26

Dosbarthiad Daearyddol o Seddi yn 2010

Edrychwch ar y map hwn o ganlyniadau etholiad 2010. Mae’n hawdd gweld patrymau amlwg. Mae’r ardaloedd sy’n las yn bennaf (y Ceidwadwyr) wedi cael eu grwpio gyda’i gilydd ar draws rhannau helaeth o Loegr. Mae’r ardaloedd coch (Llafur) wedi cael eu grwpio yn yr ardaloedd a oedd yn arfer bod yn ardaloedd diwydiannol yn ogystal â llawer o etholaethau trefol. Mae’r pleidiau eraill wedi cael eu gwasgaru, er enghraifft, melyn tywyll y Democratiaid Rhyddfrydol a melyn llachar yr S.N.P. yn yr Alban, a’r gwyrdd ar gyfer Plaid Cymru yng Nghymru. Yng Ngogledd Iwerddon, mae gwahaniaeth amlwg rhwng  y pleidiau gweriniaethol gwyrdd a’r pleidiau unoliaethol brown.

undefined

Yn y rhifyn diwethaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion, edrychon ni ar agweddau ar ddaearyddiaeth ddynol; mae demograffeg, neu astudiaeth o’r boblogaeth, yn rhan allweddol o ddaearyddiaeth ddynol. Pan fyddwn ni’n astudio poblogaeth, rydyn ni’n gallu edrych ar ddwysedd y boblogaeth, sef nifer y bobl sy’n byw ar ddarn o dir. Mae dwysedd  y boblogaeth yn cael ei gyfrifo drwy rannu cyfanswm y boblogaeth gyda chyfanswm yr arwynebedd er mwyn rhoi gwerth am bob km2.

undefined

 

 

 

 

Mae’n bosib disgrifio ardal fel un drwchus ei phoblogaeth neu un denau ei phoblogaeth. Mae modd dangos dwysedd poblogaeth yn weledol drwy ddefnyddio map graddliwiau dwysedd. Mae’r map dwysedd poblogaeth hwn yn dangos bod rhai ardaloedd yn llawer mwy dwys eu poblogaeth nag ardaloedd eraill. Yng Nghymru, gallwch chi weld bod rhannau o Gymoedd De Cymru yn ogystal ag ardal yng Ngogledd-ddwyrain Cymru yn ddwys eu poblogaeth. Mae rhannau helaeth o Ganolbarth, Gorllewin a Gogledd Cymru’n denau eu poblogaeth. Fel arfer, mae poblogaeth ddwys mewn ardaloedd trefol ond mae ardaloedd gwledig yn denau eu poblogaeth.

Roedd yr ardaloedd sydd â’r dwysedd mwyaf yn dueddol o bleidleisio dros y Blaid Lafur. Mewn ardaloedd yn Lloegr sydd â dwysedd poblogaeth is, cafodd mwy o A.S.au Ceidwadol eu hethol. Yn yr Alban ac yng Nghymru, roedd yr ardaloedd a oedd â dwysedd poblogaeth is yn tueddu i bleidleisio naill ai dros y Democratiaid Rhyddfrydol neu dros bleidiau cenedlaetholgar fel Plaid Cymru. Yng Ngogledd Iwerddon, roedd yr ardaloedd yn y Gogledd-ddwyrain sydd â dwysedd poblogaeth uwch, yn dueddol o bleidleisio dros bleidiau unoliaethol. Yn yr ardaloedd ger y ffin â Gweriniaeth Iwerddon, mae dwysedd y boblogaeth yn is ac enillodd y pleidiau gweriniaethol fwy o seddau.

Dyma fap graddliwiau o ddwysedd sy’n dangos Cynnyrch Domestig Gros y pen. Mae’r Cynnyrch Domestig Gros yn un mesur o faint o arian sy’n cael ei ennill mewn lle neu wlad bob blwyddyn. Ystyr ‘y pen’ yw ‘am bob person’.

undefined

 

 

 

 

Trafodaeth

Allwch chi weld unrhyw batrymau daearyddol tebyg rhwng y map o Gynnyrch Domestig Gros y D.U. a’r map sy’n dangos dosbarthiad y seddau ar ôl Etholiad Cyffredinol 2010?

Er bod pob sedd etholaethol yn gyfartal, mae rhai’n llawer pwysicach na’r lleill o safbwynt penderfynu pa blaid neu bleidiau fydd yn sefydlu’r llywodraeth nesaf. Mae rhai seddau’n cael eu disgrifio fel ‘seddau diogel’. Ystyr hyn yw bod un blaid mor gryf yn yr etholaeth honno fel y byddai bron yn amhosibl i’w hymgeisydd golli i un o’r pleidiau eraill. Yn aml, mae seddau diogel yn ddaearyddol iawn. Mae nifer o ardaloedd a oedd yn arfer bod yn rhai diwydiannol, fel Cymoedd De Cymru, er enghraifft, yn ardaloedd lle mae’r Blaid Lafur yn gryf iawn yn aml iawn ac mae nifer o ardaloedd mwy cyfoethog De Lloegr lle mae’r Blaid Geidwadol yn gryf iawn. Fodd bynnag, mae rhai seddau’n cael eu disgrifio fel seddau etholaethol ymylol, sef etholaethau lle nad oes un blaid yn gryfach o lawer nag un arall.

undefined

Copyright © 2015 BBC

O’r 650 o seddau, mae gan 194 ohonyn nhw fwyafrif o 10% o’r bobl a bleidleisiodd. Y seddau ymylol hyn fydd yn penderfynu pa lywodraeth fydd mewn grym y tro nesaf yn y D.U. Nid yw’r seddau ymylol wedi cael eu dosbarthu’n gyfartal: yn Lloegr, mae gan 15% o’r seddau yn y De-ddwyrain fwyafrif o 10% neu lai o’i gymharu â 51% yn y De-orllewin. Yn yr Alban, mae 19% o’r holl seddau’n dod o fewn y categori hwn o’i gymharu â 45% yng Nghymru. Bydd brwydr bwysig iawn yn digwydd yng Nghymru, yn enwedig o safbwynt y Blaid Lafur, sydd ag 11 o seddau ymylol ar hyn o bryd.

