21

Byw mewn Perygl

Byw mewn perygl

Hyd yma, yn y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion rydyn ni wedi edrych ar dirweddau calchfaen a llosgfynyddoedd.

Nawr, rydyn ni’n mynd i feddwl pam y mae pobl yn dewis byw wrth eu hymyl.

Byw mewn perygl – pam cymryd y risg?

Am gannoedd o flynyddoedd mae pobl wedi dewis setlo ger neu’n agos i dirwedd calchfaen a llosgfynyddoedd am sawl rheswm...

undefined

Byddwn ni’n canolbwyntio ar dri yn benodol:

  • amaethyddiaeth

  • adnoddau naturiol

  • twristiaeth


Byw mewn perygl – Amaethyddiaeth

Mewn gwahanol ffyrdd, mae tirwedd calchfaen ac ardaloedd folcanig yn wych ar gyfer amaethyddiaeth. Beth am edrych arnynt yn fwy manwl?

Amaethyddiaeth - calchfaen

Mae pridd calchfaen yn dueddol o fod yn denau, sy’n anaddas i’w ddefnyddio i blannu cnydau traddodiadol. Ond, mae’r tir uchel wedi’i orchuddio â glaswellt toreithiog - sy’n berffaith ar gyfer pori.

Pe baech chi’n ymweld â Phenygogarth yn Llandudno, neu Fryniau Mendip yng Ngwlad yr Haf, byddech chi’n gweld miloedd o ddefaid wedi’u hamgylchynu gan waliau cerrig sych a adeiladwyd gyda chalchfaen!

undefined

Mewn rhannau o’r byd, mae ardaloedd calchfaen yn cael eu defnyddio mewn gwahanol ffyrdd. Er enghraifft, yn ardal Burgundy o Ffrainc maen nhw’n cynhyrchu gwinoedd Chardonay a Pinot Noir byd-enwog o rawnwin wedi’u tyfu mewn pridd calchfaen.

undefined

Caiff calchfaen ei defnyddio fel gwrtaith i dyfu cnydau ar ffermydd ledled y byd.

Amaethyddiaeth – Llosgfynyddoedd

Efallai eich bod chi’n meddwl na fyddai neb yn dewis cael fferm ar bwys anghenfil sy’n chwythu tân, ond mae rhai priddoedd folcanig yn llawn maeth sy’n helpu planhigion i dyfu. Mae cannoedd o filoedd o bobl yn gwneud eu bywoliaeth ar neu wrth ymyl llosgfynyddoedd byw.

Mae llosgfynyddoedd fel Stromboli ac Etna yn yr Eidal, ac El Hierro ar ynysoedd y Caneri yn cynnal llwyni olewydd, gwinllannau a phlanhigfeydd coedd datys, orennau a lemonau.

undefined

Te gwyrdd yn cael ei dyfu is;aw Mynydd Fuji, Japan

Er hynny, nid yw’n fêl i gyd. Mae echdoriadau enfawr sy’n cynhyrchu lludw, mwd a nwyon gwenwynig yn gallu dinistrio ffermydd a bywoliaeth miloedd o bobl mewn dim ond ychydig oriau.

Digwyddodd hyn yn un o’r echdoriadau mwyaf trychinebus ar gof - Mynydd San Helens yn nhalaith Washington, UDA (llun isod).

undefined

Yn 2002, echdorodd Mynydd Nyiragongo yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo. Cafodd 400,000 o bobl eu hanfon o’r ardal wrth i lafa, lludw a nwyon gwenwynig ddinistrio ffermydd ac adeiladau. Bu farw 147 o bobl.


Byw mewn perygl – Adnoddau naturiol

Mae llosgfynyddoedd a thirweddau calchfaen yn cynnig adnoddau naturiol gwerthfawr i ddiwydiannau megis gweithgynhyrchu ac adeiladu yn ogystal ag i amaethyddiaeth.

