Pleidiau Gwleidyddol
Mae’r pleidiau gwleidyddol yn cael eu rhestru isod yn ôl nifer yr A.S.au sydd ganddyn nhw yn y Senedd ar hyn o bryd. Mae nifer o bleidiau eraill hefyd; nid yw’r rhain yn cael eu cynnwys ond mae’n ddigon hawdd ymchwilio iddyn nhw. Mae A.S.au Annibynnol yn A.S.au sydd ddim yn aelodau o blaid wleidyddol.
Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ceisio deall y gwahanol bleidiau gwleidyddol, ond fel y dywedwyd yn y brif erthygl, mae yna reolau llym gan fod Daearyddiaeth yn y Newyddion yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, felly allwn ni ddim sôn am bolisïau penodol. Y prif ffyrdd o ddeall y pleidiau yw:
Agwedd pleidiau tuag at economeg, trethi a gwasanaethau cyhoeddus
Yn aml iawn, byddwch chi’n clywed y pleidiau’n cael eu disgrifio fel rhai ar y chwith neu ar y dde; disgrifiad o’r ffordd mae plaid yn ystyried arian (economeg) y wlad yw hyn. Dychmygwch linell; ar y chwith i’r llinell mae syniadau sy’n cael eu galw’n sosialaeth; ar y dde i’r llinell mae syniadau sy’n cael eu galw’n gyfalafiaeth. Weithiau, mae llinell fel hon yn cael ei disgrifio fel continwwm– efallai bod gwahaniaeth mawr rhwng dau ben y llinell ond nid oes gwahaniaethau mawr ar hyd y llinell. Yn hytrach, mae’r naill yn ymdoddi i’r llall.
Mae’r tair plaid wleidyddol fwyaf (ar hyn o bryd) yn cael eu diffinio’n bennaf gan eu lleoliad ar hyd y llinell hon; a bod yn deg, maen nhw i gyd yn weddol agos at ganol y llinell ac nid oes un ohonyn nhw’n rhy eithafol. Rhaid i ni ddeall ystyr y termau hyn yn well er mwyn deall hyn i gyd.
Mae sosialaeth yn ymdrin ag economeg y wlad drwy geisio rhannu cyfoeth o fewn y wlad; mae’n seiliedig ar berchnogaeth gymdeithasol. Mewn geiriau eraill, mae pethau’n perthyn i bawb yn hytrach nag i unigolion. Mae’n tueddu i godi trethi uwch fel bod pobl sydd â mwy o arian yn rhoi mwy o arian i’r llywodraeth ac mae’r llywodraeth yn gallu defnyddio’r arian hwn er mwyn darparu mwy o wasanaethau cyhoeddus a’r rheiny’n wasanaethau gwell. Mae’r rhain o fudd i bobl dlawd fel arfer. Hefyd, mae llywodraethau sosialaidd yn ceisio rheoli’r economi (economi reoledig) gyda llawer o reolau er mwyn gwneud pethau’n decach. Yn y gorffennol, roedd llywodraethau sosialaidd yn cymryd busnesau mawr neu rai pwysig oddi ar berchenogion preifat ac yn eu rhoi dan berchnogaeth y wlad - proses sy’n cael ei alw’n wladoli. Daeth sosialaeth a phleidiau sosialaidd yn rym gwleidyddol pwysig tua dechrau’r 20fed ganrif; cafodd ei dechrau gan weithwyr tlawd yn bennaf - daeth y gweithwyr at ei gilydd i ffurfio undebau llafur er mwyn ceisio rhwystro perchnogion cyfoethog y lleoedd lle roedden nhw’n gweithio rhag eu hecsploetio nhw. Pan fydd llywodraeth yn ceisio cymryd perchnogaeth dros bopeth ac yna’i rannu’n deg rhwng y bobl, yr enw ar hyn yw sosialaeth eithafol; lle mae hyn wedi digwydd yn y gorffennol, mae’r cynllun wedi methu yn y pen draw.
