27

Prosesau arfordirol

Mae’n amhosibl deall y risgiau sy’n gysylltiedig â llifogydd arfordirol a chwymp clogwyni sydd wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf heb ddeall y prosesau sydd ar waith ar hyd ein harfordir. Y prif brosesau arfordirol mae angen i ni eu deall yw: 

  • Erydiad
  • Cludiant
  • Dyddodiad

Ein tywydd neu, o safbwynt y tymor hir, ein hinsawdd (sef amodau tywydd cyfartalog dros y 30 mlynedd blaenorol) sy’n dylanwadu fwyaf ar y tair proses hyn. Mae pob agwedd ar y tywydd a’r hinsawdd yn cael effaith. Cryfder a chyfeiriad y gwynt yw’r ddau brif ffactor ond mae dyodiad (pob ffurf o leithder sy’n cael ei ddyddodi o’r atmosffer i wyneb y ddaear (megis glaw, cesair/cenllysg, eira, eirlaw, niwl, gwlith a rhew)) a gwasgedd aer yn gallu cael effaith sylweddol hefyd. Yn ogystal â’r tywydd, mae nifer o brosesau eraill yn gallu cael effaith, er enghraifft, cerrynt y cefnfor/môr, digwyddiadau/prosesau tectonig ac, wrth gwrs, gweithgareddau dynol.

Mae erydu’n golygu bod wyneb y ddaear yn treulio ac mae’r deunydd sydd wedi cael ei erydu’n cael eu gludo i rywle arall, lle bydd yn cael ei ddyddodi. Yn draddodiadol, mae pedair prif elfen yn gysylltiedig ag erydu: 

  • Gwynt
  • Tonnau (arfordirol)
  • Afonydd (dŵr yn llifo)
  • Rhew

undefined

Y gair sy’n disgrifio prosesau sy’n torri wyneb y ddaear yw hindreuliad. Mae prosesau hindreulio’n bwysig iawn ar hyd arfordiroedd hefyd. Yn aml iawn, mae hindreulio’n torri’r arfordir, yn enwedig y clogwyni serth, ac mae hyn yn arwain at bentyrrau o ddeunydd ar waelod y clogwyni. Yna, mae’r deunydd hwn yn cael ei erydu gan y tonnau a’i gludo i rywle arall cyn cael ei ddyddodi.

Ar y cyfan, nid yw erydu’n effeithio arnom yn uniongyrchol ond mae’r adroddiad diweddar yn ein cyfeirio ni at ddau ddigwyddiad - y cwymp creigiau a ddigwyddodd ym Mharc Hamdden Porthceri, y Barri, Bro Morgannwg, yn 2011, pryd y gadawyd pymtheg o garafanau’n hongian dros y dibyn ar ôl i’r clogwyn oddi tanynt syrthio ac, yn fwy diweddar, cwympodd tua 150 tunnell o wyneb y clogwyn ger pier Penarth ym mis Ebrill 2014. Roedd nifer o bobl yno yn ei wylio’n digwydd ond ni chafodd neb ei anafu, trwy lwc. Fodd bynnag, fel rydyn ni wedi tynnu sylw ato yn ein herthygl gyntaf, achosodd erydu ddifrod i nifer o’n hamddiffynfeydd môr ym mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr 2014. Canlyniad hyn oedd costau atgyweirio o £8.1 miliwn a’n gadael ni mewn sefyllfa fregus iawn (pe bai mwy o stormydd yn dod) hyd nes i’r difrod cael ei atgyweirio.

Tonnau

Tonnau sy’n achosi’r rhan fwyaf o erydu ar hyd ein harfordir. Mae sawl math gwahanol o donnau ond gallwn ni eu rhoi nhw i gyd mewn dau brif gategori: 

  • Tonnau distrywiol
  • Tonnau adeiladol

undefined

Fel arfer, mae tonnau distrywiol yn donnau serth sy’n  syrthio’n fertigol ar y lan neu ar y traeth. Mae hyn yn gallu sgwrio’r traeth ar y dechrau ac yna mae’r rhan fwyaf o’r don yn symud yn ôl ar hyd y traeth, sef fel tynddwr. Dim ond cyfran fach o’r don fydd yn symud i fyny’r traeth ar ffurf torddwr. Mae’r termau hyn yn bwysig iawn:

  • Tynddwr – y rhan o’r don sy’n symud yn ôl i lawr y traeth.
  • Torddwr – y rhan o’r don sy’n symud ymlaen i fyny’r traeth.

