21

Perygl Calchfaen!

Perygl – Calchfaen!

Yn y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion byddwn ni’n edrych ar y peryglon sy’n wynebu cymunedau sy’n byw mewn amgylcheddau sydd o bosibl, yn beryglus.

Yn yr erthygl derfynol byddwn ni’n gofyn y cwestiwn: pam fod pobl yn dewis byw mewn perygl?

Mae amgylcheddau peryglus wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar oherwydd dau ddigwyddiad penodol, un sydd wirioneddol yn drychinebus.

  • Ar yr 28ain o Chwefror 2013 cafodd dyn o dalaith Fflorida ei lyncu gan dwll sinc a agorodd yn sydyn o dan ei ystafell wely. Dim ond wythnosau’n ddiweddarach, agorodd twll sinc arall yn yr un dref, ond ei fod yn fwy bas y tro hwn.
  • Ar y 5ed o Fawrth 2013, echdorodd y llosgfynydd Etna ar ynys Eidalaidd Sisili ym Môr y Canoldir. Tasgodd y llosgfynydd lafa a lludw i’r awyr gan arddangos pwer anhygoel y Ddaear.

Yn yr erthygl gyntaf hon, byddwn ni’n cael golwg ar rai o’r amgylcheddau peryglus y mae pobl yn dewis byw ynddynt: tirweddau calchfaen.

Defnyddiwch y cyflwyniad rhyngweithiol isod i ddysgu mwy am yr amgylcheddau hyn ac i weld enghreifftiau o’r peryglon.

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Gweithgaredd dosbarth

Fel cyflwyniad i’r wers, ar bapur nodyn dylai myfyrwyr ysgrifennu geiriau neu ymadroddion sy’n mynegi’r hyn maen nhw’n ei wybod yn barod am galchfaen a thirweddau calchfaen. Gellir gosod y nodiadau hyn ar y bwrdd neu’r wal a gellir cyfeirio atynt drwy gydol y wers neu’r dasg gyflawn.

Ar ôl darllen yr erthygl ‘Perygl – Calchfaen!’ gall myfyrwyr wneud y gweithgaredd canlynol.

Gweithio mewn parau, dewiswch rhai o’r nodweddion canlynol a gysylltir â thirweddau calchfaen a defnyddiwch werslyfrau ac adnoddau ar-lein dibynadwy i ddarganfod mwy amdanynt:

  • Palmentydd calchfaen

  • Clogwyni calchfaen a sialc

  • Uwchdir (bryniau)

  • Gwelyau ffosil

  • Ogofâu

  • Tyllau sinc

  • Ceunentydd

Dewiswch luniau sy’n tynnu sylw at agweddau pwysig eich nodwedd ddewisol. Tynnwch lun o leiaf un diagram (yn llawrydd neu’n defnyddio pecyn graffeg ar y cyfrifiadur) i’w gynnwys yn eich gwaith.

Rhowch eich gwaith gorffenedig i’r athro ei farcio.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...