26

2015 – Etholiad Cyffredinol y D.U.

Trefnwch eich hunain yn 4 grŵp ar sail pa un o’r canlynol y byddech chi’n pleidleisio drosto/drosti.

ed miliband

Ed Miliband

Y Blaid Lafur
David cameron

David Cameron

Y Plaid Geidwadol
Leanne Wood

Leanne Wood

Plaid Cymru
Nick clegg

Nick Clegg

Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol

2015 – Etholiad Cyffredinol y D.U.

Rydyn ni’n gwybod mai’r eitem newyddion fwyaf yn 2015 fydd yr Etholiad Cyffredinol mwy na thebyg. Rydyn ni’n gwybod mai ar 7fed Mai, 2015, y bydd yr Etholiad Cyffredinol nesaf yn cael ei gynnal oni bai bod y Senedd yn pasio pleidlais arbennig gyda mwyafrif o 55%. Efallai nad yw hyn yn swnio’n rhywbeth pwysig, ond cafodd y dyddiad hwn ei sefydlu gan ddeddf bwysig o’r enw Deddf Seneddau Tymor Penodol 2011.

Cyn y ddeddf newydd yn 2011, roedd unrhyw Brif Weinidog yn gallu cyhoeddi etholiad unrhyw bryd (er, yn fanwl gywir, roedd y Prif Weinidog yn dweud wrth y Frenhines a hi oedd yn galw’r etholiad).  Roedd hyn yn golygu fod llywodraeth a oedd yn boblogaidd rywbryd yn ystod y tymor Seneddol yn gallu cyhoeddi etholiad yn gynnar.

Felly, roedd y llywodraeth  yn gallu manteisio ar ddigwyddiad arbennig, fel ennill rhyfel neu lwyddiant yn y Gemau Olympaidd neu ennill Cwpan y Byd pêl-droed. Cyn gallu galw etholiad cynnar, rhaid cael mwyafrif penodol, sef 55% o A.S.au yn pleidleisio dros wneud hynny. Ond, gall llywodraeth gael ei gorfodi i ymddiswyddo os bydd mwyafrif cyffredin o dros 50% yn pleidleisio dros wneud hynny; yr enw ar y math hwn o bleidlais yw ‘pleidlais o ddiffyg hyder’.

Daearyddiaeth yn y Newyddion a Rhagfarn

welsh government cardiff bay

Rhaid bod yn ofalus iawn gyda geiriad y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion oherwydd bod rheolau llym yn bodoli mewn perthynas â llywodraeth yn defnyddio arian cyhoeddus ar gyfer ymgyrchu etholiadol.

Llywodraeth Cymru sy’n talu am Daearyddiaeth yn y Newyddion ac felly byddai’n anghyfreithlon i unrhyw agwedd ar yr erthyglau hyn ymddangos fel petaen nhw o blaid unrhyw ymgeiswyr neu blaid benodol - fawr neu fach.

Fodd bynnag, nid oes cyfyngiadau cyfreithiol yn mynnu bod cwmnïau cyfryngau preifat, fel y mwyafrif o’r papurau newydd a nifer o sianeli teledu, yn ddiduedd, felly byddan nhw’n cyhoeddi gwybodaeth sy’n cefnogi’r blaid wleidyddol y mae’r perchnogion yn eu ffafrio; mae’n bwysig iawn edrych ar wybodaeth o’r fath sy’n ymddangos yn y newyddion a’i dadansoddi o safbwynt rhagfarn.

Yn y rhifyn diwethaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion, edrychon ni ar y senedd a’r etholaethau seneddol ac ar y ffaith fod y llywodraeth bresennol eisiau cael deddf sy’n lleihau nifer yr etholaethau seneddol o 650 i 600.  Ni lwyddodd y llywodraeth bresennol i gael y ddeddf drwy’r senedd mewn pryd, felly bydd yr un nifer o etholaethau yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf ag oedd yn 2010. Mae hyn yn bwysig oherwydd mae’n eithaf cyffredin i lywodraeth newydd newid ffiniau neu nifer yr etholaethau er mwyn gwneud pethau’n decach o’i safbwynt hi.

uk election map

Awgrymodd y llywodraeth bresennol y dylid lleihau’r 650 o etholaethau presennol, gyda phob un ohonyn nhw’n cynrychioli nifer wahanol iawn o bleidleiswyr, i 600 o etholaethau a fyddai’n cynnwys tua’r un nifer o bleidleiswyr.

Byddai hyn yn lleihau nifer A.S.au Cymru o 40 i 18.

