20

Byw yn Rio

Croeso i Rio

Rio de Janeiro (neu ‘Rio’) yw’r ail ddinas fwyaf yn Ne America ac mae’n un o ddinasoedd enwoca’r byd. Wrth i Frasil ddatblygu, mewn sawl ffordd mae Rio yn un o’r lleoedd mwyaf heriol i ddinas, gwladwriaeth a llywodraethau cenedlaethol. Mae’r ddinas yn orlawn ac mae sawl ardal o dai wedi’u datblygu heb gynllunio cywir, mae hyn yn golygu nad oes pibau dwr, systemau carthffosiaeth na hyd yn oed strydoedd a lonydd addas i gerbydau mwy na beic modur mewn sawl achos.

undefined

Mae’r ddinas wedi’i hamgylchynu gan fynyddoedd serth a’r môr sy’n rhwystro’r ddinas rhag ehangu. Yn aml iawn, bydd tagfeydd traffig difrifol am oriau ar y strydoedd gan gythruddo dinasyddion a rhwystro busnesau a thwf economaidd. Yn ddigon rhyfedd, y rhwystrau ffisegol hyn - copaon anhygoel a thraethau prydferth - sy’n gwneud Rio yn un o’r dinasoedd mwyaf atyniadol yn y byd gan greu potensial enfawr i dwf twristiaeth.

Dewiswyd Rio fel y ddinas a fyddai’n cynnal Gemau Olympaidd 2016 a hi hefyd fydd y ddinas bwysicaf ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd FIFA 2014. Mewn sawl ffordd, bwriad y digwyddiadau hyn yw helpu Rio i oresgyn ei phroblemau fel yr oedd bwriad i Gemau Olympaidd 2012 helpu Newham yn nwyrain Llundain gyda phroblemau cymdeithasol ac economaidd.

Heriau sy’n wynebu Rio - Trefoli

Ardal o dai heb ei chynllunio yw favela neu dref sianti fel Rociniha yn y llun hwn. Yn y rhan fwyaf o ddinasoedd mewn gwledydd llai economaidd ddatblygedig, gwelir llawer iawn o fewnfudo o’r wlad - proses sy’n cael ei gawl yn trefoli.

undefined

 

 

Favela Rocinha yn Rio, cartref i tua 70,000 o bobl yn ôl cyfrifiad yn 2010.

Yn 2011, symudodd cannoedd o swyddogion heddlu a milwyr i'r favela âr bwriad o dargedu criwiau cyffuriau a dod ag ychydig o gyfraith a threfn i'r ardal

 

 

Yn Affrica, Asia a De America mae’r mudwyr druan hyn yn aml iawn yn cyrraedd tir ymylol, e.e. llethrau peryglus o serth neu ardaloedd sy’n debygol o gael llifogydd. Yn fan hyn, maen nhw’n adeiladu cabanau blêr gyda gwastraff pren, cardfwrdd a phlastig. Gydag amser, mae’r ardaloedd hyn wedi llenwi â chabanau eraill ond does ganddyn nhw ddim gwasanaethau dwr er enghraifft. Weithiau bydd teirw dur swyddogol y ddinas yn dod yno i’w clirio nhw ond buan y byddan nhw’n ail-ymddangos. Bydd rhai preswylwyr sy’n gwneud digon o arian yn gweithio yn gallu gwella eu tai a phan fydd hyn yn digwydd, bydd yr ardaloedd yn cael eu hadnabod fe ‘tai hunangymorth’.

Yn y pendraw, pan fyddan nhw wedi cael eu gwella bydd favelas yn troi’n rhywbeth parhaol. Bydd preswylwyr yn ailadeiladu eu tai â brics, sment, concrid a haenen ddur neu do teils. Fodd bynnag, nid oes math o lôn wedi’i hadeiladu na systemau dwr neu garthffosiaeth. Efallai bod swyddogion yn ddinas yn adnabod rhan fel rhannau parhaol o’r ddinas ond does dim modd iddyn nhw gasglu sbwriel oherwydd diffyg lle i’r cerbydau.

Doed dim lle i adeiladau cyhoeddus fel ysgolion neu orsafoedd heddlu mewn trefi sianti. Un broblem erchyll yw nad oes gwasanaeth plismona yno nes eu bod nhw’n cael eu cydnabod fel ardal yn swyddogol. O’r herwydd yn aml iawn mae’r trefi sianti yn cael eu rheoli gan griwiau treisgar. Unwaith bydd yr ardal yn cael ei chydnabod, mae'n rhaid i’r heddlu ddechrau rhyfel rhithiol er mwyn sefydlu rheolaeth cyfraith. Mae hyn yn digwydd nawr yn Rio er mwyn gwneud y ddinas yn fwy diogel ar gyfer Cwpan y Byd a’r Gemau Olympaidd.

Oeddech chi'n gwybod?

Trefoli

Trefoli yw’r ffurf fwyaf o fudo yn y byd heddiw. Mewn rhannau tlawd o’r byd, mae’r boblogaeth yn ehangu’n gyflym yn sgil gwell mynediad i ofal meddygol yn lleihau’r gyfradd marwolaeth. Nid yw cefn gwlad yn gallu darparu digon o waith na chyfleoedd i’r twf yn y boblogaeth, felly mae pobl yn mudo i drefi a dinasoedd. Disgrifir rhanbarthau cefn gwlad fel ardaloedd gwledig. Weithiau, disgrifir trefi a dinasoedd fel ardaloedd trefol. Dyna o le daw’r termau ‘trefoli’ neu ‘mudo gwledig i drefol’.

