21

Perygl Llosgfynydd!

Perygl - Llosgfynydd

Lafa tawdd, echdoriadau ffrwydrol a chymylau o ludw!

Dyma ychydig o bethau fydd yn dod i’r meddwl pan fyddwn ni’n clywed y gair llosgfynydd. Felly, pam ar wyneb daear y byddai unrhyw un eisiau byw wrth ymyl un?

Yn yr erthygl nesaf, ‘Byw mewn perygl’ byddwn ni’n meddwl pam, ond am nawr beth am dreulio amser yn dod i wybod mwy am y cewri tanllyd hyn.

Defnyddiwch y cyflwyniad rhyngweithiol isod i ddysgu mwy am yr amgylcheddau hyn ac i weld enghreifftiau o’r peryglon.

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Gweithgaredd Myfyriwr

Mewn grwpiau bychain, gwnewch ymchwil am echdoriad folcanig sydd wedi digwydd ar ôl 1900.

Paratowch gyflwyniad byr am yr echdoriad sy’n cynnwys gwybodaeth am:

  • Pryd a lle ddigwyddodd yr echdoriad

  • Pa fath o losgfynydd oedd e (tarian, cyfansawdd neu un arall)

  • Beth ddigwyddodd pan echdorodd y llosgfynydd (lafa a llif mwd, cymylau lludw ac ati)

  • Pa effaith gafodd yr echdoriad ar y bobl oedd yn byw yn yr ardal

Cymrwch sylw penodol o’r ffyrdd y gallai’r echdoriad fod wedi effeithio ar y cymunedau lleol, er enghraifft:

  • Sut effeithiwyd y busnesau, ysgolion a’r ysbytai?

  • A gafodd trafnidiaeth ei ansefydlogi?

  • Effeithiwyd cyflenwadau bwyd a dŵr mewn unrhyw ffordd, yn y tymor byr a’r hirdymor?

  • Sut effeithiodd yr echdoriad ar y bobl a oedd yn byw yn yr ardal?

Cyflwynwch eich darganfyddiadau i weddill y dosbarth - byddwch yn barod i ateb cwestiynau ar y diwedd.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...