Pleidiau Gwleidyddol
Mae’r pleidiau gwleidyddol yn cael eu rhestru isod yn ôl nifer yr A.S.au sydd ganddyn nhw yn y Senedd. Mae llawer o bleidiau eraill; nid yw’r rhain yn cael eu cynnwys ond mae’n ddigon hawdd ymchwilio iddyn nhw. Mae A.S.au Annibynnol yn A.S.au sydd ddim yn aelodau o blaid wleidyddol.
Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ceisio deall y gwahanol bleidiau gwleidyddol, ond fel y dywedwyd yn y brif erthygl, mae rheolau llym yn ein rhwystro ni rhag sôn am bolisïau penodol am fod Daearyddiaeth yn y Newyddion yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Y prif ffyrdd o ddeall y pleidiau yw:
Agwedd pleidiau tuag at economeg, trethi a gwasanaethau cyhoeddus
Yn aml iawn, byddwch chi’n clywed y pleidiau’n cael eu disgrifio fel rhai ar y chwith neu rai ar y dde; disgrifiad o’r ffordd mae plaid yn ystyried arian (economeg) y wlad yw hyn. Dychmygwch linell; ar y chwith i’r llinell mae syniadau sy’n cael eu galw’n sosialaeth; ar y dde i’r llinell mae syniadau sy’n cael eu galw’n gyfalafiaeth.
Mae’r tair plaid wleidyddol fwyaf (ar hyn o bryd) yn cael eu diffinio’n bennaf gan eu lleoliad ar hyd y llinell hon; fodd bynnag, maen nhw i gyd yn weddol agos at ganol y llinell ac nid oes un ohonyn nhw’n rhy eithafol. Rhaid i ni ddeall ystyr y termau hyn yn well er mwyn deall hyn i gyd.
Mae sosialaethyn ceisio rhannu cyfoeth o fewn y wlad; mae’n seiliedig ar berchnogaeth gymdeithasol. Mewn geiriau eraill, mae pethau’n perthyn i bawb yn hytrach nag i unigolion.
Y gwrthwyneb i sosialaeth yw cyfalafiaeth; enw arall ar arian yw cyfalaf. Mae cyfalafiaeth yn credu mewn rhoi rhyddid i fusnesau a’r economi ehangach fel eu bod yn gallu gwneud yn fawr o’u gallu i wneud arian.
Nid yw un o’n prif bleidiau yn bell o ganol y llinell; mae’r Blaid Lafur yn cael ei disgrifio i’r chwith o’r canol a’r Blaid Geidwadol i’r dde o’r canol. Yn draddodiadol, mae Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol yn cael ei hystyried rhwng y ddwy blaid fawr hyn.
Mae’r tair plaid fwyaf (y Blaid Geidwadol, y Blaid Lafur a Phlaid y Democratiaid Rhyddfrydol) yn bleidiau unoliaethol; ystyr hyn yw eu bod nhw eisiau cadw’r pedair gwlad o fewn y Deyrnas Unedig. Roedd hyn i’w weld yn glir yn ystod 2014 pan ymgyrchodd y tair plaid gyda’i gilydd dros bleidlais ‘Na’ yn Refferendwm Annibyniaeth yr Alban. Fodd bynnag, mae sawl plaid arall sy’n cael ei diffinio ar sail eu barn am yr Undeb.
Pleidiau unoliaethol (lle mae undeboliaeth yn cael ei weld fel prif ffocws y blaid) – mae’r rhain i’w gweld yng Ngogledd Iwerddon; prif ffocws y pleidiau hyn yw cadw Gogledd Iwerddon o fewn y Deyrnas Unedig.
Mae’r rhain eisiau i Ogledd Iwerddon ddod yn rhan o Weriniaeth Iwerddon. Mae rhai grwpiau gweriniaethol bach eraill yn y Deyrnas Unedig sydd eisiau pennaeth etholedig ar y wladwriaeth yn hytrach na’r frenhines; fodd bynnag, nid yw’r rhain yn rym gwleidyddol cryf.
yn draddodiadol, mae’r rhain yn bwysig yn yr Alban ac yng Nghymru; cafodd y refferendwm diweddar ar annibyniaeth yr Alban ei gynnal oherwydd pwysau gan y cenedlaetholwyr yn yr Alban. Yng Nghymru, mae mwyafrif y cenedlaetholwyr yn ymarferol ac ychydig iawn ohonyn nhw sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth. Yn lle hynny, maen nhw’n galw am ragor o ddatganoli, am wneud mwy i ddiogelu’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru ac am ragor o gefnogaeth i’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.
Un tueddiad diweddar yw’r cynnydd mewn math newydd o Genedlaetholwyr Prydeinig, sef pobl sydd eisiau cael uniad cryf o fewn y Deyrnas Unedig ond sydd eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r pleidiau hyn yn ymgyrchu dros fater penodol fel yr amgylchedd neu weithio gyda’n gilydd i wella rhaniadau’r gorffennol yng Ngogledd Iwerddon.
