Perygl – Calchfaen!
Yn y rhifyn hwn byddwn ni’n edrych ar beryglon a manteision byw mewn lleoedd peryglus. Byddwn ni’n edrych ar ddau amgylchedd sy’n gallu bod yn beryglus: tirwedd calchfaen a llosgfynyddoedd.
Byddwn ni’n gofyn y cwestiwn: pam fod pobl yn dewis byw mewn perygl?
Yn yr erthygl gyntaf hon byddwn ni’n edrych ar dirweddau calchfaen. Defnyddiwch y canllaw rhyngweithiol isod.
Cynhaliwch arbrawf fel cyflwyniad i’r wers, un ai fel dosbarth neu mewn grwpiau bychain, yn defnyddio:
dŵr
soda pobi / cabi
tywod (neu bupur)
Dylai bod gan bob grŵp ddau wydriad o ddŵr. Dylen nhw roi llond llwy de o soda pobi yn un gwydr a llond llwy de o dywod yn y llall ac yna’u troi nhw. Dylai’r disgyblion ysgrifennu beth sy’n digwydd i’r naill wydr a’r llall ac adrodd eu canlyniadau wrth weddill y dosbarth.
Defnyddiwch y gweithgaredd hwn i egluro bod rhai sylweddau (fel calchfaen) yn hydoddi mewn dŵr tra bod eraill ddim.
Ar ôl darllen yr erthygl ‘Perygl – Calchfaen!” caiff y myfyrwyr wneud y gweithgaredd canlynol.
Yn gweithio mewn parau, dewiswch un o’r nodweddion canlynol a dysgwch fwy amdanynt:
Palmentydd calchfaen
Ceunentydd
Ogofâu
Tyllau sinc
Paratowch adroddiad un neu ddwy dudalen o hyd, gan gynnwys o leiaf un llun am eich nodwedd ddewisol yn egluro sut mae’n ffurfio.
Rhowch eich gwaith i’r athro ei farcio pan fyddwch chi wedi gorffen.