26

2015 – Etholiad Cyffredinol y D.U.

Trefnwch eich hunain yn 4 grŵp ar sail pa un o’r canlynol y byddech chi’n pleidleisio drosto/drosti.

ed miliband

Ed Miliband

Y Blaid Lafur
David cameron

David Cameron

Y Blaid Geidwadol
Leanne Wood

Leanne Wood

Plaid Cymru
Nick clegg

Nick Clegg

Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol

2015 – Etholiad Cyffredinol y D.U.

Rydyn ni’n gwybod mai’r eitem fwyaf yn y newyddion yn ystod 2015 fydd yr Etholiad Cyffredinol. Rydyn ni’n gwybod mai ar 7fed Mai, 2015 y bydd yr Etholiad Cyffredinol nesaf yn cael ei gynnal oni bai bod y Senedd yn pasio pleidlais arbennig.

Ers 2011, mae deddf yn rhwystro Prif Weinidog rhag galw Etholiad Cyffredinol heb gynnal pleidlais arbennig yn gyntaf. Cyn y ddeddf newydd yn 2011, roedd unrhyw Brif Weinidog yn gallu cyhoeddi etholiad unrhyw bryd. Roedd hyn yn golygu fod llywodraeth a oedd yn boblogaidd unrhyw bryd yn ystod y tymor seneddol yn gallu cyhoeddi etholiad yn gynnar.

Felly, gallai llywodraeth fanteisio ar ddigwyddiad arbennig, fel ennill rhyfel neu gael llwyddiant yn y Gemau Olympaidd neu Gwpan y Byd pêl-droed. Erbyn hyn, os yw llywodraeth eisiau cynnal etholiad cynnar, rhaid cael mwyafrif, sef 55% o A.S.au yn pleidleisio dros wneud hyn.

Daearyddiaeth yn y Newyddion a Rhagfarn

welsh government cardiff bay

Mae rheolau llym yn bodoli ynglŷn â llywodraethau’n defnyddio arian y cyhoedd er mwyn ymgyrchu ar gyfer etholiad ac felly rhaid dewis y geiriau yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion yn ofalus.

Llywodraeth Cymru sy’n talu am Daearyddiaeth yn y Newyddion ac felly byddai’n anghyfreithlon i unrhyw agwedd ar yr erthyglau hyn ffafrio unrhyw ymgeiswyr neu blaid – bach neu fawr.

Mae mwyafrif y papurau newydd a nifer o sianeli teledu yn perthyn i unigolion preifat a byddan nhw’n cyhoeddi gwybodaeth sy’n cefnogi’r blaid wleidyddol y mae’r perchnogion yn eu ffafrio; mae’n bwysig iawn edrych ar wybodaeth o’r fath sy’n ymddangos yn y newyddion a’i dadansoddi o safbwynt rhagfarn.

Yn y rhifyn diwethaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion, edrychon ni ar y senedd a’r etholaethau seneddol ac ar y ffaith fod y llywodraeth bresennol eisiau newid nifer yr etholaethau seneddol o 650 i 600.  Ni lwyddodd y llywodraeth i gael y ddeddf drwy’r senedd mewn pryd. Mae hyn yn bwysig oherwydd mae’n eithaf cyffredin i lywodraeth newydd newid ffiniau neu nifer yr etholaethau er mwyn gwneud pethau’n decach o’i safbwynt hi.

uk election map

Roedd y llywodraeth bresennol eisiau newid 650 o etholaethau – gyda phob un yn cynrychioli nifer wahanol o bleidleiswyr – yn 600 o etholaethau a fyddai’n cynnwys tua’r un nifer o bleidleiswyr.

Byddai hyn wedi lleihau nifer A.S.au Cymru o 40 i 18.

Mae pob etholaeth seneddol yn ethol un Aelod Seneddol (A.S.). Mae hyn yn cael ei wneud drwy’r system ‘y cyntaf i’r felin’: 

  • Cydweddiad yw'r ymadrodd hwn (ystyr cydweddiad yw ysgrifennu neu ddweud rhywbeth sy’n cymharu dau beth gwahanol, sef etholiad a melin yn yr enghraifft hon).
  • Y syniad y tu ôl i hyn yw helpu pobl i ddeall un peth (yr etholiad) drwy ei gymharu gyda rhywbeth arall mae pobl yn ei ddeall (sef y ddihareb Gymraeg, ‘Y cyntaf i’r felin gaiff falu’). Yn syml, yr ystyr yw mai’r ymgeisydd sy’n cael y nifer fwyaf o bleidleisiau mewn etholaeth sy’n dod yn A.S.

