27

Ymchwilio i lifogydd arfordirol yng Nghymru

Niwgwl, Gorllewin Cymru

undefined

Llun oddi wrth County News March 2014 gan Western Telegraph

Gweithiwch gyda phartneriaid ac ysgrifennwch benawdau ar gyfer y ffotograff hwn; ysgrifennwch y penawdau o safbwynt:

Teithiwr ar y bws

Un o’r pentrefwyr

Llywodraeth Cymru 

Risg cynyddol o Lifogydd Arfordirol yng Nghymru

Roedd llawer o enghreifftiau o lifogydd arfordirol yn ystod mis Ionawr 2014 o gwmpas Cymru. Roedd rhannau o Gymru wedi cael eu taro gan stormydd yn ystod mis Rhagfyr 2013 a chafodd rhai lleoliadau eu taro eto ym mis Chwefror, fel mae’r ffotograff hwn o Niwgwl yn Sir Benfro yn dangos.

Dolenni cysylltiedig

O gwmpas Cymru

  • Daeth stormydd a llifogydd i sawl rhan o arfordir Gogledd Cymru ym mis Rhagfyr 2013.
  • Wedyn, ym mis Ionawr 2014, daeth stormydd a achosodd ddifrod eang ar hyd arfordir Cymru gyfan. Cafodd prom Aberystwyth, y ffordd a’r adeiladau eu dinistrio bron ac roedd golygfeydd tebyg ym Mhorthcawl.

Llywodraeth Cymru’n Gweithredu

  • Dywedodd Llywodraeth Cymru ar unwaith fod rhaid paratoi dau adroddiad am y digwyddiadau.
  • Mae’r adroddiad cyntaf yn trafod beth ddigwyddodd ac mae’r ail adroddiad yn sôn am wersi pwysig mae angen i ni yng Nghymru eu dysgu o ganlyniad i’r stormydd.

Rydyn ni’n mynd i ymchwilio i brif ganfyddiadau’r adroddiad cyntaf. 

Mae’r adroddiad cyntaf yn dweud pam mae ein harfordir mor bwysig yng Nghymru: 

  • Mae tua 60% (1.9 miliwn) o boblogaeth Cymru’n byw ar neu ger yr arfordir. 
  • Mae’r arfordir yn cynnal tua 93,000 o swyddi ac mae dros 40% o’r bobl sy’n aros dros nos yng Nghymru yn ymweld â’r arfordir. 
  • Mae tua 415km o amddiffynfeydd môr wedi’u gwneud gan ddyn ac maen nhw’n amddiffyn gwerth dros £8 biliwn o asedion rhag erydu arfordirol a rhag llifogydd yn sgil y llanw.
  • Byddai gosod amddiffynfeydd newydd yn costio tua £750 miliwn.

Beth rydyn ni wedi'i ddysgu?

Cryfder y Storm

Tarodd storm ddifrifol Ogledd Cymru ym mis Rhagfyr 2013. Achosodd hyn gynnydd uchel yn lefel y môr a thonnau mawr ar y tir. Digwyddodd hyn pan oedd y llanw’n uchel. 

Mae’r map hwn, sy’n dod o’r adroddiad, yn dangos lleoliadau’r rhybuddion o lifogydd ar hyd arfordir Gogledd Cymru.

undefined

  undefined

Cyrhaeddodd cyfres o stormydd o’r Môr Iwerydd yn ystod mis Ionawr 2014. Achosodd y stormydd hyn i’r môr godi i lefel uchel ac roedd y tonnau’n fawr iawn. Digwyddodd hyn yr un pryd â’r llanw uchel a chafodd llawer o broblemau eu hachosi ar hyd arfordir y de a’r gorllewin.

Parhaodd y digwyddiad difrifol hwn o’r llanw uchel cyntaf ar 3ydd o Ionawr hyd at y 6ed o Ionawr.

undefined

  undefined

  • Cafodd effaith storm mis Rhagfyr 2013 ei gyfyngu i arfordir Gogledd Cymru.
  • Aeth y llifogydd i mewn i tua 155 o adeiladau  – yn y Rhyl yn bennaf, sef 136 o adeiladau, a Bae Cinmel, sef 8 adeilad.
  • Cafodd pobl eu cynghori i adael 400 o adeiladau eraill ac aeth dros 200 o bobl i ganolfannau gorffwys megis canolfannau hamdden yn y Rhyl.

undefined

  undefined

Roedd effaith storm mis Ionawr 2014 yn llawer ehangach ar hyd arfordir Cymru. Effeithiwyd ar tua 100 o gymunedau o Ynys Môn i Sir Fynwy. 

  • Dywedwyd bod llifogydd wedi mynd i mewn i tua 150 o adeiladau, gan gynnwys 21 yn Aberteifi, 12 yn Aberystwyth yng Ngheredigion, 12 yn Abermo yng Ngwynedd ac 13 yn Abergwaun yn Sir Benfro. 
  • Cafodd 415 o adeiladau eraill lai o lifogydd a chafodd 850 o adeiladau eu hamddiffyn drwy ddefnyddio offer amddiffyn adeiladau dros dro a sachau tywod.
  • Yng Ngheredigion, cafodd pobl eu cynghori i adael mwy na 600 o adeiladau yn y Borth, yn Aberystwyth ac yn Aberteifi.
  • Cafodd pobl eu cynghori i adael 450 o adeiladau yn Nhrefdraeth.