Adnoddau naturiol – calchfaen

Defnyddir calchfaen i gynhyrchu sment, morter a choncrid. Yn Nhrefil, ym Mlaenau Gwent caiff calchfaen ei gloddio hyd heddiw.

Mae rhai o’r chwareli llai nawr wedi cau ac maen nhw’n cael eu defnyddio mewn ffilmiau fel Wrath of the Titans a’r gyfres BBC Doctor Who.

undefined

Chwarel Trefil yn Ne Cymru

Caiff calchfaen hefyd ei defnyddio mewn:

  • gwneuthuriad dur a gwydr

  • gwrtaith

  • rheoli llygru-aer

  • meddyginiaethau

  • past dannedd

Caiff blociau calchfaen eu defnyddio i adeiladu popeth, o waliau carreg sych ar fryniau de Cymru i’r Pyramid yn yr Aifft. Adeiladwyd y Pyramid mawr dros 4,500 o flynyddoedd yn ôl, yn defnyddio 2.3 miliwn o flociau calchfaen.

Yn ôl yn oes y cerrig, roedd cyfaneddwyr yn defnyddio cellystr miniog fel offer trin calchfeini. Roedden nhw hyd yn oed yn cerfio calchfaen, fel y masg isod sydd tua 9,000 o flynyddoedd oed.

undefined

Masg calchfaen neolithig a ddarganfuwyd yn Anialwch Jwda, Israel a’r Pyramid Mawr yn Giza, yr Aifft

Caiff metelau eu cloddio o graciau a diffygion yn y calchfaen. Er enghraifft, mae copr yn cael ei gloddio o fryniau Gogledd Cymru ers yr Oes Efydd.

Adnoddau naturiol – llosgfynyddoedd

Caiff creigiau folcanig eu defnyddio i adeiladu ac i addurno ledled y byd. Weithiau caiff ei galw yn‘dhustone’ a ddaw o’r gair Cymraeg ‘du’.

Mae mwynau fel tun, aur, arian a chopr yn gyffredin mewn ardaloedd folcanig ac mae’r gwres anhygoel a’r pwysau a ddaw o fantell ucha’r Ddaear yn troi carbon yn ddiemwntau. Yn y pendraw, bydd llosgfynyddoedd yn eu cludo nhw i’r wyneb a gellir palu amdanynt a’u defnyddio ar gyfer tlysau neu rannau dril.

undefined

Chwarel ddiemwntau Diavik yng ngogledd Canada


Byw mewn perygl – Twristiaeth

Caiff twristiaid eu denu at dirweddau calchfaen a folcanig am sawl rheswm:

  • yr ystod eang o blanhigion ac anifeiliaid

  • tirweddau anhygoel

  • gweithgareddau hamdden fel archwilio ogofau ac ymlacio mewn pyllau geothermol

Twristiaeth - calchfaen

Mae uwchdir calchfaen yn gartref i rywogaethau gwyllt prin, sydd mewn perygl, fel y pili pala High Brown Fritillary - y rhywogaeth sydd mewn mwyaf o berygl yn y DU. Mae planhigion prin mewn perygl hefyd, fel Gwenith yr Hydd Cushenbury sy’n cael ei niweidio oherwydd cloddio am galchfaen yn UDA.

undefined

High Brown Fritillary (chwith) a Gwenith yr Hydd Cushenbury (dde) (h) S.Eliason/USFS)

Bydd pobl sydd wrth eu bodd â natur yn ymweld ag ardaloedd calchfaen er mwyn cael gweld y rhywogaethau prin hyn, ond mae calchfaen yn erydu yn hawdd ac mae angen amddiffyn y dirwedd fel bod yr ecosystemau yn gallu goroesi.