Mae mwyafrif y tonnau distrywiol yn cael eu ffurfio ger y lan gan wyntoedd sy’n chwythu’n lleol. Pan fydd y gwynt yn chwythu dros ddŵr, bydd peth o’r egni’n cael ei drosglwyddo i’r dŵr ac mae’r egni  hwn yn symud ar ffurf tonnau i’r un cyfeiriad â’r gwynt.

undefined

Y geiriau sy’n cael eu defnyddio i ddisgrifio tonnau yw:

  • Brig – rhan ucha’r don.
  • Cafn – rhan isaf y don.
  • Tonfedd – y pellter rhwng crib dwy don neu rhwng y naill gafn a’r llall.

 

Tonnau distrywiol sy’n gwneud y difrod mwyaf ar hyd ein harfordir.

 undefined

Mae tonnau adeiladol yn llawer hirach ac maen nhw’n dueddol o fod yn is o ran uchder na thonnau distrywiol. 

Nid yw tonnau adeiladol yn cael eu creu’n lleol ond yn hytrach maen nhw’n cael eu creu gan wyntoedd a stormydd sydd, weithiau, 2000km neu ragor i ffwrdd.

undefinedTonnau distrywiol mewn stormydd lleol sy’n gwneud y difrod mwyaf ar hyd ein harfordir. Fodd bynnag, nid yw tonnau adeiladol yn cael eu creu’n lleol ond yn hytrach maen nhw’n cael eu creu gan wyntoedd a stormydd sydd, weithiau, 2000km neu ragor i ffwrdd. Gall tonnau deithio pellteroedd maith; y gair am y pellter mae ton yn teithio yw cyrch.

Mae rhai rhannau o arfordir Cymru’n wynebu cyfeiriad lle nad oes tir am filoedd o gilometrau. Gall tonnau sy’n cael eu creu gan stormydd cryf oddi ar arfordiroedd trofannol De America deithio mewn llinell am ddyddiau neu hyd yn oed am wythnos neu ragor cyn cyrraedd Cymru.

Syrffio yng Nghymru

Fel arfer, mae’r tonnau hyn yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig ar gyfer twristiaid oherwydd dyma’r tonnau cywir ar gyfer syrffio.  Wrth i’r tonnau dorri, mae eu hegni’n ymestyn ymlaen, gan greu torddwr pwerus sy’n gallu symud deunydd i fyny’r traeth.

undefined

Mae modd gweld byrddau a chaiacs ar doeon ceir a faniau drwy’r haf a’r gaeaf ac mae busnesau lleol wrth eu bodd yn eu gweld nhw’n dod drwy’r flwyddyn ond maen nhw’n gallu achosi problemau hefyd.

undefined

Mae tonnau adeiladol yn symud deunydd i fyny’r lan ac i’r mewndir. Mae tonnau adeiladol mawr yn symud y traethau cerrig mewn mannau fel Niwgwl i’r mewndir. 

Dyna beth ddigwyddodd pan gafodd y bws ei ddal ym mis Chwefror 2014 a bu peiriannau trwm yn gweithio am bythefnos yn symud y traeth yn ôl er mwyn gallu atgyweirio’r ffordd. 

Mae’n debygol y bydd rhaid adeiladu ffordd newydd ymhellach i mewn i’r mewndir yn Niwgwl gan adael i’r traeth ddinistrio’r hen un.

Gweithgaredd ar gyfer disgyblion

Mewn grwpiau, defnyddiwch fapiau er mwyn edrych ar draethau gwahanol ac yna, gan ddefnyddio'r raddfa, gweithiwch allan pa rai sydd â’r cyrch hiraf. Defnyddiwch ffotograffau drwy chwilio ar y we er mwyn gweld a yw traethau sydd â chyrch hirach yn wahanol i draethau sydd â chyrch byrrach.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Ymchwilio i lifogydd arfordirol yng Nghymru

Ymchwilio i lifogydd arfordirol yng Nghymru

Pam mae'r perygl o lifogydd arfordirol yn cynyddu?

Pam mae'r perygl o lifogydd arfordirol yn cynyddu?