Adeiladau a gafodd lifogydd

Aberteifi

21

Aberystwyth

12

Abermo

15

Abergwaun

13

Y mannau a gafodd eu heffeithio waethaf oedd:

  • Y Rhyl ym mis Rhagfyr 2013
  • Llanbedr ym mis Ionawr 2014

Difrod i amddiffynfeydd môr

undefined

undefined

  undefined

  • Roedd Cymru’n ffodus mewn sawl ffordd oherwydd na ddaeth stormydd mis Ionawr i’r un rhan o’r arfordir â stormydd mis Rhagfyr. 
  • Y rheswm am hyn yw oherwydd bod difrod mawr wedi cael ei achosi i’r amddiffynfeydd morol gan y ddau ddigwyddiad. Byddai taro’r un ardal ddwywaith ar lanw uchel wedi cael llawer iawn mwy o effaith mwy na thebyg.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw hefyd at y ffaith fod arfordir Cymru’n wynebu risgiau sy’n gysylltiedig ag erydu yn ogystal â’r risgiau sy’n gysylltiedig â llifogydd. 

Mae ardaloedd yr arfordir yn cael eu heffeithio gan rymoedd pwerus ac maen nhw’n newid drwy’r amser. Mae hyd yn oed y rhannau o’r arfordir sy’n cynnwys craig solet, galed yn cael eu herydu. 

Mae peth o’r erydu hwn yn gallu digwydd yn araf ond mae peth ohono’n gallu digwydd yn gyflym, er enghraifft y cwymp creigiau ym Mharc Hamdden Porthceri ger y Bari.

Gweithgareddau ar gyfer disgyblion

Ymchwiliad

Yn gyntaf, ceisiwch ddarllen gweddill yr adnoddau cysylltiedig a defnyddiwch daflen adnoddau'r myfyriwr i’ch helpu chi i wneud ymchwiliad i’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r llifogydd arfordirol ac a ddaeth i’r golwg yn ystod y stormydd ar ddiwedd 2013 a dechrau 2014. Defnyddiwch hyn i lunio cwestiynau y gallwch chi ymchwilio iddyn nhw ar ôl i’r rhifyn nesaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion gael ei gyhoeddi.

Cyflwyniad

  • Yn yr adran hon, byddwch chi’n egluro beth rydych chi’n ymchwilio iddo.
  • Byddwch chi’n dewis cwestiynau y byddwch chi eisiau eu hateb.
  • Byddwch chi’n egluro gwybodaeth gefndirol bwysig.
  • Rhowch amlinelliad o gynllun yr hyn rydych chi’n bwriadu’i wneud a pha ddata y byddwch chi’n casglu.  Does dim angen i chi ymweld â’r arfordir ond gallech chi ofyn cwestiynau mewn holiadur ynglŷn â beth mae pobl yn ei gofio am y stormydd neu a ydyn nhw wedi ymweld â lleoliad. Hefyd, gallech chi ddefnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol er mwyn casglu gwybodaeth. Mae Google Maps yn System Gwybodaeth Ddaearyddol dda, yn enwedig y golygfeydd closiadwy o’r lloeren, ffotograffau o’r awyr ac, mewn rhai mannau, golygfeydd o strydoedd.

Canlyniadau

  • Defnyddiwch fapiau o’r erthyglau.
  • Defnyddiwch ffotograffau o System Gwybodaeth Ddaearyddol.
  • Rhowch y data mewn tablau.
  • Troswch y data i ffurfiau sy’n haws i’w dehongli:
    • Defnyddiwch graffiau.
    • Symlhewch y data i bethau fel rhifau wedi’u talgrynnu neu gymedr cynrychioladol.

Dadansoddiad

  • Dangoswch sut mae eich canlyniadau’n ateb cwestiynau eich ymholiad:
    • Anodwch graffiau, ffotograffau, mapiau a diagramau.
    • Lluniwch baragraffau.

Casgliadau

  • Beth ydych chi wedi’i ddarganfod am bob un o gwestiynau eich ymholiad? Beth yw’r ateb?

Methodoleg

  • Yn aml, mae’r Fethodoleg yn dilyn y Cyflwyniad gan eich bod chi’n egluro beth rydych chi’n mynd i’w wneud. Yn yr ymchwiliad hwn, rydyn ni’n mynd i roi’r Fethodoleg o flaen y Gwerthusiad fel ein bod ni’n gallu datblygu ein sgiliau gwerthuso yn well ar gyfer y dyfodol.
  • Byddwch chi’n egluro sut gwnaethoch chi gasglu eich data a byddwch chi’n cyfiawnhau eich dewisiadau.
  • Byddwch chi’n egluro sut rydych chi wedi cynrychioli eich data a byddwch chi’n cyfiawnhau eich dewisiadau.

Gwerthuso

  • Gwerthuswch eich proses (sut gwnaethoch chi eich ymchwiliadau (y dulliau)). Beth oedd yn llwyddiannus? Beth aeth o’i le? Beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol y tro nesaf?
  • Gwerthuswch eich ffynonellau (eich gwybodaeth a’ch data). Pa rai oedd yn ddibynadwy a pham? Pa rai allai fod yn rhagfarnllyd a pham?
  • Gwerthuswch eich canlyniadau (eich casgliadau). Beth sy’n ddibynadwy a pham? Pa rai allai fod yn anghywir neu’n wallus a pham?
  • Lluniwch ragor o gwestiynau ar gyfer ymchwiliad yn y dyfodol a fydd yn seiliedig ar eich canfyddiadau; mae hyn yn arbennig o bwysig er mwyn i chi fedru gwneud penderfyniadau ar arfordiroedd yn y rhifyn nesaf.
Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Pam mae'r perygl o lifogydd arfordirol yn cynyddu?

Pam mae'r perygl o lifogydd arfordirol yn cynyddu?