21

Byw mewn Perygl

Byw mewn perygl

Yn y ddwy erthygl gyntaf yn y rhifyn hwn rydyn ni wedi edrych ar ddau amgylchedd peryglus – tirweddau calchfaen a llosgfynyddoedd.

Yn yr erthygl olaf hon, byddwn ni’n edrych ar y rhesymau sydd gan bobl am ddewis byw yn yr ardaloedd hyn o’r byd lle gallai trychineb eu taro unrhyw bryd.

Byw mewn perygl – pam cymryd y risg?

Mae sawl rheswm pam. Am dros gannoedd o flynyddoedd mae pobl wedi dewis setlo ger neu’n agos i dirwedd calchfaen a llosgfynyddoedd. Mae rhai o’r rhain bron iawn mor hen â’r bryniau eu hunain, tra bod rhai eraill yn ddatblygiadau diweddar.

undefined

Byddwn ni’n canolbwyntio ar dri yn benodol:

  • amaethyddiaeth

  • adnoddau naturiol

  • twristiaeth


Byw mewn perygl – Amaethyddiaeth

Am gyfnod hir mae tirweddau calchfaen a folcanig wedi cael eu hystyried yn ardaloedd gwych ar gyfer gwahanol fathau o amaethyddiaeth, o borfeydd i ddefaid i lwyni olewydd.

Amaethyddiaeth - calchfaen

Mae pridd calchfaen yn dueddol o fod yn denau, sy’n anaddas i’w ddefnyddio i blannu cnydau traddodiadol, ond er hynny, mae ambell i eithriad (gweler isod).

Mae uwchdir calchfaen y DU, fel bryniau’r Mendip yng Ngwlad yr Haf neu Phenygogarth yn Llandudno, yn dir gwelltog ar y cyfan ac felly fe’u defnyddir fel porfa i ddefaid. Mae’r bryniau sy’n rholio’n ysgafn a’r digonedd carreg sydd i adeiladu waliau i wahanu porfeydd yn eu gwneud nhw’n lle delfrydol i ffermwyr gadw eu da byw.

undefined

Yn Ffrainc, yr Eidal a Seland Newydd, ymhlith eraill, mae ardaloedd calchfaen yn cael eu defnyddio mewn ffordd wahanol iawn. Mae pridd maethlon y calchfaen yn ardal Burgundy Ffrainc yn cynhyrchu’r gwinoedd Chardonay a Pinot Noir byd-enwog.

undefined

Caiff gwinoedd Eidalaidd Peidmont eu tyfu mewn pridd marlog (cymysgedd o galchfaen a chlai) ac mae’r marlau sydd yn yr ardal Champagne yn hanfodol i gynhyrchu gwinoedd pigog.

Defnyddir calchfaen fel gwrtaith i dyfu cnydau ar ffermydd ym mhob cwr o’r byd.

Amaethyddiaeth – Llosgfynyddoedd

Mae llosgfynyddoedd yn gyfoeth o faeth sy’n helpu planhigion dyfu. Maen nhw’n cynnig tiroedd fferm toreithiog, er hynny, cewch faddeuant am feddwl bod byw yng nghysgod cawr tanllyd yn bris drud i’w dalu! Fodd bynnag, byddai miliynau o bobl yn anghytuno wrth iddynt wneud eu bywoliaeth ar ac o amgylch llosgfynyddoedd byw.

Yn Ewrop, mae’r pridd yn llawn lludw a llwch o losgfynyddoedd fel Stromboli ac Etna yn yr Eidal, ac El Hiero ar ynysoedd y Caneri, yn cynnal llwyni olewydd, gwinllannoedd a phlanhigfeydd datys, coed oren a lemon, cansen siwgr a mwy.

undefined

Daw’r dŵr sy’n cylchdroi drwy lif lafa hynafol o dan y pridd â mwynau i’r wyneb mewn ardaloedd fel Dyffryn Hollt Mawr, Affrica a mynydd Elgon yn Uganda. Caiff rai o ffa coffi gorau’r byd eu tyfu mewn ardaloedd trofannol fel Columbia a Guatemala. Yn y llun uchod, caiff te gwyrdd ei dyfu yng nghysgod Mynydd Fuji, Japan.

Ond nid yw’n fêl i gyd! Gall echdoriad mawr sy’n cynhyrchu lludw, mwd a nwyon gwenwynig ddinistrio tir fferm a bywoliaeth miloedd o bobl mewn dim ond ychydig oriau. Digwyddodd hyn yn un o’r echdoriadau mwyaf trychinebus ar gof - Mynydd San Helen yn nhalaith Washington, UDA (llun isod).

undefined

Yn fwy diweddar, Mae mynydd Nyiragongo yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo wedi cynnal cymunedau amaethyddol am gannoedd o flynyddoedd. Yn 2002, bu rhaid anfon poblogaeth o 400,000 o’r ardal yn sgil echdoriad o lafa, lludw a nwyon. Dinistriwyd ffermydd, planhigfeydd banana a chwalwyd 4,500 o adeiladau ger y ddinas gyfagos, Goma. Bu farw 147 o bobl.