Mae’r pleidiau hyn yn ymgyrchu dros bolisïau sydd, yn aml iawn, yn amhoblogaidd neu hyd yn oed yn anghyfreithlon. Efallai y bydd rhai pleidiau’n cyflwyno syniadau hiliol neu’n hyrwyddo anoddefgarwch, casineb neu hyd yn oed drais terfysgol. Efallai y bydd rhai pleidiau eithafol ar ben eithaf y llinell Sosialaeth i Gyfalafiaeth.
Mae’n bwysig iawn nad yw’r rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion yn cyflwyno polisïau neu syniadau plaid benodol. Yr enw ar y rhain fel arfer yw maniffesto plaid ac maen nhw ar gael ar wefannau’r pleidiau os ydych chi’n dymuno ymchwilio iddyn nhw. Fodd bynnag, mae’n bosib cael darlun o blaid drwy ystyried ei lleoliad ar y llinell rhwng sosialaeth a chyfalafiaeth yn ogystal ag ar sail ei safiad ar undeboliaeth/cenedlaetholdeb yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae'r Blaid Geidwadol yn blaid unoliaethol i’r dde o’r canol. Mae rhagor o wybodaeth am ei maniffesto etholiadol ar www.conservatives.com.
Mae'r Blaid Lafur yn blaid unoliaethol i’r chwith o’r canol. Mae rhagor o wybodaeth am ei maniffesto etholiadol ar www.labour.org.uk.
Mae Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol yn y canol (ac yn dweud ei bod hi rhwng y Blaid Lafur a’r Blaid Geidwadol). Mae hi hefyd yn blaid unoliaethol. Mae rhagor o wybodaeth am ei maniffesto etholiadol ar www.libdems.org.uk.
Mae Plaid y Democratiaid Unoliaethol (y Democratic Unionist Party) yn blaid yng Ngogledd Iwerddon sydd i’r dde o’r canol. Mae rhagor o wybodaeth am ei maniffesto etholiadol ar www.mydup.com.
Mae Plaid Genedlaethol yr Alban (y Scottish Nationalist Party) yn blaid genedlaetholgar yn yr Alban sydd i’r chwith o’r canol. Mae rhagor o wybodaeth am ei maniffesto etholiadol ar www.snp.org.
Mae Sinn Féin yn blaid weriniaethol yng Ngogledd Iwerddon sydd i’r chwith o’r canol. Mae rhagor o wybodaeth am ei maniffesto etholiadol ar www.sinnfein.ie.
Mae Plaid Cymru’n blaid genedlaetholgar yng Nghymru sydd i’r chwith o’r canol. Mae rhagor o wybodaeth am ei maniffesto etholiadol ar www.partyof.wales.
Mae’r Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol a'r Blaid Lafur (Social Democratic and Labour Party) yn blaid weriniaethol yng Ngogledd Iwerddon sydd i’r chwith o’r canol. Mae rhagor o wybodaeth am ei maniffesto etholiadol ar www.sdlp.ie.
Mae Plaid Annibynnol y Deyrnas Unedig (United Kingdom Independence Party) yn blaid unoliaethol i’r dde o’r canol ond mae ganddi elfen genedlaetholgar sy’n ymgyrchu dros gael y D.U. i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae rhagor o wybodaeth am ei maniffesto etholiadol ar www.ukip.org.
Mae’r Blaid Werdd yn blaid sydd i’r chwith o’r canol ac mae ganddi ffocws cryf ar faterion amgylcheddol. Mae rhagor o wybodaeth am ei maniffesto etholiadol ar www.greenparty.org.uk.
Mae plaid Respect yn fwy i’r chwith na’r Blaid Lafur o safbwynt sosialaeth ac mae’n ymgyrchu yn erbyn gwrthdaro rhyngwladol a rhyfeloedd. Mae rhagor o wybodaeth am ei maniffesto etholiadol ar www.respectparty.org.
Yn naturiol, nid yw ymgeiswyr annibynnol yn perthyn i unrhyw blaid ond os ydych chi’n dymuno cael rhagor o wybodaeth am ymgeisydd annibynnol, gallwch chi ddefnyddio porwr ar y rhyngrwyd i chwilio amdano/amdani ac mae’n siŵr y byddwch yn dod o hyd i wefan a fydd yn cynnwys y maniffesto etholiadol.
Mae llawer o bleidiau eraill yng ngwleidyddiaeth y D.U. hefyd. Fodd bynnag, rydyn ni wedi cyfyngu’r dolenni hyn i’r pleidiau sydd ag o leiaf un A.S. a'r hyn o bryd.
Sganiwch y wybodaeth sydd yn yr erthygl hon ac ymchwiliwch i faniffestos y prif bleidiau gwahanol a fydd yn sefyll yn yr etholiad yng Nghymru.
Rhannwch y pleidiau i gategorïau ‘Ie’, ‘Na’ ac ‘Efallai’. Nodwch ar gyfer pob un pam maen nhw’n ‘Ie’, ‘Na’ neu ‘Efallai’. Byddai map meddwl yn ffordd dda o drefnu hyn ac mae system goleuadau traffig yn syniad da hefyd – coch ar gyfer ‘Na’ a phethau drwg, gwyrdd ar gyfer ‘Ie’ a phethau da a Melyn/Oren ar gyfer ‘Efallai’, sy’n gallu cynnwys nodweddion da a drwg.