20

Byw yn Rio

Croeso i Rio

Rio de Janeiro (neu ‘Rio’) yw’r ail ddinas fwyaf yn Ne America ac mae’n un o ddinasoedd enwoca’r byd. Fodd bynnag, mae’n her enfawr i’r llywodraeth oherwydd ei bod hi’n orlawn.

Mae ardaloedd do dai wedi cael eu datblygu heb gynllunio cywir. Yn aml iawn, does gan yr ardaloedd hyn ddim pibau dwr na systemau carthffosiaeth. Mae’r strydoedd mor gul dim ond beiciau modur sy’n gallu mynd ar eu hyd nhw!

undefined

Y broblem yw bod y ddinas wedi’i hamgylchynu gan fynyddoedd serth a’r môr, felly does dim modd iddi dyfu am allan. Mae strydoedd y ddinas yn llaw tagfeydd am oriau bob dydd. Mae hyn yn gwneud bywyd yn anodd iawn i weithwyr ac mae’n arafu twf economaidd.

Ond nid yw’n ddrwg i gyd - y copaon mawr hyn a’r traethau godidog sy’n gwneud Rio yn un o’r dinasoedd mwyaf atyniadol yn y byd i dwristiaid. Daw twristiaeth a miliynau o ddoleri i’r ddinas.

Bydd Gemau Olympaidd 2016 yn cael eu cynnal yn Rio, yn ogystal â rhai o brif gemau pêl-droed Cwpan y Byd 2014. Bydd y ddau ddigwyddiad enfawr yma yn helpu’r ddinas ddatblygu a goresgyn rhai o’i phroblemau economaidd, fel y gwnaed yn Newham, Dwyrain Llundain gyda’r Gemau Olympaidd y llynedd.

Heriau sy’n wynebu Rio - Trefoli

Ardal o dai heb ei chynllunio yw favela neu dref sianti fel Rociniha yn y llun hwn. Mewn gwledydd llai economaidd ddatblygedig, ceir miloedd o bobl yn symud o gefn gwlad i’r ddinas (mewnfudo). Enw’r broses hon yw trefoli.

undefined

 

 

Favela Rocinha yn Rio, cartref i tua 70,000 o bobl yn ôl cyfrifiad yn 2010.

Yn 2011, symudodd cannoedd o swyddogion heddlu a milwyr i'r favela â'r bwriad o dargedu criwiau cyffuriau a dod ag ychydig o gyfraith a threfn i'r ardal.

 

 

Yn aml iawn, bydd mudwyr tlawd yn cyrraedd ar dir ymyl fel llethrau peryglus o serth neu ardaloedd sydd mewn perygl llifogydd. Maen nhw’n adeiladu cabanau gyda phren gwastraff, cardfwrdd a haenau plastig ac mae’r ardaloedd yn gorlenwi. Nid oes gwasanaethau fel trydan a dwr yn y favelas.

Weithiau caiff trefi sianti eu dymchwel, ond fel arfer maen nhw’n ail-ymddangos. Mae’r bobl lwcus sy’n byw yno yn gwneud digon o arian i wella eu tai. Pan fydd hyn yn digwydd fe’u gelwir nhw yn ‘dai hunangymorth’.

Yn y pendraw, mae’r favelas yn cael eu hail-adeiladu a’u gwella cyn dod yn rhan barhaol o’r ddinas, ond mae sawl problem dal yn bodoli: 

  • Strydoedd rhy gul i lorïau bin

  • Dim lle i adeiladau cyhoeddus fel ysgolion

  • Dim gorsafoedd heddlu sy’n gallu golygu bod criwiau treisgar yn bodoli yn yr ardal

  • Pan ddaw’r heddlu yno, yn aml iawn bydd ‘rhyfel’ gyda’r criwiau sy’n gwneud arian yn gwerthu cyffuriau

  •  Darllenwch yr astudiaeth achos o Curitiba (erthygl 3) a chymharwch y tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhyngddi hi a Rio.

Mae rhai o’r trefi sianti mwyaf yn Rio yn cael eu dymchwel neu eu hail-adeiladu er mwyn gwneud y ddinas yn fwy diogel cyn Cwpan y Byd a’r Gemau Olympaidd.

Oeddech chi'n gwybod?

Trefoli

Trefoli yw’r math mwyaf o fudo yn y byd heddiw. Mewn rhannau tlawd o’r byd, mae’r boblogaeth yn tyfu yn sydyn iawn. Does dim digon o swyddi i bawb yn y wlad felly mae pobl yn mudo i’r trefi a’r dinasoedd.

Mae’n hollol wahanol mewn gwledydd cyfoethog fel Cymru. Mae llawer o bobl eisiau byw yn y wlad. Pan fydd pobl yn symud o’r ddinas i gefn gwlad, yr enw ar y broses honno yw gwrth drefoli.

