Lafa tawdd, echdoriadau ffrwydrol a chymylau o ludw!
Dyma ychydig o bethau fydd yn dod i’r meddwl pan fyddwn ni’n clywed y gair llosgfynydd. Felly, pam ar wyneb daear y byddai unrhyw un eisiau byw wrth ymyl un?
Yn yr erthygl nesaf, ‘Byw mewn perygl’ byddwn ni’n meddwl pam, ond am nawr beth am dreulio amser yn dod i wybod mwy am y cewri tanllyd hyn.
Defnyddiwch y cyflwyniad rhyngweithiol isod i ddysgu mwy am yr amgylcheddau hyn ac i weld enghreifftiau o’r peryglon.
Mewn grwpiau bychain, gwnewch ymchwil am echdoriad folcanig sydd wedi digwydd ar ôl 1900.
Paratowch gyflwyniad byr am yr echdoriad sy’n cynnwys gwybodaeth am:
Pryd a lle ddigwyddodd yr echdoriad
Pa fath o losgfynydd oedd e (tarian, cyfansawdd neu un arall)
Beth ddigwyddodd pan echdorodd y llosgfynydd (lafa a llif mwd, cymylau lludw ac ati)
Pa effaith gafodd yr echdoriad ar y bobl oedd yn byw yn yr ardal
Cymrwch sylw penodol o’r ffyrdd y gallai’r echdoriad fod wedi effeithio ar y cymunedau lleol, er enghraifft:
Sut effeithiwyd y busnesau, ysgolion a’r ysbytai?
A gafodd trafnidiaeth ei ansefydlogi?
Effeithiwyd cyflenwadau bwyd a dŵr mewn unrhyw ffordd, yn y tymor byr a’r hirdymor?
Sut effeithiodd yr echdoriad ar y bobl a oedd yn byw yn yr ardal?
Cyflwynwch eich darganfyddiadau i weddill y dosbarth - byddwch yn barod i ateb cwestiynau ar y diwedd.