Byw mewn perygl – Adnoddau naturiol

Mae llosgfynyddoedd a thirweddau calchfaen yn cynnig adnoddau naturiol gwerthfawr i ddiwydiannau megis gweithgynhyrchu ac adeiladu yn ogystal ag i amaethyddiaeth.

Adnoddau naturiol – calchfaen

Mae calchfaen yn rhan annatod o’r diwydiant adeiladu a chaiff ei gloddio yn eang er mwyn cynhyrchu sment, morter a choncrid. Yn Nhrefil ym Mlaenau Gwent, caiff calchfaen ei fwyngloddio hyd heddiw, ond nid yw’r chwareli llai o faint bellach yn cael eu defnyddio oni bai eich bod chi’n cyfri lleoliadau ffilmio pethau fel Wrath of the Titans a chyfres deledu'r BBC Doctor Who.

undefined

Chwarel Trefil: un o’r chwareli allweddol sy’n archwilio'r cnwd gogleddol o Galchfaen Carbon De Cymru

Mae gan galchfaen sawl defnydd arall fel gwneud dur a gwydr, gwrtaith, rheoli llygredd aer, meddyginiaethau, cosmetigau a phethau ymolchi fel past dannedd.

Mae blociau calchfaen yn cael eu defnyddio i adeiladu popeth o waliau carreg ar fryniau De Cymru, Gwlad yr Haf a Swydd Efrog i adeiladau mawreddog fel Palas Westminster yn Llundain (sy’n gymysgedd o dywodfaen a chalchfaen).

Nid yw defnyddio calchfaen i adeiladu yn rhywbeth newydd a diweddar. Adeiladwyd y Pyramid Mawr yn Giza, yr Aifft dros 4,500 o flynyddoedd yn ôl, yn defnyddio 2.3 miliwn o flociau calchfaen. Hyd yn oed ymhellach yn ôl, roedd cyfaneddwyr o oes y cerrig yn Affrica yn dod o hyd i fflintiau i drin calchfaen, yn ogystal â defnyddio’r graig ei hun i gerfio pethau prydferth, fel y masg hwn isod, sydd tua 9,000 o flynyddoedd oed.

undefined

Masg calchfaen neolithig a ddarganfuwyd yn Anialwch Jwda, Israel a’r Pyramid Mawr yn Giza, yr Aifft

Mae’r diffygion a’r craciau mewn calchfaen yn bwysig, pan fydd dŵr yn cylchdroi trwyddynt, caiff fwynau eu dyddodi. Mae’r rhain yn cynnwys copr, sydd wedi cael ei fwyngloddio o fryniau calchfaen Penygogarth yng Ngogledd Cymru ers yr Oes Efydd hyd heddiw.

Adnoddau naturiol – llosgfynyddoedd

Mae craig folcanig fel basalt esmwyth, tywyll yn cael eu defnyddio i adeiladu ac i addurno ledled y byd. Weithiau fe’i gelwir yn ‘dhustone’ (daw ‘dhu’ o’r gair Cymraeg ‘du’), ond caiff basalt ei gloddio yn Clee Hill yn Swydd Amwythig o hyd heddiw.

Mae mwynau fel sylffwr a metelau fel tun, aur, arian a chopr yn gyffredin iawn mewn ardaloedd folcanig. Mae’r gwres a’r pwysau dwys sydd ym mantell ucha’r ddaear yn achosi i atomau carbon ffurfio diemwntau; proses sy’n cymryd miliynau o flynyddoedd. Daw’r gweithgaredd folcanig sy’n cario magma i wyneb y Ddaear gan gario’r diemwntau hyn i’r wyneb hefyd.

undefined

Chwarel ddiemwntau Diavik yng ngogledd Canada


Byw mewn perygl – Twristiaeth

Caiff twristiaid eu denu at dirweddau calchfaen a folcanig am sawl rheswm:

  • yr ystod eang o blanhigion ac anifeiliaid

  • tirweddau anhygoel

  • gweithgareddau hamdden fel archwilio ogofau ac ymlacio mewn pyllau geothermol

Twristiaeth - calchfaen

Mae uwchdir calchfaen yn gartref i rywogaethau gwyllt prin, sydd mewn perygl, fel y pili pala High Brown Fritillary - y rhywogaeth sydd mewn mwyaf o berygl yn y DU. Dim ond ym mae Morcambe yng ngogledd orllewin Lloegr y ceir y rhywogaeth. Mae planhigion prin mewn perygl hefyd, fel Gwenith yr Hydd Cushenbury sy’n cael ei niweidio oherwydd cloddio am galchfaen yn UDA.

undefined

High Brown Fritillary (chwith) a Gwenith yr Hydd Cushenbury (dde) (h) S.Eliason/USFS)

Bydd y rhywogaethau hyn yn denu naturiaethwyr brwdfrydig i ardaloedd calchfaen. Ond yn anffodus, mae calchfaen yn erydu’n hawdd ac mae’n rhaid gwarchod y dirwedd er mwyn sicrhau bod yr ecosystemau bregus yn goroesi.

