Mae erydu arfordiroedd yn cael ei rannu’n bedwar prif fath:
Gweithrediad Hydrolig
Grym dŵr yw gwasgedd hydrolig; yn ogystal â thonnau’n taro, mae’r broses yn cynnwys effaith pocedi o aer sydd wedi’u caethiwo.
Yn ogystal â phŵer y don ei hun, yn aml iawn bydd ton sy’n torri yn cyrlio drosodd ac yn caethiwo poced o aer. Hyd yn oed os na fydd hyn yn digwydd, efallai bydd y don yn taro wyneb clogwyn sydd â hollt neu ogof fach ynddo. Mae’r pocedi o aer yn cael eu cywasgu neu eu gwasgu gan y don ac mae hyn yn creu gwasgedd uchel (tebyg i chwythu balŵn). Yna, mae hwn yn cael ei ryddhau’n sydyn (tebyg i fyrstio’r balŵn).
Mae’r newid hwn yn y gwasgedd, ar ei ben ei hun, yn gallu torri craig ond pan fydd yn digwydd gannoedd o weithiau wrth i don ar ôl ton daro craig, mae hyd yn oed y graig fwyaf yn gallu cael ei chwalu.
Cyrathiad
Cyrathiad yw’r gair am fath o erydu lle mae’r dŵr neu’r tonnau’n defnyddio creigiau a cherrig fel offer ac mae hyn yn cynyddu’r erydiad. Weithiau, mae’r gair sgrafelliad yn cael ei ddefnyddio i olygu’r un peth.
Mae cyrathiad/sgrafelliad gan greigiau a cherrig sy’n cael eu cario gan y tonnau yn cael ei ychwanegu at weithrediad hydrolig y tonnau wrth iddyn nhw daro’r draethlin.
Yn aml iawn, mae modd gweld hyn ar ffurf bwlch wrth fôn clogwyniwrth iddyn nhw gael eu tanseilio gan y môr ac mae hyn yn gallu achosi iddyn nhw syrthio.
Yn y lluniau, gallwch chi weld bylchau ar hyd arfordir Bro Morgannwg a’r ymdrechion i’w llenwi nhw â brics a sment er mwyn amddiffyn goleudy pwysig ar gopa’r clogwyn.
Athreuliad
Mae athreuliad yn digwydd pan fydd tonnau a dŵr yn symud creigiau a cherrig ac yn eu torri nhw, yn eu gwneud nhw’n fwy crwn ac yn eu gwneud nhw’n llyfn.
Cyrydiad
Cyrydiad yw’r gair sy’n disgrifio math o erydu lle mae’r dŵr neu’r tonnau’n hydoddi’r creigiau a’r cerrig yn gemegol. Weithiau, mae’r gair hydoddiant yn cael ei ddefnyddio i olygu’r un peth. Mae rhai mathau o greigiau, megis calchfaen, yn gallu hydoddi os oes asid yn y dŵr, yn union fel y mae siwgr yn hydoddi mewn dŵr cynnes.
Mae’r broses bwysicaf sy’n gysylltiedig â chludiant yn cael ei hachosi gan ddrifft y glannau.
Maes o law, bydd y deunydd sydd wedi cael ei erydu a’i gludo yn cael ei ddyddodi.
Efallai bydd y deunydd yn symud i ran fwy cysgodol o’r arfordir ac efallai bydd yn dechrau cael ei ddyddodi ar ffurf traeth.
Mewn mannau lle mae’r tonnau’n gryfach, yn enwedig y rhai sy’n wynebu cyrch hir, bydd traeth gwastad iawn fel arfer, gyda chlawdd o gerrig crynion y tu ôl i’r traeth tywod.
Y gair ar gyfer y math hwn o draeth yw stormdraeth ac mae Niwgwl yn enghraifft dda iawn.
Ar draethau cysgodol egni is, bydd tywod sydd ag ongl/proffil sydd ychydig bach yn uwch fel arfer ac yn aml iawn mae twyni tywod y tu ôl iddyn nhw.
Gallwch chi weld hyn yn y ffotograff hwn o Fae y Tri Chlogwyn ym Mhenrhyn Gŵyr.
Llun oddi wrth Wikipedia gan Awdur; Roger Davis - CC BY
Weithiau, bydd drifft y glannau’n parhau pan fydd traeth yn cyrraedd man lle mae’r arfordir yn newid cyfeiriad.
Pan fydd hyn yn digwydd, bydd drifft y glannau’n gadael ei lwyth o dywod yn y dŵr a bydd traeth rhyfedd yn tyfu allan i’r môr, gyda dŵr yn amgylchynu tair ochr iddo.
Y gair am y math hwn o draeth yw tafod; mae’n eithaf cyffredin yng Nghymru. Tafod Fairbourne yng Ngwynedd yw’r enghraifft hon. Enw arall arno yw Trwyn y Penrhyn ac mae wedi’i leoli yn aber Afon Mawddach lle mae’r afon yn cyrraedd Bae Ceredigion.
Ar ôl i chi wneud y cwis, dylech chi fod yn barod i geisio gwneud yr ymholiad daearyddol. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio’r ymadroddion daearyddol rydych chi wedi’u dysgu.