I gyferbynnu, mewn gwledydd mwy economaidd ddatblygedig, fel Cymru, bydd pobl eisiau byw yn y wlad ac felly byddwn ni’n gweld pobl yn symud o ardaloedd trefol i ardaloedd gwledig; proses o’r enw gwrthdrefoli.

 

Heriau sy’n wynebu Rio - Tagfeydd traffig

Mae trafnidiaeth yn favelas Rio yn broblem fawr. Dim ond cerddwyr neu feiciau modur sy’n gallu symud drwy ddrysfa’r llwybrau sydd ar lethrau serth.

undefined

Mae Parth Canol a Pharth y De dinas Rio, sy’n ardaloedd hyn ond cyfoethocach, yn profi rhai o’r tagfeydd traffig gwaethaf yn y byd. Y rheswm dros hyn yw, yn sgil datblygiad y daw cyfoeth ac yn sgil cyfoeth y daw ceir. Y Parth Canol yw ardal fusnes ganolog Rio sef terfyn taith ddyddiol y rhan fwyaf o weithwyr Rio. Ar ddiwedd y dydd, bydd llawer o’r rhain yn dychwelyd i ardal fwy preswyl Parth y De, sy’n agos i draethau enwog Rio. Am oriau - fore a nos - mae’r parthau hyn yn llawn tagfeydd traffig yn rheolaidd.

Yn wahanol i’r rhan fwyaf o ddinasoedd, nid yw Rio yn gallu mynd drwy’r broses o ymledu trefol. Fel y soniwyd uchod, mae Rio wedi’i hamgylchynu gan un ai llethrau serth ar un ochr a’r môr ar yr ochr arall. Felly, beth mae Rio yn mynd i wneud?

Ffordd ymlaen? – Dinasoedd ymylol

Wedi’u hwynebu â phroblem Rio, penderfynodd y cynllunwyr gopïo datrysiad o UDA - dinasoedd ymylol (gweler y blwch gwybodaeth isod). Mi ddechreuon nhw drwy dyrchu twneli drwy’r bryniau er mwyn cysylltu â thiroedd gwastad draw ymhellach ar yr arfordir. Y cyntaf o’r rhain yw Barra (llun isod). Dechreuodd Rio adeiladu dinas newydd, gan osgoi’r camgymeriadau sy’n bodoli yn Rio gan felly ddod â swyddi a gweithwyr o Rio i Barra.

undefined

Nod Barra yw bod yn ddinas sydd wedi’i chynllunio’n berffaith, gydag isadeiledd cyfoes ar ffurf trafnidiaeth, cyfathrebu, cyfryngau, ysgolion, gofal iechyd a hamdden. Bydd Barra yn elwa hyd yn oed mwy fyth drwy fod yn safle i’r rhan fwyaf o Gemau Olympaidd 2016.

Wrth i Barra dyfu mi fydd Rio yn dechrau dadboblogi ei hun. Mae’r cynllun yn golygu y bydd swyddogion y ddinas yn gallu prynu a chael gwared ar adeiladau diangen er mwyn ehangu rhwydwaith y ffyrdd ym mhob parth, ond yn y favelas yn enwedig. Gellir gosod isadeiledd cyfoes o dan y ffyrdd er mwyn galluogi pwer, carthffosiaeth, dwr a thelathrebu i gyrraedd pob rhan o’r ddinas. Gobeithio, unwaith y bydd hyn wedi’i wneud, bydd systemau trafnidiaeth dorfol fel rhai Curitiba (gweler erthygl 3) hefyd yn gallu cael eu sefydlu, a chael gwared â hyd yn oed mwy o draffig oddi ar y ffyrdd.

Oeddech chi'n gwybod?

Cysyniad - Dinasoedd Ymyl

Datblygwyd y cysyniad o ddinasoedd ymyl yn UDA. Roedd dinasoedd fel Los Angeles yn dioddef tagfeydd traffig dyddiol ar briffyrdd a oedd yn effeithio llawer o fusnesau ac ansawdd bywyd y gweithwyr yn ogystal â’u cynhyrchaeth. Penderfynodd llawer o gwmnïau ail-leoli i gyrion y ddinas a sefydlu eu busnesau yn un o’r anheddau newydd a gynlluniwyd yn arbennig.

undefined

 

 

Gweithgaredd disgybl

Trip rhithiol 2:

    • Gweithiwch mewn grwp bychan o 2 neu 3

    • Defnyddiwch System Wybodaeth Ddaearyddol i ddarganfod lluniau i gymharu gwahanol ranbarthau o Rio

    • Cymharwch y rhain a Barra

Darllenwch yr astudiaeth achos am Curitiba (erthygl 3) a chymharwch y gwahaniaethau a’r tebygrwydd rhwng Rio a Curitiba.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Y Daith i Rio Rhan 1

Y Daith i Rio Rhan 1