Lafa tawdd, echdoriadau ffrwydrol a chymylau o ludw!
Dyma ychydig o bethau fydd yn dod i’r meddwl pan fyddwn ni’n clywed y gair llosgfynydd. Felly, pam ar wyneb daear y byddai unrhyw un eisiau byw wrth ymyl un?
Yn yr erthygl nesaf, ‘Byw mewn perygl’ byddwn ni’n meddwl pam, ond am nawr beth am dreulio amser yn dod i wybod mwy am y cewri tanllyd hyn. Defnyddiwch y canllaw rhyngweithiol isod.
Gweithiwch mewn grwpiau bychain i ddarganfod mwy am un o’r peryglon y sonnir amdanynt yn y canllaw rhyngweithiol:
Llif lafa
Llif mwd
Bomiau folcanig
Llif pyroclastig
Cymylau lludw
Paratowch gyflwyniad byr yn sôn am y perygl rydych chi wedi’i ddewis.
Meddyliwch am:
Pam ei fod yn digwydd?
Pa effaith allai gael ar yr amgylchedd lleol?
Sut y gallai effeithio ar y bobl yn yr ardal?
A fyddai ysgolion ac ysbytai yn cael eu heffeithio?
Hwyrach y byddai’n tarfu ar drafnidiaeth?
A fyddai’n effeithio ar gyflenwadau bwyd a dŵr?
Cyflwynwch ei darganfyddiadau i’r dosbarth.