21

Perygl Llosgfynydd!

Perygl – Llosgfynydd!

Lafa tawdd, echdoriadau ffrwydrol a chymylau o ludw!

Dyma ychydig o bethau fydd yn dod i’r meddwl pan fyddwn ni’n clywed y gair llosgfynydd. Felly, pam ar wyneb daear y byddai unrhyw un eisiau byw wrth ymyl un?

Yn yr erthygl nesaf, ‘Byw mewn perygl’ byddwn ni’n meddwl pam, ond am nawr beth am dreulio amser yn dod i wybod mwy am y cewri tanllyd hyn. Defnyddiwch y canllaw rhyngweithiol isod.

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Gweithgaredd Myfyriwr

Gweithiwch mewn grwpiau bychain i ddarganfod mwy am un o’r peryglon y sonnir amdanynt yn y canllaw rhyngweithiol:

  • Llif lafa

  • Llif mwd

  • Bomiau folcanig

  • Llif pyroclastig

  • Cymylau lludw

Paratowch gyflwyniad byr yn sôn am y perygl rydych chi wedi’i ddewis.

Meddyliwch am: 

  • Pam ei fod yn digwydd?

  • Pa effaith allai gael ar yr amgylchedd lleol?

  • Sut y gallai effeithio ar y bobl yn yr ardal?

    • A fyddai ysgolion ac ysbytai yn cael eu heffeithio?

    • Hwyrach y byddai’n tarfu ar drafnidiaeth?

    • A fyddai’n effeithio ar gyflenwadau bwyd a dŵr?

Cyflwynwch ei darganfyddiadau i’r dosbarth.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...