Mae Daearyddwyr wrth eu bodd yn sôn am gynaliadwyedd. Ond beth mae’n ei olygu?
Mae bod yn gynaliadwy yn golygu gallu parhau i fynd - am amser maith. Mae’n swnio fel syniad syml, ond pan rydych chi’n siarad am bethau sy’n defnyddio defnydd, gofod ac ynni (fel dinas), efallai nad ydyw mor hawdd â hynny...
Sut allwch chi adeiladu dinas i gannoedd o filoedd o bobl fyw ynddi heb losgi ynni, llygru’r ddaear a’r aer a gwneud llanast llwyr o’r lle? Wel, mae’n debyg bod gan un ddinas ym Mrasil yr ateb!
Disgrifiwyd Curitaba, prifddinas talaith Paraná ym Mrasil, fel y ddinas fwyaf cynaliadwy yn y byd. Ffrwyth llafur dyn o’r enw Jaime Lerner yw Curitiba.
40 o flynyddoedd yn ôl, pan oedd y diwydiant yn tyfu yn sydyn mewn dinasoedd Brasilaidd, penderfynodd Curitiba wneud pethau yn wahanol. Yn gyntaf, dim ond cwmnïau ‘di-lygredd’ oedd yn cael symud yno. Yna, adeiladon nhw ardal ddiwydiannol gyda chymaint o wyrddni nes eu bod nhw’n cael eu galw yn “gyrsiau golff” (tan iddyn nhw ddod yn fwy llwyddiannus na phawb arall!)
Dros gyfnod o 30 mlynedd, tyfodd enillion neu gynnyrch domestig Curitiba yn gynt na gweddill Brasil. Beth bynnag oedden nhw’n ei wneud – roedd e’n gweithio!
Pan adeiladwyd y ddinas gan gynllunwyr y ddinas, treulion nhw lawer o amser yn meddwl am y bobl a fyddai’n byw yno.
Adeiladon nhw:
Ganolfannau iechyd
Ysgolion a phrifysgol
Rhwydweithiau gofal dydd
Llyfrgelloedd cymunedol
Cyfleusterau chwaraeon
Fe wnaeth y cynllunwyr hi’n hawdd i’r bobl ddefnyddio’r gwasanaethau cyhoeddus (bwrdeistrefol) hyn drwy adeiladu ‘Strydoedd Dinasyddion’. Roedd hynny’n golygu adeiladu cyfleusterau bwrdeistrefol yn agos i’r terfynfeydd trafnidiaeth dorfol - yn enwedig ger system fysiau anhygoel Curitiba (gweler isod).
Wedi’r cyfan – does dim pwynt darparu cymaint o wasanaethau da os nad oes modd eu cyrraedd nhw!
Mae gan y ddinas Brifysgol Agored (gweler y llun uchod) fel bod preswylwyr yn gallu gwneud cyrsiau mewn pynciau fel mecanyddiaeth neu steilio gwallt. Mae llywodraeth Curitiba yn ceisio darparu cyfleoedd gwaith a chyfle i bawb yn y ddinas ennill mwy o arian. Maen nhw hefyd eisiau i bobl allu bod yn berchnogion ar eu tai eu hunain ac maen nhw wedi prynu llawer o dir i bobl adeiladu arno.
Yn Curitiba mae Cronfa Dai Bwrdeistrefol sy’n helpu gweithiwyr incwm isel i adeiladu tai eu hunain. Caiff y gweithwyr gwrdd â phensaer am awr, am ddim, er mwyn cael help gyda datblygu eu cynlluniau.
Pan gaiff favela ei chlirio, bydd y preswylwyr yn symud mewn i gymunedau wedi’u cynllunio a bydd rhai preswylwyr yn derbyn hyfforddiant adeiladu a morgais bychan. Bydd hyn yn eu helpu nhw i brynu’r tir a’r defnydd ar gyfer y ty a’i adeiladu eu hunain.
Bydd sgiliau adeiladu newydd y gweithwyr yn eu helpu nhw i ddod o hyd i waith sy’n talu’n well hefyd. Yn araf, bydd gweithwyr anffurfiol o drefi sianti yn berchnogion ar dai gyda gwell cyfle o gael swydd iawn.
