20

Y Daith i Rio Rhan 1

Ar y Ffordd i Rio

Y flwyddyn nesaf mae Cwpan y Byd Pêl Droed 2014 yn cael ei gynnal ym Mrasil. Dwy flynedd yn ddiweddarach, yn ne ddwyrain Brasil, bydd Rio de Janeiro yn cynnal y Gemau Olympaidd nesaf. Yn y rhifyn hwn a rhifyn 22 o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion, byddwn ni’n edrych ar Frasil a’r digwyddiadau hyn yn fwy manwl.

undefined

Yn y rhifyn hwn byddwn ni’n edrych ar Frasil a sut y mae’r wlad hon yn Ne America wedi newid o wlad dlawd, heb ddatblygu’n economaidd (GLlEDd) i bwerdy economaidd mewn ychydig mwy na degawd. Byd y ddwy erthygl gysylltiedig yn cymharu dwy ddinas wahanol ym Mrasil. Byddwn ni’n astudio Rio de Janeiro (neu ddim ond Rio yn aml) a’r amryw ffyrdd y bu hi’n ddinas o GLEDd a gafodd ei hastudio fwyaf yn ysgolion Cymru dros y 25 mlynedd diwethaf. Y rheswm dros hynny yw ei bod hi’n dangos yr enghreifftiau gorau o broblemau sy’n wynebu dinasoedd yn y byd datblygol.

Byddwn ni’n cymharu Rio gydag un o ddinasoedd eraill Cwpan y Byd FIFA, sef Curitiba, sydd wedi dilyn model datblygu cwbl wahanol. Mae Curitiba, mewn sawl ffordd, yn cael ei hystyried yn un o’r dinasoedd mwyaf cynaliadwy yn y byd, os nad y mwyaf cynaliadwy. Heb os nac oni bai hi yw’r ddinas fwyaf cynaliadwy yn y byd datblygol.

 undefined

Rio de Janeiro

Astudio Brasil mewn ysgolion...

Tan yn ddiweddar, mewn ysgolion yng Nghymru, roedden ni’n sôn am wledydd cyfoethog (GMEDd a gwledydd tlawd (GLlEDd). Mae’n debyg mai un o’r gwledydd lleiaf economaidd ddatblygedig a astudiwyd fwyaf oedd Brasil. Fe’i gelwir yn aml mewn gwerslyfrau a chynhyrchwyd sawl rhaglen addysgiadol amdani, yn enwedig gan y BBC. Fodd bynnag, dros oddeutu’r pum mlynedd diwethaf mae bron iawn i bob ysgol wedi rhoi’r gorau i astudio Brasil fel gwlad lai economaidd datblygedig. Y rheswm dros hynny yw bod ei chyfradd ddatblygu wedi bod mor gyflym nes ei bod hi ddim yn gweddu i’r categori hwn bellach.

Yn y blynyddoedd diweddar rydyn ni wedi dechrau sôn am wledydd diwydiannol newydd. Mae Brasil yn enghraifft dda o wlad ddiwydiannol newydd. Fel China ac India, mae Brasil wed datblygu’nsydyn iawn gan droi’r pwer economaidd, mawr, byd-eang. Gyda Rwsia, sydd hefyd yn wlad enfawr, mae India, China a Brasil yn cael eu galw yn wledydd BRIC. Wrth iddyn nhw ddatblygu, maen nhw wedi newid economi’r byd ac wedi dod yn bwerau economaidd mawr, byd-eang. Nawr, mae’r hyn sy’n digwydd yng nghenhedloedd BRIC yn effeithio arnom ni yng Nghymru.

Oeddech chi'n gwybod?

Oeddech chi’n gwybod... Datblygu economaidd

Ystyr economaidd yw rhywbeth i wneud ag arian a ddaw fel arfer o’r gwaith y mae pobl yn ei wneud a’r diwydiannau yn eu gwlad. Mae’r rhan fwyaf o wledydd yn dechrau’n dlawd ac yn araf newid i fod yn gyfoethocach drwy newid y math o waith y mae’r bobl sy’n byw yno’n ei wneud. Weithiau, gelwir y broses hon yn ddatblygiad economaidd.

undefined

Weithiau, caiff gwledydd cyfoethog eu galw yn GMEDd sy’n golygu Gwledydd Mwy Economaidd Ddatblygedig. Mae Cymru yn enghraifft dda o Wlad Fwy Economaidd Ddatblygedig - rydyn ni’n byw yn un o wledydd cyfoethoca’r byd ac mae’n safonau byw ni yn uchel iawn o’i gymharu â’r rhan fwyaf o boblogaeth y byd. Ystyrir UDA yn un o’r enghreifftiau gorau o wlad fwy economaidd ddatblygedig.

