25

Sut mae'r Deyrnas Unedig yn gweithio?

 

undefined

Nid yw’r cwestiwn hwn yn ymwneud â gwaith fel swyddi a gyrfaoedd. Mae’n gofyn sut mae’r wlad yn cael ei llywodraethu a sut mae hyn, wedyn, yn effeithio ar bawb sy’n byw yn y Deyrnas Unedig, pobl fel chi a’ch teulu. Yn y rhifyn nesaf, byddwn ni’n edrych ar yr etholiad cyffredinol a fydd yn cael ei gynnal ym mis Mai. Yn yr etholiad hwn, bydd bron holl ddinasyddion y Deyrnas Unedig sydd dros 18 oed yn cael pleidleisio dros ymgeisydd yn Nhŷ’r Cyffredin yn y Senedd yn San Steffan yn Llundain.

Yn gyffredinol, mae’r D.U. yn cael ei llywodraethu o ddau Dŷ’r Senedd ym Mhalas San Steffan yn Llundain. Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi yw Tai’r Senedd.

undefined

Tŷ’r Cyffredin yw’r tŷ pwysicaf o’r ddau. Mae’n cael ei ethol bob pum mlynedd mewn etholiad cyffredinol (llai na’r cyfnod hwn weithiau, ond ddim mwy na phump).

Mae’r wefan www.gov.uk yn dweud y gallwch chi bleidleisio yn etholiad cyffredinol seneddol y D.U. os ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio a’ch bod chi: 

  • yn 18 oed neu’n hŷn ar y diwrnod pleidleisio
  • yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd y Gymanwlad neu’n ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon (os ydych chi’n byw yn y D.U.)
  • heb eich eithrio’n gyfreithiol rhag pleidleisio (e.e. oherwydd eich bod chi mewn carchar). 

Allwch chi ddim pleidleisio mewn etholiad cyffredinol seneddol y D.U. os ydych chi: 

  • o dan 18 oed
  • yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi
  • yn ddinesydd yr Undeb Ewropeaidd (a heb fod yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd Gwyddelig neu’n ddinesydd y Gymanwlad hefyd)
  • mewn carchar (ac eithrio carcharorion remánd).

Pwy sy’n Brydeiniwr/Brydeinwraig?

Rydyn ni’n defnyddio'r gair “dinesydd”, ond ydych chi’n gwybod beth yw ei ystyr?

undefined

Mae gan ddinesydd set o hawliau, breintiau a dyletswyddau yng ngwlad ei ddinasyddiaeth –  llawer o hawliau a breintiau i ddinesydd ym Mhrydain, sydd tua chweched gwlad gyfoethoca’r byd! 

Mwy na thebyg bod dros biliwn o bobl o gwmpas y byd yn breuddwydio am gael bod yn ddinesydd Prydeinig. I’r bobl hyn, sy’n byw yng ngwledydd tlotaf y byd gan fwyaf, mae hyn yn debyg i’n breuddwyd ni o ‘ennill y loteri’.  Ydych chi’n sylweddoli pa mor lwcus ydych chi eich bod chi’n gymwys i fod yn ddinesydd Prydeinig – dim ond am eich bod wedi cael eich geni yng Nghymru neu mewn rhyw ran arall o’r D.U.? 

Mae rheolau gwahanol ar gyfer pobl a gafodd eu geni cyn 1983, ond bydd pobl a anwyd ar ôl y dyddiad hwn yn gymwys i fod yn ddinasyddion Prydeinig yn awtomatig:

  1. os cawson nhw eu geni yn y D.U. neu mewn Tiriogaeth Brydeinig Dramor, a
  2. os oedd un o’u rhieni’n ddinesydd Prydeinig neu wedi ymsefydlu’n gyfreithiol yn y D.U.

Os na fydd rhywun yn gymwys yn awtomatig, efallai y bydd yn gallu cofrestru e.e. plentyn sy’n cael ei eni neu ei fabwysiadu y tu allan i’r D.U. a chanddo riant sy’n ddinesydd Prydeinig, neu bobl sydd â chysylltiad â Phrydain e.e. cysylltiadau â lleoedd fel Hong Kong neu Gibraltar – efallai y bydden nhw’n gymwys oherwydd bod lleoedd fel Hong Kong yn arfer bod yn rhan o’r Ymerodraeth Brydeinig cyn dod yn rhan o China. Yn ogystal, efallai y bydd rhai mathau o wasanaeth milwrol a/neu wasanaeth i’r llywodraeth yn caniatáu i berson gofrestru am ddinasyddiaeth.

