Yn y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion byddwn ni’n edrych ar y peryglon sy’n wynebu cymunedau sy’n byw mewn amgylcheddau sydd o bosibl, yn beryglus.
Yn yr erthygl derfynol byddwn ni’n gofyn y cwestiwn: pam fod pobl yn dewis byw mewn perygl?
Mae amgylcheddau peryglus wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar oherwydd dau ddigwyddiad penodol, un sydd wirioneddol yn drychinebus.
Yn yr erthygl gyntaf hon, byddwn ni’n cael golwg ar rai o’r amgylcheddau peryglus y mae pobl yn dewis byw ynddynt: tirweddau calchfaen.
Defnyddiwch y cyflwyniad rhyngweithiol isod i ddysgu mwy am yr amgylcheddau hyn ac i weld enghreifftiau o’r peryglon.
Fel cyflwyniad i’r wers, ar bapur nodyn dylai myfyrwyr ysgrifennu geiriau neu ymadroddion sy’n mynegi’r hyn maen nhw’n ei wybod yn barod am galchfaen a thirweddau calchfaen. Gellir gosod y nodiadau hyn ar y bwrdd neu’r wal a gellir cyfeirio atynt drwy gydol y wers neu’r dasg gyflawn.
Ar ôl darllen yr erthygl ‘Perygl – Calchfaen!’ gall myfyrwyr wneud y gweithgaredd canlynol.
Gweithio mewn parau, dewiswch rhai o’r nodweddion canlynol a gysylltir â thirweddau calchfaen a defnyddiwch werslyfrau ac adnoddau ar-lein dibynadwy i ddarganfod mwy amdanynt:
Palmentydd calchfaen
Clogwyni calchfaen a sialc
Uwchdir (bryniau)
Gwelyau ffosil
Ogofâu
Tyllau sinc
Ceunentydd
Dewiswch luniau sy’n tynnu sylw at agweddau pwysig eich nodwedd ddewisol. Tynnwch lun o leiaf un diagram (yn llawrydd neu’n defnyddio pecyn graffeg ar y cyfrifiadur) i’w gynnwys yn eich gwaith.
Rhowch eich gwaith gorffenedig i’r athro ei farcio.