Weithiau, caiff y gwledydd tlotaf eu galw yn GLlEDd sy’n golygu Gwledydd Llai Economaidd Ddatblygedig (weithiau bydd y Cenhedloedd Unedig yn defnyddio GLlLlEDd [Gwledydd Lleiaf Llai Economaidd Ddatblygedig] ar gyfer y gwledydd tlotaf - sydd ar y cyfan yn yr Affrica is-Saharaidd.

Y Daith i Rio - Datblygiad ym Mrasil

Gallwn edrych ar lefelau datblygiad diweddar Brasil fel rhywbeth sy’n cael ei yrru gan dri gwahanol beth:

  • Ffermio

  • Mwynau

  • Gweithgynhyrchu

Fel arfer, bydd Gledd yn cynhyrchu ac yn allforio cynnyrch gwreiddiol (unrhyw beth a gawn ni’n uniongyrchol o’r ddaear megis mwynau, pren neu fwyd). Mae gan Frasil lawer iawn o adnoddau gwreiddio a dau o’r prif feysydd datblygu yno yw ffermio a chynhyrchu bwyd, a chynnydd enfawr mewn cynhyrchu mwynau.

undefined

Maes arall a ddatblygwyd yno yw mewn cynnyrch eilradd (gwneud neu weithgynhyrchu pethau) ac mae de-ddwyrain Brasil wedi gweld cynnydd enfawr o amgylch dinasoedd Rio de Janeiro a Sao Paulo.

Datblygiad ym Mrasil - Ffermio

Er gwaetha’r ffaith bod gogledd-ddwyrain Brasil yn dioddef sychdwr blynyddol ac mai fforest law yw’r rhan helaethaf o ogledd Brasil, mae rhan fawr o’r wlad enfawr Dde Americanaidd hon yn berffaith ar gyfer amaethyddiaeth.

undefined

Mae gan rannau mawr o dde Brasil yr hinsawdd berffaith a phridd ffrwythlon ar gyfer ffermio prif fwyd. Mae gan ganol Brasil ardaloedd mawr o dir gwelltog ac mae’r rhain wedi dod yn ganolbwynt ar gyfer ffermio bugeiliol (yn enwedig ffermydd gwartheg mawr).

Datblygu ym Mrasil – Echdynnu mwynau

Mae gan Frasil nifer enfawr o fwynau sydd wedi cael eu defnyddio i allforio ac i gynnal gweithgynhyrchu domestig. Daw llawer o gyfoeth newydd Brasil o gynhyrchiant dur a’r gweithgynhyrchu cysylltiedig o bethau fel ceir neu longau hyd yn oed. Mae’r dyddodyn mwyn haearn mwyaf a phuraf yn y byd i’w gael yn y Carajás yn fforest law’r Amazon (gweler y llun uchod).

undefined

 

 

Dyma'r pwll haearn mwyaf yn y byd wedi'i leoli yn nhalaith Parâ yn y mynyddoedd Carajâs yng ngogledd Brasil.

Yn y pwll mae biliynau o dunelli o fwynau haearn yn ogystal ag aur, nicel, copr a maganîs.

 

 

 

Daw rhan helaeth o’r tanwydd ar gyfer toddi’r mwyn o olosg/siarcol sydd wedi’i wneud o goed Amasonaidd. Yn ardal yr Amazon mae gan Frasil gelc mawr o fwynau, o fwyn Bocsit, sy’n rhoi’r alwminiwm a ddefnyddir mewn awyrennau Embraer S.A., i emau gwerthfawr ac aur.

Hyd at 2007, yr unig fwynau nad oedd gan Frasil ddigonedd ohonynt oedd tanwydd ffosil. Newidiodd hyn yn llwyr pan ddarganfuwyd llawer iawn o olew, yn ddwfn o dan y môr ac yn ddwfn o dan wely’r môr. Cymerodd lawer iawn o waith peirianneg ond erbyn hyn mae’r olew yn llifo a wir wedi dechrau rhoi hwb i’r economi.

Datblygiad ym Mrasil - Gweithgynhyrchu

Cornel de ddwyrain Brasil, yn ganolog i ddinasoedd Rio de Janeiro a Sao Paulo, yw’r brif ardal weithgynhyrchu. Mae system drafnidiaeth Brasil fel un twmffat yn dod â’r adnoddau i gyd i un ardal i gael eu defnyddio mewn ffatrïoedd.