undefined

Os na fydd person yn gymwys yn awtomatig neu os na fydd yn gymwys i gofrestru, efallai y bydd yn derbyn caniatâd i ddinasyddio fel dinesydd Prydeinig. Er mwyn gallu dinasyddio, rhaid cydymffurfio â rheolau llym sy’n penderfynu a fydd yn cael byw yn y D.U. Yna, rhaid i’r person fyw yn y D.U. am bum mlynedd (tair blynedd os yw’n priodi neu’n cael partneriaeth sifil gyda dinesydd o’r D.U.). Wedyn, rhaid llwyddo mewn arholiad yn Saesneg ac yn olaf rhaid llwyddo mewn arholiad ar fywyd ym Mhrydain – a gallai’r cwestiynau fod yn seiliedig ar unrhyw wybodaeth o lyfr, digon tebyg i’r hyn y gallech chi ei ddisgwyl ar gyfer TGAU!

undefined

Unwaith eto, does dim syniad gan y rhan fwyaf o bobl ifanc Cymru, sy’n gymwys yn awtomatig yn sgil eu genedigaeth, pa mor lwcus ydyn nhw i gael eu geni mewn gwlad sydd, fel arfer, tua rhif chwech yn y rhestr cyfoeth ac arian. Dychmygwch am eiliad gael eich geni a byw yn un o wledydd tlota’r byd.

Yr Etholiad Cyffredinol

undefined

Ym mis Mai, bydd pawb sy’n gymwys i bleidleisio ac sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn cael y cyfle i bleidleisio dros A.S. (Aelod Seneddol). Mae 650 A.S. yn cynrychioli 650 o etholaethau, sef ardaloedd o wahanol faint a phoblogaeth. Mae 40 A.S. o Etholaethau Cymru, sy’n golygu bod Cymru’n cael rhywfaint o ddylanwad yn y Senedd. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn credu y dylai pob etholaeth fod â thua’r un nifer o bobl yn byw ymhob un. Pe bai hyn yn digwydd, dim ond 18 etholaeth fyddai yng Nghymru, felly byddai gan Gymru lawer llai o ddylanwad yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol. Nid yw hyn yn mynd i ddigwydd ar hyn o bryd ond mae’n rhywbeth mae rhai bobl yn y Senedd yn dymuno’i gael.

Y blaid wleidyddol sydd â’r nifer fwyaf o A.S.au yw’r blaid gyntaf i gael y cyfle i ffurfio llywodraeth; y llywodraeth sy’n gwneud y dewisiadau ar ran y wlad o ddydd i ddydd.  Os oes gan un blaid fwyafrif (mwy na hanner) o’r holl A.S.au, yna mae hyn yn hawdd. Os nad oes gan unrhyw blaid fwyafrif, yna mae angen i ddwy blaid neu ragor ddod i gytundeb a sefydlu llywodraeth ar y cyd, sef llywodraeth glymblaid. Yr enw ar arweinydd y llywodraeth yw’r Prif Weinidog.

undefined

Os yw’r llywodraeth yn dymuno newid y gyfraith neu wneud rhai penderfyniadau pwysig eraill, rhaid pasio cyfres o bleidleisiau gyda mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin. Yn ogystal ag ennill mwyafrif y pleidleisiau yn Nhŷ’r Cyffredin, mae Tŷ’r Arglwyddi’n edrych ar y penderfyniadau ac yn pleidleisio arnyn nhw. Nid yw Tŷ’r Arglwyddi wedi cael ei ethol (ond mae rhai pobl yn dweud y dylid gwneud hynny); yn hytrach, mae unigolion yn cael eu penodi ar sail eu profiad neu eu safle yn ein cymdeithas. Mae ganddyn nhw’r pŵer i geisio adolygu neu newid penderfyniadau Tŷ’r Cyffredin, ond nid i’w stopio nhw. Os bydd mwyafrif yr A.S.au’n pasio penderfyniad dair gwaith, yna bydd y penderfyniad hwnnw’n cael ei weithredu.

undefined

Yn y Senedd, mae gan Dŷ’r Cyffredin seddau gwyrdd ac mae gan Dŷ’r Arglwyddi seddau coch.

Datganoli

undefined

 

Llywodraeth a Senedd y Deyrnas Unedig sy’n gwneud yr holl benderfyniadau dros y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, mae rhai penderfyniadau yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cael eu datganoli. Cafodd y tair gwlad hyn refferendwm a phleidleisiodd y mwyafrif o blaid datganoli. Mae hyn yn golygu bod penderfyniadau ar bethau penodol megis addysg, iechyd a llywodraeth leol yn cael eu gwneud mewn cynulliadau yng Ngogledd Iwerddon a Chymru ond mewn Senedd yn yr Alban.  Ers y refferendwm cyntaf yng Nghymru, bu ail refferendwm pryd y pleidleisiodd pobl Cymru o blaid datganoli mwy o bwerau i Gymru.  Y llynedd, roedd refferendwm yn yr Alban ar fynd yn annibynnol. Penderfynodd pobl yr Alban aros fel rhan o’r Deyrnas Unedig ond er mwyn eu perswadio nhw i wneud hynny, addawodd arweinwyr prif bleidiau llywodraeth y D.U. roi nifer fawr o bwerau newydd i Senedd yr Alban ac mae hyn wedi arwain at nifer o faterion newydd sy’n ymwneud â Chymru a gweddill y Deyrnas Unedig.