Tabl o A.S.au 2010 a’r A.S.au presennol

Plaid

Ar ôl Etholiad Cyffredinol  2010

Ar hyn o bryd

Ceidwadol

306

303

Llafur

258

257

Democratiaid Rhyddfrydol

57

56

D.U.P.

8

8

S.N.P

6

6

Sinn Féin

5

5

Annibynnol

1

3

Plaid Cymru

3

3

S.D.L.P.

3

3

U.K.I.P.

0

2

Y Gynghrair

1

1

Y Blaid Werdd

1

1

Respect

0

1

Y Llefarydd*

1

1

Cyfanswm nifer y seddau

650

650

Union fwyafrif y llywodraeth

83

75

* Mae’r Llefarydd yn A.S. sydd â’r gwaith o fod yn gyfrifol am drafodaethau a gweithgareddau Tŷ’r Cyffredin. Nid yw’r Llefarydd yn pleidleisio, felly nid yw’n cael ei gyfrif yn ffigurau’r pleidiau uchod.

Llywodraeth

house of commons

Yn y rhifyn diwethaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion, edrychon ni’n fanwl ar strwythur y Senedd, felly os nad ydych chi’n siŵr beth yw’r Senedd, byddai’n werth i chi fynd yn ôl i edrych ar y rhifyn hwnnw.

Mae’r Senedd a’r Llywodraeth yn ddau beth gwahanol iawn i’w gilydd: 

  • Mae gan y Senedd ddau ‘Dŷ’, sef Tŷ’r Cyffredin, lle mae’r A.S.au yn cyfarfod ac yn trafod, a Thŷ’r Arglwyddi.
  • Tŷ’r Cyffredin yw’r pwysicaf o’r ddau dŷ. Fel arfer, y blaid sydd â’r nifer fwyaf o A.S.au sy’n cael y cyfle cyntaf i ffurfio Llywodraeth. Y Llywodraeth sy’n gwneud yr holl benderfyniadau o ddydd i ddydd. Mae penderfyniadau mawr, fel newid y ddeddf (deddfwriaeth) neu fynd i ryfel, yn cael eu trafod yn Nhŷ’r Cyffredin ac yn Nhŷ’r Arglwyddi cyn cynnal pleidlais a chyrraedd penderfyniad.

Yn 2010, gan y Blaid Geidwadol yr oedd y nifer fwyafrif o seddau ond nid oedd ganddi’r mwyafrif angenrheidiol o seddau, felly ymunodd gyda Phlaid y Democratiaid Rhyddfrydol er mwyn sefydlu Llywodraeth Glymblaid

  • Bydd arweinydd y blaid sy’n ffurfio’r Llywodraeth yn Brif Weinidog a bydd yn gyfrifol am y Cabinet – dyma’r enw ar y bobl sy’n cael eu penodi i fod yn gyfrifol am adrannau gwahanol y llywodraeth.
    • Yr enw cyffredinol ar y bobl hyn yw Gweinidogion (yn swyddogol, dylid eu galw’n Ysgrifennydd Gwladol). Felly, mae’r Gweinidog (Ysgrifennydd Gwladol) Addysg yn gyfrifol am yr Adran Addysg.
    • Mae gan yr uwch weinidogion deitlau gwahanol, e.e. Canghellor y Trysorlys, sy’n gyfrifol am y Trysorlys ac sy’n gwneud penderfyniadau pwysig am arian yn y D.U. Ar wahân am Ganghellor y Trysorlys, y ddau brif uwch weinidog nesaf yw’r Ysgrifennydd Tramor a’r Ysgrifennydd Cartref.

Os oes gan blaid 326 sedd yn Nhŷ’r Cyffredin, mae ganddi fwyafrif llwyr(mwy na hanner) ac mae’n gallu sefydlu llywodraeth fwyafrifol. Fodd bynnag, os nad oes gan unrhyw blaid fwyafrif, gall sawl peth gwahanol ddigwydd. Ar hyn o bryd, y blaid fwyaf yw’r Blaid Geidwadol ac mae hi wedi dod i gytundeb gyda’r drydedd blaid fwyaf, sef Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, er mwyn sefydlu llywodraeth glymblaid.

dai and nick

Ystyr hyn yw bod dwy neu dair plaid yn dod at ei gilydd er mwyn ffurfio llywodraeth.  Ar hyn o bryd, mae hyn yn seiliedig ar gyfres o bolisïau maen nhw wedi cytuno arnyn nhw ymlaen llaw, gan gynnwys rhannu swyddi pwysig yn y Cabinet, sef bod David Cameron, arweinydd y Blaid Geidwadol, yn dod yn Brif Weinidog a bod Nick Clegg, arweinydd Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, yn dod yn Ddirprwy Brif Weinidog.