Mae cwmnïau amlwladol ceir yn yr ardal, yn cynnwys rhai brandiau mawr, byd-eang fel Toyota (a fydd, digwydd bod, yn adeiladu injans yng ngogledd Cymru o 2013 ymlaen). Mae gwaith dur enfawr yn defnyddio’r haearn sy’n dod o’r Amazonia fel y mae diwydiannu cysylltiedig fel adeiladu llongau, peirianneg drom a hyd yn oed y diwydiant awyrennau dan arweiniad y cawr aerofod Embraer S.A.

Mae’r math yma o ardal, sef un weithgynhyrchu trom, weithiau yn cael ei galw yn yr ardal graidd neu’r craidd economaidd. Gelwir ardaloedd eraill o wlad, y rhai sydd heb ddatblygu’n economaidd gymaint yn ardaloedd ymylol fel arfer.

Oeddech chi'n gwybod?

Bioethanol – a spoonful of sugar...

Alcohol yw Bioethanol, wedi’i fragu o siwgr (fel gwin neu gwrw) ac yna wedi’i ddistyllu fel fodca neu chwisgi i greu tanwydd pwerus. Gellir defnyddio bioethanol yn lle petrol a nes y darganfuwyd llwyth o olew oddi ar arfordir Brasil yn 2007, bioethanol oes yn pweru mwy na hanner y ceir ym Mrasil.

undefined

Dosberthir bioethanol fel tanwydd niwtral o ran carbon sy’n golygu ei fod yn tynnu’r un faint o CO2 o’r aer wrth iddo dyfu â’r hyn a wneir wrth ei ddefnyddio. Yn drist iawn, ar ôl darganfod yr olew yn 2007, penderfynodd y llywodraeth gorfrwdfrydig i ostwng pris petrol er mwyn rhoi hwb i’r gyfradd ddatblygu. Roedd hynny’n golygu bod Brasiliaid yn troi eu cefn ar fioethanol a thag at danwydd ffosil. Fodd bynnag, mae’r duedd hon wedi troi ar ei phen eto ar ôl i UDA roi terfyn ar drethi a tholl mewnforio ar fioethanol yn 2012.

Unwaith eto, mae Brasil yn paratoi i fod yn gynhyrchydd ac allforiwr ethanol mwya’r byd.

Ar y Ffordd i Rio – Oes yn newid

Dechreuodd Brasil wirioneddol newid ar ôl ethol yr Arlywydd President Luiz Inácio Lula da Silva yn 2002. Fe’i hadwaenir ar y cyfan fel Lula. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o wleidyddion, mae Lula yn gyn-weithiwr gwaith dur a ddaeth yn undebwr masnach oedd yn ymgyrchu dros gyflyrau gweithio gwell i Frasiliaid a oedd yn ennill cyflog cyfartalog neu is na chyfartalog.

undefined

Gadawodd yr Arlywydd Lula yr arlywyddiaeth yn 2011 ac er na chafodd dymor perffaith, canolbwyntiodd ei lywodraeth ar wella bywyd i Frasiliaid cyffredin. Mae llawer o’r trawsnewidiadau ym Mrasil o ganlyniad i’w bolisïau a’r ffordd y bu e’n ceisio symud y sylw oddi ar gyn-lywodraethwyr a oedd yn llygredig ac yn awchu am bwer.

Dan arweiniad Lula, nid yn unig bod Brasil wedi datblygu’n gyflym, ond mae wedi darparu model a sbardun sy’n galluogi i’r rhan fwyaf o Dde America gyflymu ei datblygiad.

Byd yr hwb datblygu nesaf yn dod o ganlyniad i Gwpan y byd FIFA 2014 a’r Gemau Olympaidd yn 2016. Byddwn ni’n archwilio'r rhain yn fanylach yn rhifyn 22 ynghyd â’r effaith y mae’r datblygiad wedi’i gael ar amgylchedd Brasil.

Gweithgaredd disgybl

Trip rhithiol:

    • Gweithiwch mewn grwp bychan o 2 neu 3

    • ‘Ewch’ i’r lleoedd a enwir yn yr erthygl hon yn defnyddio System Wybodaeth Ddaearyddol megis Google Earth neu Google Maps

  • Edrychwch am luniau ar y System Wybodaeth Ddaearyddol i weld beth sy’n digwydd yn y gwahanol rannau o Frasil -

    • y fforest law

    • ardaloedd sychdwr

    • pyllau enfawr

    • datgoedwigo ar gyfer golosg

    • adeiladu llongau

    • ffatrïoedd ceir ac yn y blaen.

Rhowch y lluniau hyn mewn i gyfres o sleidiau ar PowerPoint er mwyn arddangos eich darganfyddiadau i’ch athro.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...