Gweithiwch gyda phartneriaid ac ysgrifennwch benawdau ar gyfer y ffotograff hwn; ysgrifennwch y penawdau o safbwynt:
Teithiwr ar y bws
Un o’r pentrefwyr
Llywodraeth Cymru
Roedd llawer o enghreifftiau o lifogydd arfordirol yn ystod mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr 2014 oherwydd stormydd mawr o gwmpas Cymru. Cafodd rhai rhannau o Gymru eu taro eto ym mis Chwefror, fel mae’r ffotograff hwn o Niwgwl yn Sir Benfro yn dangos.
Daeth stormydd a llifogydd i Ogledd Cymru ym mis Rhagfyr 2013 a dilynwyd hyn ym mis Ionawr 2014 gan stormydd a achosodd ddifrod eang ar hyd arfordir Cymru. Cafodd prom Aberystwyth ei ddinistrio a gwelwyd golygfeydd tebyg ym Mhorthcawl, lle y cafodd y ffyrdd eu cau oherwydd y tonnau anferth ac oherwydd bod y waliau amddiffynnol wedi syrthio.
Gorchmynnodd Llywodraeth Cymru ar unwaith fod dau adroddiad yn cael eu paratoi am y digwyddiadau. Yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion, rydyn ni’n mynd i ymchwilio i’r adroddiad cyntaf ar yr hyn a ddigwyddodd. Yn y rhifyn nesaf, byddwn ni’n edrych yn fanylach ar yr ail adroddiad, sef beth y gellir ei wneud yn y dyfodol.
Mae’r adroddiad cyntaf yn dweud pam mae ein harfordir mor bwysig yng Nghymru:
Cryfder y Storm
Tarodd storm a gwyntoedd cryfion difrifol Ogledd Cymru ym mis Rhagfyr 2013. Achosodd hyn gynnydd uchel yn lefel y môr ynghyd â thonnau mawr ar y tir. Digwyddodd hyn pan oedd y llanw’n uchel.
Mae’r map hwn, sy’n dod o’r adroddiad, yn dangos lleoliadau’r rhybuddion o lifogydd ar hyd arfordir Gogledd Cymru.
Cyrhaeddodd cyfres o stormydd o’r Môr Iwerydd yn ystod mis Ionawr 2014. Roedd lefel y môr yn uchel a’r tonnau’n anferth oherwydd y stormydd hyn. Oherwydd hyn, yn ogystal â’r llanw uchel, achoswyd problemau difrifol ar hyd arfordir y de a’r gorllewin.
Parhaodd y digwyddiad difrifol hwn o’r llanw uchel cyntaf ar 3ydd o Ionawr hyd at y 6ed o Ionawr. Daeth pob storm gyda mwy o dymhestloedd a thonnau mawr iawn.
Cafodd effaith storm mis Rhagfyr 2013 ei gyfyngu i Ogledd Cymru. Aeth y llifogydd i mewn i tua 155 o adeiladau – yn y Rhyl yn bennaf, sef 136 o adeiladau, a Bae Cinmel, sef 8 adeilad. Cynghorwyd pobl i adael 400 o adeiladau eraill ac aeth dros 200 o bobl i ganolfannau gorffwys megis canolfannau hamdden yn y Rhyl.
Roedd effaith storm mis Ionawr 2014 yn llawer ehangach ar hyd arfordir Cymru. Effeithiwyd ar tua 100 o gymunedau o Ynys Môn i Sir Fynwy.
Roedd effaith storm mis Ionawr 2014 yn llawer ehangach ar hyd arfordir gorllewin a de Cymru. Effeithiwyd ar tua 100 o gymunedau o Ynys Môn i Sir Fynwy.
Dywedwyd bod llifogydd wedi mynd i mewn i tua 150 o adeiladau, gan gynnwys 21 yn Aberteifi, 12 yn Aberystwyth, 12 yn y Bermo ac 13 yn Abergwaun.
Yng Ngheredigion, cynghorwyd pobl i adael mwy na 600 o adeiladau yn y Borth, Aberystwyth ac yn Aberteifi. Cynghorwyd pobl i adael 450 o adeiladau yn Nhrefdraeth.
Adeiladau a gafodd lifogydd |
|
Aberteifi |
21 |
Aberystwyth |
12 |
Abermo |
15 |
Abergwaun |
13 |
Y ddau leoliad mwyaf nodedig lle y daeth y môr dros yr amddiffynfeydd oedd:
Roedd Cymru’n ffodus gan na ddaeth stormydd mis Ionawr i’r un rhan o’r arfordir â stormydd mis Rhagfyr. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod difrod mawr wedi cael ei achosi i’r amddiffynfeydd morol gan y ddau ddigwyddiad a byddai taro’r un ardal ddwywaith ar lanw uchel wedi cael llawer iawn mwy o effaith.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw hefyd at y ffaith fod arfordir Cymru’n wynebu risgiau sy’n gysylltiedig ag erydu yn ogystal â’r risgiau sy’n gysylltiedig â llifogydd. Mae ardaloedd yr arfordir yn cael eu heffeithio gan rymoedd nerthol ac maen nhw’n newid drwy’r amser. Mae hyd yn oed rhannau o’r arfordir sy’n cynnwys craig solet, galed yn cael eu herydu. Mae peth o’r erydu hwn yn digwydd yn araf ond mae peth ohono’n gallu digwydd yn gyflym, er enghraifft y cwymp creigiau ym Mharc Hamdden Porthceri ger y Bari.
Ystyr biliwn yw mil o filiynau; mae ased yn rhywbeth sydd â gwerth iddo.
Meddyliwch am raddfa’r difrod i’r amddiffynfeydd môr presennol a beth allai fod wedi digwydd pe bai’r digwyddiad ym mis Chwefror wedi digwydd adeg llanw uchel.
Ymchwiliad
Yn gyntaf, ceisiwch ddarllen gweddill yr adnoddau cysylltiedig a defnyddiwch daflen adnoddau'r myfyriwr i’ch helpu chi i wneud ymchwiliad i’r risgiau sy’n gysylltiedig â llifogydd arfordirol ac a ddaeth i’r golwg yn ystod y stormydd ar ddiwedd 2013 a dechrau 2014. Defnyddiwch hyn i lunio cwestiynau y gallwch chi ymchwilio iddynt ar ôl i’r rhifyn nesaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion gael ei gyhoeddi.
Cyflwyniad
Canlyniadau
Dadansoddiad
Casgliadau
Methodoleg
Gwerthuso