Nid yw unrhyw un o’n prif bleidiau gwleidyddol yn bell o dir canol y llinell; byddai’r Blaid Lafur yn cael ei disgrifio i’r chwith o’r canol a’r Blaid Geidwadol i’r dde o’r canol. Yn draddodiadol, mae Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol yn cael ei hystyried rhwng y ddwy blaid fawr hyn.
Mae’r tair plaid fwyaf (y Blaid Geidwadol, y Blaid Lafur a Phlaid y Democratiaid Rhyddfrydol) yn bleidiau unoliaethol; ystyr hyn yw eu bod nhw eisiau cadw’r pedair gwlad o fewn y Deyrnas Unedig. Roedd hyn i’w weld yn glir yn ystod 2014 pan ymgyrchodd y tair plaid gyda’i gilydd dros bleidlais ‘Na’ yn Refferendwm Annibyniaeth yr Alban. Fodd bynnag, mae sawl plaid wleidyddol arall yn cael ei diffinio ar sail ei barn am yr Undeb.
Pleidiau unoliaethol (lle mae undeboliaeth yn cael ei weld fel prif ffocws y blaid) - mae’r rhain yng Ngogledd Iwerddon; prif ffocws y pleidiau hyn yw cadw Gogledd Iwerddon o fewn y Deyrnas Unedig.
Mae’r rhain yn ymgyrchu dros wneud Gogledd Iwerddon yn rhan o Weriniaeth Iwerddon. Mae rhai grwpiau gweriniaethol bach eraill yn y Deyrnas Unedig sydd eisiau pennaeth etholedig ar y wladwriaeth yn hytrach na’r frenhines; fodd bynnag, nid yw’r rhain yn rym gwleidyddol cryf.
Yn draddodiadol, mae’r rhain yn bwysig yn yr Alban ac yng Nghymru; cafodd y refferendwm diweddar ar annibyniaeth yr Alban ei gynnal oherwydd pwysau gan y cenedlaetholwyr yn yr Alban. Yng Nghymru, mae mwyafrif y cenedlaetholwyr yn ymarferol, ychydig iawn ohonyn nhw sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth. Yn lle hynny, maen nhw’n galw am fwy o ddatganoli, am gael mwy wedi’i wneud i ddiogelu’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru ac am fwy o gefnogaeth i’r rhain.
Un tueddiad diweddar yw cynnydd mewn math newydd o Genedlaetholwyr Prydeinig - pobl sydd eisiau cael uniad cryf o fewn y Deyrnas Unedig ond sydd eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r rhain yn ymgyrchu ar fater penodol fel yr amgylchedd neu weithio gyda’n gilydd a gwella rhaniadau’r gorffennol yng Ngogledd Iwerddon.
mae’r rhain yn ymgyrchu dros bolisïau sydd, yn aml iawn, yn amhoblogaidd neu hyd yn oed yn anghyfreithlon. Efallai y bydd rhai’n cyflwyno syniadau hiliol neu’n hyrwyddo anoddefgarwch, casineb neu hyd yn oed drais terfysgol. Efallai bod rhai pleidiau eithafol ar ben eithaf y continwwm Sosialaeth i Gyfalafiaeth.
Mae’n bwysig iawn nad yw’r rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion yn cyflwyno polisïau neu syniadau plaid benodol. Yr enw ar y rhain fel arfer yw maniffesto plaid ac maen nhw ar gael ar wefannau pleidiau os ydych chi’n dymuno ymchwilio iddyn nhw. Fodd bynnag, mae’n bosib cael darlun o blaid drwy ystyried ei lleoliad ar y llinell rhwng sosialaeth a chyfalafiaeth yn ogystal ag ar sail ei safiad ar undeboliaeth/genedlaetholdeb yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae'r Blaid Geidwadol yn blaid unoliaethol i’r dde o’r canol. Mae rhagor o wybodaeth am ei maniffesto etholiadol ar www.conservatives.com.
Mae'r Blaid Lafur yn blaid unoliaethol i’r chwith o’r canol. Mae rhagor o wybodaeth am ei maniffesto etholiadol ar www.labour.org.uk.