Os na fydd grŵp o bleidiau’n gallu cytuno i weithio gyda’i gilydd mewn llywodraeth glymblaid, bydd hyn yn golygu y bydd y blaid fwyaf yn gallu ceisio ffurfio llywodraeth leiafrifol. Ystyr hyn yw eu bod hi’n gallu rhedeg y wlad o ddydd i ddydd ond bydd rhaid iddi gael cefnogaeth ychwanegol er mwyn pasio deddfau neu wneud penderfyniadau sy’n dibynnu ar bleidleisiau. Mae’r math hwn o lywodraeth yn eithaf prin yn y Deyrnas Unedig ond mae’n gyffredin iawn mewn nifer o gwledydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd (U.E.).

ed mill and leanne wood plaid cymru

Mae’r blaid fwyaf sydd ddim yn llywodraethu yn cael ei galw’n wrthblaid. Bydd yr wrthblaid yn penodi cabinet hefyd a’r enw arno yw cabinet yr wrthblaid. Efallai na fydd gan y pleidiau bach eraill ddigon o aelodau seneddol felly, yn aml, byddan nhw’n penodi llefarydd ar ran y blaid i siarad am faterion perthnasol. O safbwynt y pleidiau sydd yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn unig, efallai y bydd ganddyn nhw strwythur cabinet sy’n cynnwys aelodau cynulliad - fel ym Mhlaid Cymru yng Nghymru.

Arweinwyr y pedair plaid sydd ag o leiaf un A.S. yng Nghymru ar hyn o bryd yw:

  • Ed Miliband - Llafur - 26 sedd yng Nghymru
  • David Cameron - Ceidwadwyr - 8 sedd yng Nghymru
  • Leanne Wood - Plaid Cymru - 3 sedd yng Nghymru
  • Nick Clegg - Democratiaid Rhyddfrydol - 3 sedd yng Nghymru.

Un gair y byddwch chi’n ei glywed, efallai, yw’r gair mandad; mandad llywodraeth yw awdurdod y llywodraeth i  reoli. Mae’r mandad yn seiliedig ar nifer y pleidleisiau mae plaid y llywodraeth yn eu  cael. Ar hyn o bryd, mae llywodraeth glymblaid sy’n cynnwys dwy blaid. Derbyniodd y blaid fwyaf yn y llywodraeth (a’i harweinydd presennol yw’r Prif Weinidog) 36.1% o’r pleidleisiau yn 2010, sef ychydig dros draean yr holl bleidleisiau yn yr Etholiad Cyffredinol.

Cwestiwn – Trafodwch a Phenderfynwch

Ydych chi’n meddwl bod 36.1% o’r pleidleisiau yn rhoi mandad cryf? 

Efallai y gallech chi gynnal ffug-etholiad yn eich dosbarth neu eich grŵp blwyddyn, neu gallech chi rannu’ch dosbarth fel bod 36% (tua thraean) ar un ochr yr ystafell ac ychydig o dan ddau draean ar ochr arall yr ystafell. Efallai y bydd hyn yn eich helpu chi i baratoi eich ateb.

Blwyddyn Y ganran a bleidleisiodd %
2010 65.1
2005 61.4
2001 59.4
1997 71.4
1992 77.7
1987 75.3
1983 72.7
1979 76
1974 Oct 72.8
1974 Feb 78.8
1970 72
1966 75.8
1964

77.1

1959 78.7
1955 76.8
1951 82.6
1950 83.9
1945 72.8

Yn ogystal â’r gyfran o bleidleisiau sy’n rhoi mandad, mae mater arall i’w ystyried, sef nifer y pleidleiswyr. Ystyr hyn yw cyfradd y pleidleiswyr a aeth i’r drafferth i bleidleisio. Yn  Etholiad Cyffredinol 2010, pleidleisiodd 65.1% o’r pleidleiswyr, sef ychydig o dan ddau draean. Felly, mewn gwirionedd, roedd gan y blaid a enillodd ac a ffurfiodd y llywodraeth tua thraean o’r ddau draean.

Cwestiwn – Trafodwch a Phenderfynwch

Yn eich barn chi, sut mae nifer isel o bleidleiswyr yn effeithio ar fandad y blaid sy’n ennill ac yn llywodraethu’r D.U.?