Mae’r bryniau tonnog, y clogwyni serth a’r ceunentydd cul sydd ar uwchdir calchfaen yn denu cerddwyr, dringwyr a beicwyr. Mae ogofâu a thwneli o dan y ddaear yn denu twristiaid chwilfrydig ac ogofwyr o bob cwr o’r byd.

undefined

Twristiaeth – llosgfynyddoedd

Nid yw cael twristiaid yn ymweld â llosgfynyddoedd yn rhywbeth newydd. Yn y 18fed Ganrif, byddai dynion ifanc, cyfoethog o o amgylch Ewrop yn mynd ar ‘daith fawr’ fel rhan o’u haddysg. Roedd Pompeii a Herculaneum, dwy dref a ddinistriwyd gan Fynydd Vesuvius yn 79 OC, yn rhan o’r daith. Byddai’r dewraf a’r mwyaf heini o’r rhain yn dringo’r llosgfynydd ei hun hefyd!

undefined

Darganfod Teml Isis ym Mhompeii, o Campi Phlegraei gan William Hamilton, Cyfrol 2

Yng Ngwlad yr Ia, mae pyllau o ddŵr sy’n cael eu cynhesu gan y Ddaear yn denu miloedd o dwristiaid bob blwyddyn. Maen nhw’n dod yno i ymlacio yn y dŵr poeth wrth fwynhau’r dirwedd anhygoel (ond nid yr arogl - mae’r dŵr yn ddrewllyd!) Mae’r Blue Lagoon (llun isod) yn ddim ond un o’r sawl pwll geothermol ar yr ynys folcanig, ac mae sawl un arall o amgylch y byd.

undefined

Y Blue Lagoon

Mae copaon, miniog a tholciog llosgfynyddoedd cyfansawdd marw neu lonydd wedi denu dringwyr am flynyddoedd. Yn ddiweddar, mae’r gweithgarwch folcanig ei hun wedi dechrau denu pobl.

Mae twristiaid a gwyddonwyr dewr (neu wirion) wedi mynd yn agos at lynnoedd lafa llosgfynyddoedd tarian fel Mauna Loa a Mauna Kea yn Hawaii. Mae echdoriadau anhygoel Etna a Stromboli yn yr Eidal yn denu ymwelwyr o bob man. Gwyliwch y fideos isod i weld y llosgfynyddoedd.

Fideo 1: Tasgu mewn llyn lafa yn Hawaii

 

Fideo 2: Ebrill 2012, echdoriadau Stromboli ac Etna

 

Fideo 3: Ym Mharc Cenedlaethol Yellowstone, safle uwch-losgfynydd, mae’r geiser ‘Old Faithful’ yn bodloni’r gwylwyr gydag echdoriadau rheolaidd o ddŵr wedi’i wresogi gan gerrig folcanig ymhell islaw’r wyneb.

 

Fideo 4: Dros y blynyddoedd, mae echdoriadau Mynydd Etna wedi denu llawer o ymwelwyr, er gwaetha’r peryglon. Maen nhw yn cael golygfeydd anhygoel yno, yn cynnwys arfer anarferol Etna i chwythu cylchoedd mwg.

 


Gweithgaredd disgybl

Ewch i ymweld ag un o’r safleoedd a enwir yn unrhyw un o’r erthyglau yn defnyddio System Wybodaeth Ddaearyddol fel Google Earth:

  • Perygl – Calchfaen!

  • Perygl – Llosgfynydd!

  • Byw mewn perygl

Darganfyddwch fwy am yr ardal o’i gwmpas, yn cynnwys y diwydiannau a’r gweithgareddau yn yr ardal leol (amaethyddiaeth, mwyngloddio, twristiaeth, hamdden ac ati).

Ysgrifennwch erthygl bapur newydd fer am yr ardal rydych chi wedi’i dewis.

Efallai y byddwch chi eisiau ysgrifennu am ddigwyddiad penodol fel echdoriad, tirlithriad neu gwymp ogof. Neu, gallech chi ysgrifennu am newidiadau cyffredinol i’r amgylchedd (e.e. erydiad a difrod amgylcheddol) a’r cymunedau sy’n byw yno.

Sicrhewch eich bod chi wedi ystyried pa effeithiau byddai hyn yn ei gael, cadarnhaol neu negyddol, dros gyfnod byr neu hir.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...