Mae Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol yn y canol (ac yn dweud ei bod hi rhwng y Blaid Lafur a’r Blaid Geidwadol). Mae hi hefyd yn blaid unoliaethol. Mae rhagor o wybodaeth am ei maniffesto etholiadol ar www.libdems.org.uk.
Mae Plaid y Democratiaid Unoliaethol (y Democratic Unionist Party) yn blaid yng Ngogledd Iwerddon sydd i’r dde o’r canol. Mae rhagor o wybodaeth am ei maniffesto etholiadol ar www.mydup.com.
Mae Plaid Genedlaethol yr Alban (y Scottish Nationalist Party) yn blaid genedlaetholgar yn yr Alban sydd i’r chwith o’r canol. Mae rhagor o wybodaeth am ei maniffesto etholiadol ar www.snp.org.
Mae Sinn Féin yn blaid weriniaethol yng Ngogledd Iwerddon sydd i’r chwith o’r canol. Mae rhagor o wybodaeth am ei maniffesto etholiadol ar www.sinnfein.ie.
Mae Plaid Cymru’n blaid genedlaetholgar yng Nghymru sydd i’r chwith o’r canol. Mae rhagor o wybodaeth am ei maniffesto etholiadol ar www.partyof.wales.
Mae’r Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol a'r Blaid Lafur (Social Democratic and Labour Party) yn blaid weriniaethol yng Ngogledd Iwerddon sydd i’r chwith o’r canol. Mae rhagor o wybodaeth am ei maniffesto etholiadol ar www.sdlp.ie.
Mae Plaid Annibynnol y Deyrnas Unedig (United Kingdom Independence Party) yn blaid unoliaethol i’r dde o’r canol ond mae ganddi elfen genedlaetholgar sy’n ymgyrchu dros gael y D.U. i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae rhagor o wybodaeth am ei maniffesto etholiadol ar www.ukip.org.
Mae’r Blaid Werdd yn blaid sydd i’r chwith o’r canol ac mae ganddi ffocws cryf ar faterion amgylcheddol. Mae rhagor o wybodaeth am ei maniffesto etholiadol ar www.greenparty.org.uk.
Mae plaid Respect yn fwy i’r chwith i gyfeiriad sosialaeth na’r Blaid Lafur ac mae’n ymgyrchu yn erbyn gwrthdaro rhyngwladol a rhyfeloedd. Mae rhagor o wybodaeth am ei maniffesto etholiadol ar www.respectparty.org.
Yn naturiol, nid yw ymgeiswyr annibynnol yn perthyn i unrhyw blaid ond os ydych chi’n dymuno cael rhagor o wybodaeth am ymgeisydd annibynnol, gallwch chi ddefnyddio porwr ar y rhyngrwyd i chwilio amdano/amdani ac mae’n siŵr y byddwch yn dod o hyd i wefan a fydd yn cynnwys y maniffesto etholiadol.
Mae llawer o bleidiau eraill yng ngwleidyddiaeth y D.U. Fodd bynnag, rydyn ni wedi cyfyngu’r dolenni hyn i’r pleidiau sydd ag o leiaf un A.S. a'r hyn o bryd.
Sganiwch y wybodaeth sydd yn yr erthygl hon ac ymchwiliwch i faniffestos y prif bleidiau gwahanol a fydd yn sefyll yn yr etholiad yng Nghymru.
Rhannwch y pleidiau i gategorïau ‘Ie’, ‘Na’ ac ‘Efallai’. Nodwch ar gyfer pob un pam maen nhw’n ‘Ie’, ‘Na’ neu ‘Efallai’. Byddai map meddwl yn ffordd dda o drefnu hyn ac mae system goleuadau traffig yn syniad da hefyd – coch ar gyfer ‘Na’ a phethau drwg, gwyrdd ar gyfer ‘Ie’ a phethau da a Melyn/Oren ar gyfer ‘Efallai’, sy’n gallu cynnwys nodweddion da a drwg.