Trïwch yr ymarfer hwn yn eich dosbarth chi: dewiswch ddeg person (byddai’n ddigon hawdd cynyddu’r cyfraddau er mwyn defnyddio 20 neu 30 o bobl) a chymerwch dri pherson allan a’u rhoi nhw i sefyll ar un ochr yr ystafell. O’r saith person sydd ar ôl, cymerwch draean ohonyn nhw, sef dau neu dri pherson, a’u rhoi nhw i sefyll ym mhen arall yr ystafell. Gall y pedwar neu bump sydd ar ôl aros yng nghanol yr ystafell. Rydych chi’n gallu gweld y rhai a bleidleisiodd dros y blaid sydd mewn grym nawr, faint bleidleisiodd dros rywun arall a faint wnaeth ddim pleidleisio o gwbl.

Gweithgareddau ar gyfer disgyblion

Ymchwiliad

Yn gyntaf, ceisiwch ddarllen gweddill yr adnoddau cysylltiedig a defnyddiwch daflen adnoddau’r  disgyblion er mwyn eich helpu chi i wneud yr ymchwiliad i ddaearyddiaeth Etholiad Cyffredinol 2010.  Defnyddiwch y daflen er mwyn paratoi cwestiynau y gallwch chi eu hateb ar ôl i ganlyniadau’r bleidlais ym mis Mai 2015 gael eu rhyddhau.

Cyflwyniad

  • Yn yr adran hon, byddwch chi’n egluro beth rydych chi’n ymchwilio iddo.
  • Byddwch chi’n dewis cwestiynau y byddwch chi eisiau eu hateb.
  • Byddwch chi’n egluro gwybodaeth gefndirol bwysig.
  • Byddwch chi’n rhoi amlinelliad o gynllun yr hyn rydych chi’n bwriadu’i wneud a pha ddata y byddwch chi’n casglu.

Canlyniadau

  • Rhowch y data mewn tablau.
  • Troswch y data i ffurfiau sy’n haws i’w dehongli:
    • Defnyddiwch graffiau
    • Symlhewch y data i bethau fel rhifau wedi’u talgrynnu neu gymedr cynrychioladol

Dadansoddiad

  • Dangoswch sut mae eich canlyniadau’n ateb cwestiynau eich ymholiad:
    • Anodwch graffiau a diagramau
    • Lluniwch baragraffau 

Casgliadau

  • Beth ydych chi wedi’i ddarganfod am bob un o gwestiynau eich ymholiad? Beth yw’r ateb?

Methodoleg

  • Yn aml, mae’r Fethodoleg yn dilyn y Cyflwyniad gan eich bod chi’n egluro beth rydych chi’n mynd i’w wneud. Yn yr ymchwiliad hwn, rydyn ni’n mynd i roi’r Fethodoleg o flaen y Gwerthusiad fel ein bod ni’n gallu datblygu ein sgiliau dadansoddi’n well ar gyfer y dyfodol.
  • Byddwch chi’n egluro sut gwnaethoch chi gasglu eich data a byddwch chi’n cyfiawnhau eich dewisiadau.
  • Byddwch chi’n egluro sut rydych chi wedi cynrychioli eich data a byddwch chi’n cyfiawnhau eich dewisiadau.

Gwerthuso

  • Gwerthuswch eich proses (sut gwnaethoch chi eich ymchwiliadau (y dulliau)) - Beth oedd yn llwyddiannus? Beth aeth o’i le? Beth fyddech chi’n wneud yn wahanol y tro nesaf?
  • Gwerthuswch eich ffynonellau (eich gwybodaeth a’ch data). Pa rai oedd yn ddibynadwy a pham? Pa rai allai fod yn rhagfarnllyd a pham?
  • Gwerthuswch eich canlyniadau (eich casgliadau). Beth sy’n ddibynadwy a pham? Pa rai allai fod yn anghywir neu’n wallus a pham?
  • Paratowch ragor o gwestiynau ar gyfer ymchwiliad yn y dyfodol a fydd yn seiliedig ar eich canfyddiadau; mae hyn yn arbennig o bwysig er mwyn darganfod a allai eich rhagfynegiadau fod yn gywir ar ôl yr etholiad.
Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Pleidiau gwleidyddol a’r etholiad cyffredinol

Pleidiau gwleidyddol a’r etholiad cyffredinol

Dosbarthiad Daearyddol o Seddi yn 2010

Dosbarthiad Daearyddol o Seddi yn 2010