Mae llawer o bobl yn Lloegr yn credu ei bod hi’n annheg bod A.S.au o’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn cael pleidleisio ar faterion datganoledig fel iechyd ac addysg yn Lloegr ond nad yw A.S.au Lloegr yn cael pleidleisio dros yr un materion yn y tair gwlad arall. Mae rhai pobl wedi galw am ‘Bleidleisiau Seisnig ar faterion Seisnig’, ond byddai hyn yn golygu y byddai gan A.S.au’r tair gwlad datganoledig lai o ddweud yn San Steffan nag A.S.au Lloegr. Bydd hyn yn stori fawr yn y newyddion eleni. Beth yw eich barn chi am y canlynol:

  • Dylai pethau aros yr un peth.
  • Ni ddylai A.S.au Cymru gael yr hawl i bleidleisio yn San Steffan ar unrhyw bwnc sydd wedi cael ei ddatganoli.
  • Dylai pob A.S. fod yn gyfartal yn senedd y Deyrnas Unedig a dylai Lloegr gael ei datganoli ei hun ynghyd â’i chynulliad/senedd ei hun ac, efallai, fwy nag un – un yn y Gogledd ac un yn y De, efallai, neu cynifer â phedwar.

Tybed ai dyma ddyfodol datganoli yn y Deyrnas Unedig?

Chwiliwch am y groes felen, sef croes Dewi Sant, ar faner yr Undeb.

undefined

 

Ariannu Cymru

undefined

Mae arian yn fater pwysig. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cwyno ers amser fod Cymru’n derbyn llawer llai o arian na’r Alban a Gogledd Iwerddon. Mae Cymru’n derbyn ychydig mwy o arian y pen na Lloegr er bod gan Gymru yr un problemau sy’n gwneud bywyd yn ddrutach, fel yn yr Alban.  Lloegr yw’r man rhataf i lywodraeth y D.U. ddarparu gwasanaethau, felly un ddadl yw y dylai fod angen llai o arian yno; byddai hyn yn caniatáu i Gymru gael rhagor o arian, fel ei bod yn derbyn yr un faint â’r Alban. Dadl arall yw y dylai’r Alban dderbyn llai fel ei bod yn derbyn yr un faint â Chymru a Lloegr. Mae mwyafrif y bobl yn cytuno bod Gogledd Iwerddon yn haeddu derbyn mwy o arian oherwydd ei lleoliad oddi ar y tir mawr ac oherwydd y gwrthdaro a’r derfysgaeth yn y gorffennol.

Byddwn yn edrych ar y mater hwn yn fanylach yn yr erthygl gysylltiedig am Gymru a phan fyddwch chi’n cwblhau’r ymarfer ar Wneud Penderfyniadau.

undefined

 

Mae arian yn fater pwysig mewn eitem arall o newyddion sy’n gysylltiedig â hyn i gyd, sef aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd. Fel rhan o’r cytundeb i ymuno â’r U.E., cytunodd y Deyrnas Unedig gyda rhai gofynion, gan gynnwys cydymffurfio â phenderfyniadau penodol y Senedd Ewropeaidd. Un o’r rhain oedd talu biliynau o bunnau bob blwyddyn fel cyfraniad. Mae hyn yn fargen wael o safbwynt ardaloedd cyfoethocaf Lloegr, sef yr ardaloedd sy’n cyfrannu llawer o’r arian hwn. Fodd bynnag, mae’n beth da o safbwynt ardaloedd tlotaf y D.U., megis rhannau helaeth o Gymru, sy’n derbyn grantiau anferth o filiynau o bunnau bob blwyddyn er mwyn helpu’r mannau tlotaf i ddod yn fwy cyfoethog.

Bydd y posibilrwydd o gynnal refferendwm ar ddyfodol y Deyrnas Unedig yn Ewrop yn eitem newyddion bwysig iawn yn ystod 2015 –  a’r tu hwnt efallai – felly dyma rybudd!

Sganiwch y wybodaeth yn yr erthygl hon a threfnwch y pwyntiau allweddol ar fformat gwahanol. Defnyddiwch naill ai dabl neu fap meddwl. Dylech chi nodi’r pwyntiau allweddol fel ‘newyddion da i Gymru’ a ‘newyddion drwg i Gymru’. Defnyddiwch liw gwyrdd ar gyfer ‘da’ a lliw coch ar gyfer ‘drwg’.

Bydd angen y wybodaeth hon arnoch chi er mwyn cyfiawnhau eich dewisiadau yn yr ymarfer Gwneud Penderfyniadau ar y diwedd.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Cymru yn y Deyrnas Unedig

Cymru yn y Deyrnas Unedig