Mae pob etholaeth seneddol yn ethol un Aelod Seneddol (A.S.). Mae hyn yn cael ei wneud drwy’r system ‘y cyntaf i’r felin’:

  • Cydweddiad yw’r ymadrodd hwn (ystyr cydweddiad yw ysgrifennu neu ddweud rhywbeth sy’n cymharu dau beth gwahanol, ac mae’r enghraifft hon yn cymharu etholiad a melin).
  • Y syniad y tu ôl i hyn yw helpu pobl i ddeall un peth (yr etholiad) drwy ei gymharu gyda rhywbeth arall maen nhw’n ei ddeall (sef y ddihareb Gymraeg, ‘Y cyntaf i’r felin gaiff falu’). Yn syml, yr ystyr yw mai’r ymgeisydd sy’n cael y nifer fwyaf o bleidleisiau mewn etholaeth sy’n dod yn A.S.

Tabl o A.S.au 2010 a’r A.S.au presennol

Plaid

Ar ôl Etholiad Cyffredinol  2010

Ar hyn o bryd

Ceidwadol

306

303

Llafur

258

257

Democratiaid Rhyddfrydol

57

56

D.U.P.

8

8

S.N.P

6

6

Sinn Féin

5

5

Annibynnol

1

3

Plaid Cymru

3

3

S.D.L.P.

3

3

U.K.I.P.

0

2

Y Gynghrair

1

1

Y Blaid Werdd

1

1

Respect

0

1

Y Llefarydd*

1

1

Cyfanswm nifer y seddau

650

650

Union fwyafrif y llywodraeth

83

75

* Mae’r Llefarydd yn A.S. sydd â’r gwaith o fod yn gyfrifol am drafodaethau a gweithgareddau Tŷ’r Cyffredin. Nid yw’r Llefarydd yn pleidleisio, felly nid yw’n cael ei gyfrif yn ffigurau’r pleidiau uchod.

Llywodraeth

house of commons

Yn y rhifyn diwethaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion, edrychon ni ar strwythur y Senedd, felly os dydych chi ddim yn siŵr beth yw’r Senedd, byddai’n werth i chi fynd yn ôl i edrych ar y rhifyn hwnnw.

Mae’r Senedd a’r Llywodraeth yn ddau beth gwahanol iawn i’w gilydd:

  • Mae gan y Senedd ddau ‘Dŷ’, sef Tŷ’r Cyffredin, lle mae’r A.S.au yn cyfarfod ac yn trafod, a Thŷ’r Arglwyddi.
  • Tŷ’r Cyffredin yw’r pwysicaf o’r ddau dŷ. Fel arfer, y blaid sydd â’r nifer fwyaf o A.S.au sy’n cael y cyfle cyntaf i ffurfio Llywodraeth. Y Llywodraeth sy’n gwneud y penderfyniadau o ddydd i ddydd. Mae penderfyniadau mawr, fel newid y ddeddf (deddfwriaeth) neu fynd i ryfel, yn cael eu trafod yn Nhŷ’r Cyffredin ac yn Nhŷ’r Arglwyddi cyn cynnal pleidlais a chyrraedd penderfyniad.

Yn 2010, roedd gan y Blaid Geidwadol y nifer fwyaf o seddau ond nid oedd ganddi’r mwyafrif angenrheidiol o seddau, felly ymunodd gyda Phlaid y Democratiaid Rhyddfrydol er mwyn sefydlu Llywodraeth Glymblaid.

  • Arweinydd y blaid sy’n ffurfio’r Llywodraeth fydd y Prif Weinidog, sydd yn gyfrifol am y Cabinet – hwn yw’r enw ar y bobl sy’n cael eu penodi i fod yn gyfrifol am adrannau gwahanol y llywodraeth.
    • Yr enw cyffredinol ar y bobl hyn yw Gweinidogion (yn swyddogol, dylid eu galw’n Ysgrifennydd Gwladol). Felly, mae’r Gweinidog (Ysgrifennydd Gwladol) Addysg yn gyfrifol am yr Adran Addysg. 
    • Mae gan yr uwch weinidogion deitlau gwahanol fel Canghellor y Trysorlys, sy’n gyfrifol am y Trysorlys ac sy’n gwneud penderfyniadau pwysig am arian yn y D.U. Ar wahân am Ganghellor y Trysorlys, y ddau brif uwch weinidog nesaf yw’r Ysgrifennydd Tramor a’r Ysgrifennydd Cartref. 