Erbyn yr 1960au, roedd poblogaeth Curitiba wedi chwyddo i 430,000. Awgrymodd Jaime Lerner, y pensaer a fyddai’n faer yn ddiweddarach, rai o’r syniadau hyn:
Rheolaeth lem ar ymledu trefol
Lleihau traffig yng nghanol y dref
Cadwraeth Sector Hanesyddol Curitiba
System deithio cyhoeddus hwylus a fforddiadwy
Llwyddodd i wneud pob un o’r rhain dros bedestreiddio rhannau mawr o’r Ardal Fusnes Ganolog, yn ogystal â dylunio ffordd newydd er mwyn lleihau traffig, sef y System Ffordd Driphlyg.
Mae pump o’r ffyrdd triphlyg yn ffurfio siâp seren sy’n cydgyfeirio canol y ddinas. Mae’r system drafnidiaeth bysus yn cludo dros 2 filiwn o deithwyr bob dydd. Er bod llawer o berchnogion ceir yn Curitiba, mae traffig wedi gostwng 30%, ac mae llygredd amgylcheddol y ddinas yr isaf ym Mrasil.
Rhan fawr o lwyddiant Curitiba yw ei System Ffordd Driphlyg sydd wedi’i chynllunio’n ofalus iawn.
Mae gan bobl ffordd, ddwy lôn un ffordd ar yr ochr allan ar gyfer traffig cyffredin, a ffordd â dwy lôn i wahanol gyfeiriad yn y canol ar gyfer y ‘system trawstaith fws gyflym‘. Mae’r bysiau yn hir ac wedi’u rhannu’n dair rhan. Mae mynediad anabl da iddyn nhw a dim ond un pris dim ots pa mor bell yw eich taith chi.
Caiff y system ei defnyddio gan 85% o boblogaeth Curitiba ac mae dinasoedd ledled Brasil ac o amgylch y byd wedi ei chopïo.
Mae’r ddinas yn cymryd llawer o sylw o’r ardaloedd gwyrdd ac mae hi wedi cael ei bedyddio yn brifddinas ecolegol Brasil. Mae ganddi 28 o barciau ac ardaloedd coediog ac mae ‘na 52 metr sgwâr o wyrddni ar gyfer bob un person. (Yn ôl ym 1970 dim ond 1 metr sgwâr o wyrddni oedd i bob person).
Mae’r ‘gwyrddni’ yn bosibl oherwydd:
Mae 1.5 miliwn o goed wedi cael eu plannu ar hyd y strydoedd
Mae adeiladwyr yn talu llai o dreth ar brosiectau â gwyrddni
Caiff dwr ei anfon i lynnoedd newydd mewn parciau (sydd hefyd yn lleihau llifogydd)
Mae torri glaswellt yn y parciau wedi cael ei newid am ddefaid yn pori, sy’n ddefnydd cynaliadwy gwych o wyrddni.
Mae’r cynllun "y gyfnewidfa werdd" yn helpu pobl sydd mewn angen a’r amgylchedd mewn sawl ffordd:
Daw teuluoedd sy’n byw mewn trefi sianti na ellir eu cyrraedd â lorïau bin â’u sbwriel i ganolfannau cymunedol
Mae plant yn gallu cyfnewid gwastraff sy’n cael ei ailgylchu am adnoddau i’r ysgol, siocled, teganau a thocynnau i sioeau
Mae hyn yn golygu llai o sbwriel a llai o afiechyd yn ogystal â gwell bywyd i’r tlodion heb ddigon o faeth.
Caiff 70% o wastraff y ddinas ei ailgylchu gan breswylwyr y ddinas fel rhan o’r cynllun "Sbwriel? ‘Dyw hwnna ddim yn sbwriel’ " (‘O Lixo que Não é Lixo’). Unwaith yr wythnos, bydd tryc yn casglu papur, cardfwrdd, metel, plastig a gwydr sydd wedi cael ei ddidoli yng nghartrefi’r ddinas.
Mae hyn yn achub coed ac mae’r arian a godir o werthu’r deunyddiau yn cael ei ddefnyddio i help pobl mewn angen, pobl ddigartref neu bobl â phroblemau alcohol neu gyffuriau er enghraifft.
Cyn rhoi cynnig ar y cwis, sicrhewch eich bod chi wedi darllen pob un o’r erthyglau yn y rhifyn hwn:
Y Daith i Rio – Rhan 1
Byw yn Rio
Curitiba
Dyluniwch eich dinas gynaliadwy eich hun (neu ysgol)
Rhowch eich syniadau ar boster neu mewn cyflwyniad PowerPoint a’u rhannu nhw gyda’r dosbarth.