27

Pam mae'r perygl o lifogydd arfordirol yn cynyddu?

Erydu

Mae erydu arfordiroedd yn cael ei rannu’n bedwar prif fath:

  •         Gweithrediad Hydrolig
  •         Cyrathiad (Sgrafelliad)
  •         Athreuliad
  •         Hydoddiant (Cyrydiad)

Gweithrediad Hydrolig

Grym dŵr yw gwasgedd hydrolig; yn ogystal â thonnau’n taro, mae’r broses yn cynnwys effaith pocedi o aer sydd wedi’u caethiwo.

undefined

Yn ogystal â phŵer y don ei hun, yn aml iawn bydd ton sy’n torri yn cyrlio drosodd ac yn caethiwo poced o aer. Hyd yn oed os na fydd hyn yn digwydd, efallai bydd y don yn taro wyneb clogwyn sydd â hollt neu ogof fach ynddo. Mae’r pocedi o aer yn cael eu cywasgu neu eu gwasgu gan y don ac mae hyn yn creu gwasgedd uchel (tebyg i chwythu balŵn). Yna, mae hwn yn cael ei ryddhau’n sydyn (tebyg i fyrstio’r balŵn).

Mae’r newid hwn yn y gwasgedd, ar ei ben ei hun, yn gallu torri craig ond pan fydd yn digwydd gannoedd o weithiau wrth i don ar ôl ton daro craig, mae hyd yn oed y graig fwyaf yn gallu cael ei chwalu.

  • Mae craciau’n datblygu i fod yn ogofâu bach, sy’n datblygu i fod yn ogofâu mwy. Mae’r ogofâu hyn yn gallu ymestyn yn bell i mewn i'r graig, gan ddilyn y craciau.
  • Ar bentiroedd (darnau creigiog o dir sy’n ymestyn allan i’r môr), mae’r ogofâu hyn yn gallu cael eu huno o’r ddwy ochr i ffurfio bwâu.
  • Maes o law, efallai y bydd to bwa yn syrthio, gan adael piler o graig ar ei ben ei hun, sef stac.

Cyrathiad

Cyrathiad yw’r gair am fath o erydu lle mae’r dŵr neu’r tonnau’n defnyddio creigiau a cherrig fel offer ac mae hyn yn cynyddu’r erydiad. Weithiau, mae’r gair sgrafelliad yn cael ei ddefnyddio i olygu’r un peth.

Mae cyrathiad/sgrafelliad gan greigiau a cherrig sy’n cael eu cario gan y tonnau yn cael ei ychwanegu at weithrediad hydrolig y tonnau wrth iddyn nhw daro’r draethlin.

undefined

Yn aml iawn, mae modd gweld hyn ar ffurf bwlch wrth fôn clogwyniwrth iddyn nhw gael eu tanseilio gan y môr ac mae hyn yn gallu achosi iddyn nhw syrthio.

Yn y lluniau, gallwch chi weld bylchau ar hyd arfordir Bro Morgannwg a’r ymdrechion i’w llenwi nhw â brics a sment er mwyn amddiffyn goleudy pwysig ar gopa’r clogwyn.

undefined

Athreuliad

Mae athreuliad yn digwydd pan fydd tonnau a dŵr yn symud creigiau a cherrig ac yn eu torri nhw, yn eu gwneud nhw’n fwy crwn ac yn eu gwneud nhw’n llyfn.

Cyrydiad

Cyrydiad yw’r gair sy’n disgrifio math o erydu lle mae’r dŵr neu’r tonnau’n hydoddi’r creigiau a’r cerrig yn gemegol. Weithiau, mae’r gair hydoddiant yn cael ei ddefnyddio i olygu’r un peth. Mae rhai mathau o greigiau, megis calchfaen, yn gallu hydoddi os oes asid yn y dŵr, yn union fel y mae siwgr yn hydoddi mewn dŵr cynnes.

Cludiant

Mae’r broses bwysicaf sy’n gysylltiedig â chludiant yn cael ei hachosi gan ddrifft y glannau.

  • Mae drifft y glannau’n cael ei achosi pan fydd tonnau’n taro’r draethlin ar ongl. 
  • Mae hyn yn cael ei achosi gan gyfeiriad y gwynt.
  • Yr ymadrodd am gyfeiriad mwyaf cyffredin y gwynt yw cyfeiriad y prifwynt.
  • Mae hyn, fel arfer, yn effeithio ar gyfeiriad drifft y glannau. 
  • Pan fydd y tonnau’n taro’r traeth ar ongl, mae’r torddwr yn symud y deunydd i fyny’r traeth ar yr ongl hon.
  • Fel arfer, bydd y tynddwr yn symud y deunydd yn syth yn ôl i lawr y traeth oherwydd disgyrchiant.
  • Mae’r deunydd yn symud yn igam ogam ar hyd y traeth yn ystod y broses hon.

undefined

Dyddodiad 

Maes o law, bydd y deunydd sydd wedi cael ei erydu a’i gludo yn cael ei ddyddodi. 

Efallai bydd y deunydd yn symud i ran fwy cysgodol o’r arfordir ac efallai bydd yn dechrau cael ei ddyddodi ar ffurf traeth. 

Mewn mannau lle mae’r tonnau’n gryfach, yn enwedig y rhai sy’n wynebu cyrch hir, bydd traeth gwastad iawn fel arfer, gyda chlawdd o gerrig crynion y tu ôl i’r traeth tywod. 

Y gair ar gyfer y math hwn o draeth yw stormdraeth ac mae Niwgwl yn enghraifft dda iawn.

undefined

Ar draethau cysgodol egni is, bydd tywod sydd ag ongl/proffil sydd ychydig bach yn uwch fel arfer ac yn aml iawn mae twyni tywod y tu ôl iddyn nhw. 

Gallwch chi weld hyn yn y ffotograff hwn o Fae y Tri Chlogwyn ym Mhenrhyn Gŵyr.

undefined

Llun oddi wrth Wikipedia gan Awdur; Roger Davis - CC BY

Weithiau, bydd drifft y glannau’n parhau pan fydd traeth yn cyrraedd man lle mae’r arfordir yn newid cyfeiriad. 

Pan fydd hyn yn digwydd, bydd drifft y glannau’n gadael ei lwyth o dywod yn y dŵr a bydd traeth rhyfedd yn tyfu allan i’r môr, gyda dŵr yn amgylchynu tair ochr iddo. 

Y gair am y math hwn o draeth yw tafod; mae’n eithaf cyffredin yng Nghymru. Tafod Fairbourne yng Ngwynedd yw’r enghraifft hon. Enw arall arno yw Trwyn y Penrhyn ac mae wedi’i leoli yn aber Afon Mawddach lle mae’r afon yn cyrraedd Bae Ceredigion.

Gweithgaredd Myfyrwyr

Ar ôl i chi wneud y cwis, dylech chi fod yn barod i geisio gwneud yr ymholiad daearyddol. Gwnewch yn siŵr  eich bod chi’n defnyddio’r ymadroddion daearyddol rydych chi wedi’u dysgu.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Ymchwilio i lifogydd arfordirol yng Nghymru

Ymchwilio i lifogydd arfordirol yng Nghymru