Os oes gan blaid 326 sedd yn Nhŷ’r Cyffredin, mae ganddi fwyafrif llwyr(mwy na hanner) ac mae’n gallu sefydlu llywodraeth fwyafrifol. Fodd bynnag, os nad oes gan unrhyw blaid fwyafrif, gall sawl peth gwahanol ddigwydd. Ar hyn o bryd, y blaid fwyaf yw’r Blaid Geidwadol ac mae hi wedi dod i gytundeb gyda’r drydedd blaid fwyaf, sef Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, er mwyn sefydlu llywodraeth glymblaid.

dai and nick

Ystyr hyn yw bod dwy neu dair plaid yn dod at ei gilydd er mwyn ffurfio llywodraeth. Ar hyn o bryd, mae hyn yn seiliedig ar gyfres o bolisïau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw, gan gynnwys rhannu swyddi pwysig yn y Cabinet, sef bod David Cameron, arweinydd y Blaid Geidwadol, yn dod yn Brif Weinidog a bod Nick Clegg, arweinydd Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, yn dod yn Ddirprwy Brif Weinidog.

Os na fydd grŵp o bleidiau’n gallu cytuno i weithio gyda’i gilydd mewn llywodraeth glymblaid, bydd hyn yn golygu y bydd y blaid fwyaf yn gallu ceisio ffurfio llywodraeth leiafrifol. Ystyr hyn yw ei bod yn gallu rhedeg y wlad o ddydd i ddydd ond bydd rhaid iddi hi drafod gyda’r pleidiau eraill er mwyn cael eu cefnogaeth i basio deddfau neu wneud penderfyniadau sy’n ddibynnol ar bleidleisiau. Mae’r math hwn o lywodraeth wedi bod yn eitha prin yn y Deyrnas Unedig ond mae’n gyffredin iawn mewn nifer o wledydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd (U.E.).

ed mill and leanne wood plaid cymru

Mae’r blaid fwyaf nad yw’n llywodraethu yn cael ei galw’n wrthblaid. Bydd yr wrthblaid yn penodi cabinet hefyd a’r enw arno yw cabinet yr wrthblaid. Efallai y bydd pleidiau bach eraill yn defnyddio’r un math o strwythur ond yn aml (fel ar hyn o bryd, er enghraifft) nid oes digon o aelodau ganddyn nhw er mwyn cael cabinet o A.S.au. Felly, byddan nhw’n penodi llefarydd ar ran y blaid i siarad am faterion perthnasol. O safbwynt y pleidiau sy’n gyfyngedig i Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, efallai y bydd strwythur y cabinet yn fwy cynhwysfawr oherwydd yr aelodau cynulliad – fel ym Mhlaid Cymru, er enghraifft.

Arweinwyr y pedair plaid sydd ag o leiaf un A.S. yng Nghymru ar hyn o bryd yw:

  • Ed Miliband - Llafur - 26 sedd yng Nghymru
  • David Cameron - Ceidwadwyr - 8 sedd yng Nghymru
  • Leanne Wood - Plaid Cymru - 3 sedd yng Nghymru
  • Nick Clegg - Democratiaid Rhyddfrydol - 3 sedd yng Nghymru.

Un gair y byddwch chi’n ei glywed, efallai, yw’r gair mandad; mandad llywodraeth yw awdurdod y llywodraeth i  reoli. Mae’r mandad yn seiliedig ar nifer y pleidleisiau mae plaid y llywodraeth yn eu cael. Ar hyn o bryd, mae llywodraeth glymblaid sy’n cynnwys dwy blaid. Derbyniodd y blaid fwyaf yn y llywodraeth (a’i harweinydd presennol yw’r Prif Weinidog) 36.1% o’r pleidleisiau yn 2010, sef ychydig dros draean yr holl bleidleisiau yn yr Etholiad Cyffredinol.

Cwestiwn – Trafodwch a Phenderfynwch

Ydych chi’n meddwl bod 36.1% o’r pleidleisiau yn rhoi mandad cryf? 

Efallai y gallech chi gynnal ffug-etholiad yn eich dosbarth neu eich grŵp blwyddyn, neu gallech chi rannu’ch dosbarth fel bod 36% (tua thraean) ar un ochr yr ystafell ac ychydig o dan ddau draean ar ochr arall yr ystafell. Efallai y bydd hyn yn eich helpu chi i ffurfio eich ateb.

Blwyddyn Y ganran a bleidleisiodd %
2010 65.1
2005 61.4
2001 59.4
1997 71.4
1992 77.7
1987 75.3
1983 72.7
1979 76
1974 Oct 72.8
1974 Feb 78.8
1970 72
1966 75.8
1964

77.1

1959 78.7
1955 76.8
1951 82.6
1950 83.9
1945 72.8

Yn ogystal â’r gyfran o bleidleisiau sy’n rhoi mandad, mae mater arall i’w ystyried, sef nifer y pleidleiswyr. Ystyr hyn yw cyfradd y pleidleiswyr a aeth i’r drafferth i bleidleisio. Yn  Etholiad Cyffredinol 2010, pleidleisiodd 65.1% o’r pleidleiswyr, sef ychydig o dan ddau draean. Felly, roedd gan y blaid a enillodd ac a ffurfiodd y llywodraeth tua thraean o’r ddau draean mewn gwirionedd.