Heriau sy’n wynebu Rio – Tagfeydd traffig

Mae symud o amgylch favela yn Rio yn ymylu ar fod yn amhosibl oni bai eich bod chi ar droes neu ar feic modur. Nid yw’r ddrysfa o lwybrau cul a serth yn galluogi ceir na thryciau i fynd i mewn i’r trefi sianti.

undefined

Mae gan ardaloedd cyfoethog Rio broblemau traffig mawr hyd yn oes. Y parth canol yw ardal fusnes ganolog y ddinas sy’n llawn busnesai a’u gweithwyr. Parth y De yw’r ardal ble mae’r bobl sydd â llawer o arian yn byw (a hefyd ble mae llawer o draethau byd enwog Rio).

Oherwydd bod y parthau hyn wedi eu datblygu’n dda, maen nhw’n gyfoethocach, a gyda chyfoeth daw ceir. Am oriau - fore a nos - mae’r parthau hyn yn llawn tagfeydd traffig yn rheolaidd.

Yn wahanol i ran fwyaf o ddinasoedd, nid yw Rio yn gallu ymledu (rhywbeth y mae daearyddwyr yn ei alw’n ymledu trefol). Fel y soniwyd uchod, mae Rio wedi’i amgylchynu gan lethrau serth a’r môr. Felly, beth mae Rio yn mynd i’w wneud?

Ffordd ymlaen? - Dinasoedd ymyl

Iawn, rydyn ni wedi meddwl am rai o’r heriau sy’n wynebu Rio:

  • Favelas

  • Gorlenwi

  • Tagfeydd traffig

Beth am atebion?

Penderfynodd cynllunwyr Rio i ddatrys y broblem drwy adeiladu ‘dinasoedd ymyl’ (gweler y blwch isod). Dechreuon nhw’r gwaith drwy wneud twneli drwy’r bryniau er mwyn cysylltu gydag ardaloedd o dir gwastad.

undefined

Barra, Brasil

Dechreuodd cynllunwyr Rio adeiladu dinas ymyl newydd o’r enw Barra. Maen nhw wedi ceisio osgoi’r problemau sy’n wynebu Rio drwy gynllunio’r ddinas newydd yn berffaith. Bydd hyn yn golygu y bydd gan Farra:

  • Trafnidiaeth

  • Cysylltiadau cyfryngol (ffôn a rhyngrwyd)

  • Ysgolion

  • Gofal iechyd

  • Cyfleusterau hamdden

Barra fydd safle y rhan fwyaf o Gemau Olympaidd 2016 a fydd yn creu mwy o swyddi ac yn annog pobl i symud yno o Rio orlawn. Mae’r cynllunwyr yn gobeithio y bydd poblogaeth Rio yn dechrau gostwng. Yna, bydden nhw’n cael gwared ar y tai diangen ac yn gwella’r lonydd yn Rio, yn enwedig yn y favelas.

Unwaith y bydd hyn wedi’i gyflawni, yn nod yw cael systemau trafnidiaeth torfol fel Curitiba (dinas sydd wedi’i chynllunion dda – byddwn ni’n edrych arni yn erthygl 3).

Oeddech chi'n gwybod?

Cysyniad – Dinas Ymyl

Daeth y syniad am ddinasoedd ymyl o UDA. Roedd dinasoedd fel Los Angeles yn dioddef tagfeydd traffig dyddiol ar briffyrdd a oedd yn effeithio llawer o bobl a busnesau. Penderfynodd llawer o gwmnïau ail-leoli i gyrion y ddinas a sefydlu eu busnesau yn un o’r anheddau newydd a gynlluniwyd yn arbennig.

undefined

Hefyd, datblygwyd ardaloedd tai, canolfannau siopa a chyfleusterau hamdden yn ogystal ag ysbytai ac ysgolion. Gallai gweithwyr o Rio gael tai gwell a rhatach heb y llygredd, troseddau a’r tagfeydd traffig yn yr hen ddinas.

 

 

Gweithgaredd disgybl

Cymharwch fyw yn Rio gyda byw ym Marra:

    • Ewch ar drip rhithiol i Farra (yn defnyddio Google Maps neu Google Earth)

    • Cymharwch yr hyn a welwch chi gyda’r lluniau a gasgloch yn y gweithgaredd diwethaf.

    • Yn defnyddio’r erthygl hon ac unrhyw wybodaeth arall, dychmygwch sut fyddai hi’n teimlo i symud o favela yn Rio i ‘ddinas ymyl’ fel Barra. Gofynnwch:

      • Sut deimlad fyddai symud i dy newydd?

      • Sut fyddech chi’n teimlo am gael mynd i ysgol iawn am y tro cyntaf?

      • Fyddech chi’n hiraethu am eich ffrindiau?

      • Fyddech chi’n teimlo’n fwy diogel nawr eich bod chi wedi gadael y favela?

      • Ym mha ffordd arall mae’ch bywyd chi wedi newid?

Ysgrifennwch lythyr neu gofnod dyddiadur am y newidiadau hyn – cofiwch gynnwys lluniau.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Y Daith i Rio Rhan 1

Y Daith i Rio Rhan 1