27

Prosesau arfordirol

Mae’n amhosibl deall y risgiau sy’n gysylltiedig â llifogydd arfordirol a chwymp clogwyni sydd wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf heb ddeall y prosesau sy’n digwydd ar hyd ein harfordir. Y prif brosesau arfordirol mae angen i ni eu deall yw: 

  • Erydiad
  • Cludiant
  • Dyddodiad

Mae erydu’n golygu bod wyneb y ddaear yn treulio ac mae’r deunydd sydd wedi cael ei erydu’n cael eu gludo i rywle arall, lle bydd yn cael ei ddyddodi. Mae pedair prif elfen yn gysylltiedig ag erydu: 

  • Gwynt
  • Tonnau (arfordirol)
  • Afonydd (dŵr yn llifo)
  • Rhew

undefined

Y gair sy’n disgrifio prosesau sy’n torri wyneb y ddaear ond sydd ddim yn gysylltiedig â chludiant yw hindreuliad.

Mae hindreulio’n bwysig iawn ar hyd arfordiroedd hefyd. Yn aml iawn, mae hindreulio’n torri’r arfordir, yn enwedig y clogwyni serth, ac mae hyn yn arwain at bentyrrau o ddeunydd ar waelod y clogwyni.

Yna, mae’r deunydd hwn yn cael ei erydu gan y tonnau a’i gludo i rywle arall cyn cael ei ddyddodi.

Ar y cyfan, nid yw erydu’n effeithio ar bobl ond ym 2011 bu cwymp creigiau ym Mharc Hamdden Porthceri, y Barri, Bro Morgannwg a gadawyd pymtheg o garafanau’n hongian dros y dibyn ar ôl i’r clogwyn o danyn nhw syrthio. 

Ym mis Ebrill 2014, cwympodd tua 150 tunnell o wyneb y clogwyn ger pier Penarth. Roedd nifer o bobl o gwmpas ond chafodd neb ei anafu, trwy lwc. 

Fodd bynnag, achosodd erydu ddifrod i nifer o’n hamddiffynfeydd môr ym mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr 2014. Canlyniad hyn oedd costau atgyweirio o £8.1 miliwn.

Tonnau

Tonnau sy’n achosi’r rhan fwyaf o erydu ar hyd ein harfordir. Mae sawl math gwahanol o donnau ond gallwn ni eu rhoi nhw i gyd mewn dau brif gategori: 

  • Tonnau distrywiol
  • Tonnau adeiladol

Mae tonnau distrywiol a thonnau adeiladol yn gallu achosi problemau, ond am resymau gwahanol.

undefined

  • Fel arfer, mae tonnau distrywiol yn donnau serth sy’n syrthio bron yn fertigol ar y lan neu ar y traeth.
  • Mae hyn yn gallu sgwrio’r traeth ar y dechrau ac yna mae’r rhan fwyaf o’r don yn symud yn ôl ar hyd y traeth. Dyma’r tynddwr.
  • Dim ond rhan fach o’r don fydd yn symud i fyny’r traeth. Dyma’r torddwr.

Mae’r termau hyn yn bwysig iawn:

  • Tynddwr – y rhan o’r don sy’n symud yn ôl i lawr y traeth.
  • Torddwr – y rhan o’r don sy’n symud ymlaen i fyny’r traeth.
  • Mae mwyafrif y tonnau distrywiol yn cael eu ffurfio ger y lan gan wyntoedd sy’n chwythu’n lleol. 
  • Pan fydd y gwynt yn chwythu dros ddŵr, bydd peth o’r egni’n cael ei drosglwyddo i’r dŵr ac mae’r egni hwn yn symud ar ffurf tonnau i’r un cyfeiriad â’r gwynt.

undefined

Y geiriau sy’n cael eu defnyddio i ddisgrifio tonnau yw:

  • Brig – rhan ucha’r don.
  • Cafn – rhan isaf y don.
  • Tonfedd – y pellter rhwng crib dwy don neu rhwng y naill gafn a’r llall.
  • Uchder ton – y gwahaniaeth fertigol rhwng y cafn a’r crib.

 

Tonnau distrywiol sy’n gwneud y difrod mwyaf ar hyd ein harfordir.

 undefined

Mae tonnau adeiladol yn llawer hirach ac maen nhw’n dueddol o fod yn is o ran uchder na thonnau distrywiol. 

Nid yw tonnau adeiladol yn cael eu creu’n lleol ond yn hytrach maen nhw’n cael eu creu gan wyntoedd a stormydd sydd, weithiau, 2000km neu ragor i ffwrdd.

undefinedGall tonnau deithio pellter mawr; y gair am y pellter mae ton yn teithio yw cyrch.

Mae rhai rhannau o arfordir Cymru’n wynebu cyfeiriad lle nad oes tir am filoedd o gilometrau. Gall tonnau sy’n cael eu creu gan stormydd cryf oddi ar arfordiroedd trofannol De America deithio mewn llinell am ddyddiau neu hyd yn oed am wythnos neu ragor cyn cyrraedd Cymru.

Syrffio yng Nghymru

Fel arfer, mae’r tonnau hyn yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig ar gyfer twristiaid oherwydd dyma’r tonnau cywir ar gyfer syrffio.  Wrth i’r tonnau dorri, mae eu hegni’n ymestyn ymlaen, gan greu torddwr pwerus sy’n gallu symud deunydd i fyny’r traeth.

undefined

Mae traethau fel Niwgwl yn denu syrffwyr ac ychydig y tu ôl i’r traeth mae siop/ysgol syrffio yn ogystal â gwersyll pebyll dros yr haf, tafarn a chaffi. 

Mae modd gweld byrddau a chaiacs ar doeon ceir a faniau drwy’r haf a’r gaeaf ac mae busnesau lleol wrth eu bodd yn gweld ymwelwyr yn dod drwy’r flwyddyn ond maen nhw’n gallu achosi problemau hefyd.

undefined

Mae tonnau adeiladol yn symud deunydd i fyny’r lan ac i’r mewndir. Mae tonnau adeiladol mawr yn symud y traethau cerrig mewn mannau fel Niwgwl i’r mewndir. 

Dyna beth ddigwyddodd pan gafodd y bws ei ddal ym mis Chwefror 2014 a bu peiriannau trwm yn gweithio am bythefnos yn symud y traeth yn ôl er mwyn gallu atgyweirio’r ffordd. 

Mae’n debygol y bydd rhaid adeiladu ffordd newydd ymhellach i mewn i’r mewndir yn Niwgwl gan adael i’r traeth ddinistrio’r hen un.

Gweithgaredd ar gyfer disgyblion

Mewn grwpiau, defnyddiwch fapiau er mwyn edrych ar draethau gwahanol, defnyddiwch ffotograffau drwy chwilio ar y we er mwyn gweld a yw traethau sydd â chyrch hirach yn wahanol i draethau sydd â chyrch byrrach.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Ymchwilio i lifogydd arfordirol yng Nghymru

Ymchwilio i lifogydd arfordirol yng Nghymru

Pam mae'r perygl o lifogydd arfordirol yn cynyddu?

Pam mae'r perygl o lifogydd arfordirol yn cynyddu?