Plaid

% o'r bleidlais

Seddau

Ceidwadol

36.1

47.1

Llafur

29

39.7

Democratiaid Rhyddfrdol

23

8.8

Eraill

11.9

4.4

Gallwn ni gymryd y syniad nad yw pob sedd yr un mor bwysig â’i gilydd ychydig ymhellach drwy edrych ar ein democratiaeth a’r syniad o ‘un person – un bleidlais’ a  gofyn, “A ydy pob pleidlais yn gyfartal?” Edrychwch ar y tabl  hwn: ydy e’n edrych yn deg i chi? Dyma’r math o batrwm sy’n bodoli gyda’r system ‘y cyntaf i’r felin’. Cafodd y Blaid Lafur a Phlaid y Democratiaid Rhyddfrydol ganran tebyg o’r pleidleisiau ond cafodd y Blaid Lafur dros bedair gwaith yn fwy o seddau. Mae llawer o wledydd eraill yn defnyddio system o’r enw Cynrychiolaeth Gyfrannol, lle mae’r seddau’n cael eu rhannu yn ôl y gyfran o’r bleidlais, h.y. os bydd plaid yn ennill 23% o’r bleidlais, bydd yn cael 23% o’r seddau. Yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru, mae gennym system lle mae’r 40 sedd gyntaf yn seiliedig ar y cyntaf i’r felin yn yr etholaethau ac yna mae’r 20 sydd ar ôl yn seiliedig ar fath o gynrychiolaeth gyfrannol.

Cwestiwn Trafod

Ydych chi’n meddwl bod system ‘y cyntaf i’r felin’ yn ffordd deg i ddemocratiaeth ddewis llywodraeth?

 

  • Mae system ‘y cyntaf i’r felin’ yn tueddu i arwain at gael naill ai un blaid neu glymblaid gref o ddwy blaid mewn grym. 
  • Mae hyn yn creu llywodraeth gref a sefydlog.
  • Mewn democratiaethau eraill, lle mae cynrychiolaeth gyfrannol, efallai y bydd llywodraeth wan a fydd yn cynnwys sawl plaid fach. Wrth i anghytundeb ddigwydd, mae clymbleidiau’n chwalu a bydd llywodraeth newydd yn cynnwys clymblaid o bartneriaid gwahanol yn cael ei sefydlu. Efallai bod y math hwn o lywodraeth, sy’n llai sefydlog, yn fwy democrataidd ond mae’n gallu arwain at broblemau gyda llywodraethau gwan a pholisïau sy’n newid o hyd, ac mae hyn yn ddrwg i’r wlad.

Y realiti yw mai nifer fach o bleidleiswyr fydd yn penderfynu ar y llywodraeth nesaf. Mewn seddau ymylol, bydd craidd o gefnogwyr sy’n deyrngar i blaid yn ogystal â rhai pleidleiswyr sydd heb benderfynu pwy fydd yn cael eu pleidlais neu bleidleiswyr a fydd yn newid y blaid maen nhw’n ei chefnogi.  Os ydych chi’n byw mewn sedd ymylol, byddwch chi’n gweld llawer o ymgyrchu lleol gan arweinwyr y prif bleidiau. Os ydych chi’n byw mewn sedd ddiogel, efallai na fyddwch chi’n gweld unrhyw un ohonyn nhw.

Cwestiwn Trafod

Ydych chi’n meddwl ei bod hi’n deg, mewn democratiaeth genedlaethol, mai ychydig iawn o bleidleiswyr mewn seddau ymylol a fydd yn penderfynu ar y llywodraeth nesaf?

 

 

Cwestiwn Trafod

Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol eisiau newid y system bleidleisio i fath o gynrychiolaeth gyfrannol, ond a fyddai’n well gorfodi pawb, yn ôl y gyfraith, i bleidleisio?

 

Yn 2010, gan y Blaid Geidwadol yr oedd y gyfran fwyaf o’r pleidleisiau, sef 36%. Ni wnaeth 35% o’r etholwyr bleidleisio. Mae’n bosib na fyddai llawer o seddau diogel pe bai pawb yn yr etholaeth yn cael ei orfodi i bleidleisio. Defnyddiwyd syniad arall yn y refferendwm ar annibyniaeth yr Alban yn 2014 - yn yr etholiad hwnnw, rhoddwyd y bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed hefyd.  Mae pobl hŷn yn llawer iawn mwy tebygol o bleidleisio, felly pe bai modd annog mwy o bobl ifanc i bleidleisio, efallai y byddai newid mawr yn digwydd.

Gweithgaredd

Ceisiwch gynnal ffug-etholiad. Sut mae canlyniadau eich etholiad chi yn wahanol i ganlyniadau Etholiad Cyffredinol 2010?

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

2015 – Etholiad Cyffredinol y D.U.

2015 – Etholiad Cyffredinol y D.U.

Pleidiau gwleidyddol a’r etholiad cyffredinol

Pleidiau gwleidyddol a’r etholiad cyffredinol