Cwestiwn – Trafodwch a Phenderfynwch

Sut, yn eich barn chi, mae nifer isel o bleidleiswyr yn effeithio ar fandad y blaid sy’n ennill i  lywodraethu’r D.U.?

Trïwch yr ymarfer hwn yn eich dosbarth chi: dewiswch ddeg person (byddai’n ddigon hawdd cynyddu’r cyfraddau er mwyn defnyddio 20 neu 30 o bobl) a chymerwch dri pherson allan a’u rhoi nhw i sefyll ar un ochr yr ystafell. O’r saith person sydd ar ôl, cymerwch draean ohonyn nhw, sef dau neu dri pherson, a’u rhoi i sefyll ym mhen arall yr ystafell. Gall y pedwar neu bump sydd ar ôl aros yng nghanol yr ystafell. Rydych chi’n gallu gweld y rhai a bleidleisiodd dros y blaid sydd mewn grym nawr, faint bleidleisiodd dros rywun arall a faint wnaeth ddim pleidleisio o gwbl.

Gweithgareddau ar gyfer disgyblion

Ymchwiliad

Yn gyntaf, ceisiwch ddarllen gweddill yr adnoddau cysylltiedig a defnyddiwch daflen adnoddau’r  disgyblion er mwyn eich helpu chi i wneud yr ymchwiliad i ddaearyddiaeth Etholiad Cyffredinol 2010.  Defnyddiwch y daflen i baratoi cwestiynau i’w hateb ar ôl i ganlyniadau’r bleidlais ym mis Mai 2015 gael eu rhyddhau.

Cyflwyniad

  • Yn yr adran hon, byddwch chi’n egluro beth rydych chi’n ymchwilio iddo
  • Byddwch chi’n dewis cwestiynau y byddwch chi eisiau eu hateb.
  • Byddwch chi’n egluro gwybodaeth gefndirol bwysig.
  • Rhowch amlinelliad o gynllun yr hyn rydych chi’n bwriadu’i wneud a pha ddata y byddwch chi’n casglu.

Canlyniadau

  •  Rhowch y data mewn tablau.
  •  Troswch y data i ffurfiau sy’n haws i’w dehongli:
    •  Defnyddiwch graffiau.
    •  Symlhewch y data i bethau fel rhifau wedi’u talgrynnu neu gymedr cynrychioladol.

Dadansoddiad

  • Dangoswch sut mae eich canlyniadau’n ateb cwestiynau eich ymholiad:
    • Anodwch graffiau a diagramau.
    • Lluniwch baragraffau.

Casgliadau

  • Beth ydych chi wedi’i ddarganfod am bob un o gwestiynau eich ymholiad? Beth yw’r ateb? 

Methodoleg

  • Yn aml, mae’r Fethodoleg yn dilyn y Cyflwyniad gan eich bod chi’n egluro beth rydych chi’n mynd i’w wneud. Yn yr ymchwiliad hwn, rydyn ni’n mynd i roi’r Fethodoleg o flaen y Gwerthusiad fel ein bod ni’n gallu datblygu ein sgiliau gwerthuso yn well ar gyfer y dyfodol.
  • Byddwch chi’n egluro sut gwnaethoch chi gasglu eich data a byddwch chi’n cyfiawnhau eich dewisiadau.
  • Byddwch chi’n egluro sut rydych chi wedi cynrychioli eich data a byddwch chi’n cyfiawnhau eich dewisiadau.

Gwerthuso

  • Gwerthuswch eich proses (sut gwnaethoch chi eich ymchwiliadau (y dulliau)). Beth oedd yn llwyddiannus? Beth aeth o’i le? Beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol y tro nesaf?
  • Gwerthuswch eich ffynonellau (eich gwybodaeth a’ch data). Pa rai oedd yn ddibynadwy a pham? Pa rai allai fod yn rhagfarnllyd a pham?
  • Gwerthuswch eich canlyniadau (eich casgliadau). Beth sy’n ddibynadwy a pham? Pa rai allai fod yn anghywir neu’n wallus a pham?
  • Lluniwch ragor o gwestiynau ar gyfer ymchwiliad yn y dyfodol a fydd yn seiliedig ar eich canfyddiadau; mae hyn yn arbennig o bwysig er mwyn darganfod a allai eich rhagfynegiadau fod yn gywir ar ôl yr etholiad.
Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Pleidiau gwleidyddol a’r etholiad cyffredinol

Pleidiau gwleidyddol a’r etholiad cyffredinol

Dosbarthiad Daearyddol o Seddi yn 2010

Dosbarthiad Daearyddol o Seddi yn 2010