Mae’r bryniau tonnog, y clogwyni serth a’r ceunentydd cul sydd ar uwchdir calchfaen yn denu cerddwyr, dringwyr a beicwyr. Mae ogofâu a thwneli o dan y ddaear yn denu twristiaid chwilfrydig ac ogofwyr o bob cwr o’r byd.

undefined

Twristiaeth – llosgfynyddoedd

Mae twristiaid wedi ymweld â llosgfynyddoedd am flynyddoedd bellach. Yn y 18fed Ganrif, byddai dynion ifanc, cyfoethog o o amgylch Ewrop yn mynd ar ‘daith fawr’ fel rhan o’u haddysg. Roedd Pompeii a Herculaneum, dwy dref a ddinistriwyd gan Fynydd Vesuvius yn 79 OC, yn rhan o’r daith.

undefined

Darganfod Teml Isis ym Mhompeii, o Campi Phlegraei gan William Hamilton, Cyfrol 2

Yng Ngwlad yr Ia, mae pyllau o ddŵr sy’n cael eu cynhesu gan y Ddaear yn denu miloedd o dwristiaid bob blwyddyn. Maen nhw’n dod yno i ymlacio yn y dŵr poeth wrth fwynhau’r dirwedd anhygoel (ond nid yr arogl - mae’r dŵr yn ddrewllyd!)

Mae’r Blue Lagoon (llun isod) yn ddim ond un o’r sawl pwll geothermol ar yr ynys folcanig, ac mae sawl un arall o amgylch y byd.

undefined

Y Blue Lagoon

Mae copaon, miniog a tholciog llosgfynyddoedd cyfansawdd marw neu lonydd wedi denu dringwyr am flynyddoedd. Yn ddiweddar, mae’r gweithgarwch folcanig ei hun wedi dechrau denu pobl.

Mae twristiaid a gwyddonwyr dewr (neu wirion) wedi mynd yn agos at lynnoedd lafa llosgfynyddoedd tarian fel Mauna Loa a Mauna Kea yn Hawaii. Mae echdoriadau anhygoel Etna a Stromboli yn yr Eidal yn denu ymwelwyr o bob man.

Gwyliwch y fideos isod i weld y llosgfynyddoedd.

Fideo 1: Tasgu mewn llyn lafa yn Hawaii

Fideo 2: Ebrill 2012, echdoriadau Stromboli ac Etna

 

Fideo 3: Ym Mharc Cenedlaethol Yellowstone, safle uwch-losgfynydd, mae’r geiser ‘Old Faithful’ yn bodloni’r gwylwyr gydag echdoriadau rheolaidd o ddŵr wedi’i wresogi gan gerrig folcanig ymhell islaw’r wyneb.

 

Fideo 4: Dros y blynyddoedd, mae echdoriadau Mynydd Etna wedi denu llawer o ymwelwyr, er gwaetha’r peryglon. Maen nhw yn cael golygfeydd anhygoel yno, yn cynnwys arfer anarferol Etna i chwythu cylchoedd mwg.

 


Gweithgaredd disgybl

Ewch i ymweld ag un o’r safleoedd a enwir yn unrhyw un o’r erthyglau yn defnyddio System Wybodaeth Ddaearyddol fel Google Earth:

  • Perygl – Calchfaen!

  • Perygl – Llosgfynydd!

  • Byw mewn perygl

Darganfyddwch fwy am yr ardal o’i gwmpas, yn cynnwys y diwydiannau a’r gweithgareddau yn yr ardal leol (amaethyddiaeth, mwyngloddio, twristiaeth, hamdden ac ati).

Ysgrifennwch erthygl bapur newydd fer am yr ardal rydych chi wedi’i dewis.

Efallai y byddwch chi eisiau ysgrifennu am ddigwyddiad penodol fel echdoriad, tirlithriad neu gwymp ogof. Neu, gallech chi ysgrifennu am newidiadau cyffredinoli’r amgylchedd (e.e. erydiad a difrod amgylcheddol) a’r cymunedau sy’n byw yno.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...