Mae’n amhosibl deall y risgiau sy’n gysylltiedig â llifogydd arfordirol a chwymp clogwyni sydd wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf heb ddeall y prosesau sy’n digwydd ar hyd ein harfordir. Y prif brosesau arfordirol mae angen i ni eu deall yw:
Mae erydu’n golygu bod wyneb y ddaear yn treulio ac mae’r deunydd sydd wedi cael ei erydu’n cael eu gludo i rywle arall, lle bydd yn cael ei ddyddodi. Mae pedair prif elfen yn gysylltiedig ag erydu:
Y gair sy’n disgrifio prosesau sy’n torri wyneb y ddaear ond sydd ddim yn gysylltiedig â chludiant yw hindreuliad.
Mae hindreulio’n bwysig iawn ar hyd arfordiroedd hefyd. Yn aml iawn, mae hindreulio’n torri’r arfordir, yn enwedig y clogwyni serth, ac mae hyn yn arwain at bentyrrau o ddeunydd ar waelod y clogwyni.
Yna, mae’r deunydd hwn yn cael ei erydu gan y tonnau a’i gludo i rywle arall cyn cael ei ddyddodi.
Ar y cyfan, nid yw erydu’n effeithio ar bobl ond ym 2011 bu cwymp creigiau ym Mharc Hamdden Porthceri, y Barri, Bro Morgannwg a gadawyd pymtheg o garafanau’n hongian dros y dibyn ar ôl i’r clogwyn o danyn nhw syrthio.
Ym mis Ebrill 2014, cwympodd tua 150 tunnell o wyneb y clogwyn ger pier Penarth. Roedd nifer o bobl o gwmpas ond chafodd neb ei anafu, trwy lwc.
Fodd bynnag, achosodd erydu ddifrod i nifer o’n hamddiffynfeydd môr ym mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr 2014. Canlyniad hyn oedd costau atgyweirio o £8.1 miliwn.
Tonnau sy’n achosi’r rhan fwyaf o erydu ar hyd ein harfordir. Mae sawl math gwahanol o donnau ond gallwn ni eu rhoi nhw i gyd mewn dau brif gategori:
Mae tonnau distrywiol a thonnau adeiladol yn gallu achosi problemau, ond am resymau gwahanol.
Mae’r termau hyn yn bwysig iawn:
Y geiriau sy’n cael eu defnyddio i ddisgrifio tonnau yw:
Tonnau distrywiol sy’n gwneud y difrod mwyaf ar hyd ein harfordir.
Mae tonnau adeiladol yn llawer hirach ac maen nhw’n dueddol o fod yn is o ran uchder na thonnau distrywiol.
Nid yw tonnau adeiladol yn cael eu creu’n lleol ond yn hytrach maen nhw’n cael eu creu gan wyntoedd a stormydd sydd, weithiau, 2000km neu ragor i ffwrdd.
Gall tonnau deithio pellter mawr; y gair am y pellter mae ton yn teithio yw cyrch.
Mae rhai rhannau o arfordir Cymru’n wynebu cyfeiriad lle nad oes tir am filoedd o gilometrau. Gall tonnau sy’n cael eu creu gan stormydd cryf oddi ar arfordiroedd trofannol De America deithio mewn llinell am ddyddiau neu hyd yn oed am wythnos neu ragor cyn cyrraedd Cymru.
Fel arfer, mae’r tonnau hyn yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig ar gyfer twristiaid oherwydd dyma’r tonnau cywir ar gyfer syrffio. Wrth i’r tonnau dorri, mae eu hegni’n ymestyn ymlaen, gan greu torddwr pwerus sy’n gallu symud deunydd i fyny’r traeth.
Mae traethau fel Niwgwl yn denu syrffwyr ac ychydig y tu ôl i’r traeth mae siop/ysgol syrffio yn ogystal â gwersyll pebyll dros yr haf, tafarn a chaffi.
Mae modd gweld byrddau a chaiacs ar doeon ceir a faniau drwy’r haf a’r gaeaf ac mae busnesau lleol wrth eu bodd yn gweld ymwelwyr yn dod drwy’r flwyddyn ond maen nhw’n gallu achosi problemau hefyd.
Mae tonnau adeiladol yn symud deunydd i fyny’r lan ac i’r mewndir. Mae tonnau adeiladol mawr yn symud y traethau cerrig mewn mannau fel Niwgwl i’r mewndir.
Dyna beth ddigwyddodd pan gafodd y bws ei ddal ym mis Chwefror 2014 a bu peiriannau trwm yn gweithio am bythefnos yn symud y traeth yn ôl er mwyn gallu atgyweirio’r ffordd.
Mae’n debygol y bydd rhaid adeiladu ffordd newydd ymhellach i mewn i’r mewndir yn Niwgwl gan adael i’r traeth ddinistrio’r hen un.
Mewn grwpiau, defnyddiwch fapiau er mwyn edrych ar draethau gwahanol, defnyddiwch ffotograffau drwy chwilio ar y we er mwyn gweld a yw traethau sydd â chyrch hirach yn wahanol i draethau sydd â chyrch byrrach.