yn syth yn ôl i lawr y traeth oherwydd disgyrchiant.  Mae’r deunydd yn symud yn igam ogam ar hyd y traeth yn ystod y broses hon.

undefined

Dyddodiad

Maes o law, bydd y deunydd sydd wedi cael ei erydu a’i gludo yn cael ei ddyddodi. Efallai y bydd drifft y glannau’n cyrraedd rhwystr megis pentir creigiog. Pan fydd hyn yn digwydd, efallai bydd y deunydd sy’n cael ei gludo yn symud alltraeth ac yn cael ei ddyddodi ar ffurf bardraeth neu draethell a fydd yn weladwy adeg llanw isel. Efallai y bydd y deunydd hwn yn cael ei sgubo i ffwrdd gan gerrynt alltraeth a’i symud gannoedd o gilometrau cyn cael ei ddyddodi. Fodd bynnag, efallai y bydd y deunydd yn symud i ran fwy cysgodol o’r arfordir ac efallai y bydd yn dechrau cael ei ddyddodi ar ffurf traeth. 

Mewn lleoliadau egni uwch, yn enwedig y rhai sy’n wynebu cyrch hir, bydd traeth yn wastad iawn fel arfer (proffil isel), gyda chlawdd o gerrig crynion y tu ôl i’r traeth tywod. Yr ymadrodd ar gyfer y math hwn o draeth yw stormdraeth ac mae Niwgwl yn enghraifft dda iawn.

undefined

Ar draethau cysgodol egni is, bydd tywod sydd ag ongl/proffil sydd ychydig bach yn uwch fel arfer ac yn aml iawn mae twyni tywod y tu ôl iddyn nhw. Gallwch chi weld hyn yn y ffotograff hwn o Fae y Tri Chlogwyn ym Mhenrhyn Gŵyr.

undefined

Llun oddi wrth Wikipedia gan Awdur; Roger Davis - CC BY

Weithiau, bydd drifft y glannau’n parhau pan fydd traeth yn cyrraedd dŵr dwfn a lle mae’r arfordir yn newid cyfeiriad. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd drifft y glannau’n gadael ei lwyth o dywod yn y dŵr dwfn a bydd traeth rhyfedd yn tyfu allan i’r môr, gyda dŵr yn amgylchynu tair ochr iddo.  Y gair am y math hwn o draeth yw tafod; mae’n eithaf cyffredin yng Nghymru. Tafod Fairbourne yng Ngwynedd yw’r enghraifft hon. Enw arall arno yw Trwyn y Penrhyn ac mae wedi’i leoli yn aber Afon Mawddach lle mae’r afon yn cyrraedd Bae Ceredigion.

Gweithgaredd Myfyrwyr

Ar ôl i chi wneud y cwis, dylech chi fod yn barod i geisio gwneud yr ymholiad daearyddol. Gwnewch yn siŵr  eich bod chi’n defnyddio’r ymadroddion daearyddol rydych chi wedi’u dysgu.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Ymchwilio i lifogydd arfordirol yng Nghymru

Ymchwilio i lifogydd arfordirol yng Nghymru